Cantref Gwarthaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
map / rhyngwici
Llinell 3: Llinell 3:
Roedd Gwarthaf yn ardal ffrwythlon ar lan [[Bae Caerfyrddin]]. I'r gorllewin ffiniai â chantrefi [[Penfro (cantref)|Penfro]] a [[Daugleddau (cantref)|Daugleddau]], i'r gogledd ag [[Uwch Nyfer]] yng nghantref [[Cemais (cantref yn Nyfed)|Cemais]] a chantref [[Emlyn (cantref)|Emlyn]], ac i'r dwyrain â chwmwd [[Gwdigada]] yn y [[Cantref Mawr]] a chwmwd [[Cydweli (cantref)|Cydweli]] yng nghantref [[Eginog]].

[[Delwedd:LDGwarthafCantref.png|300px|bawd|Cantref Gwarthaf a'i gymydau]]
Rhywbryd yn ystod yr Oesoedd Canol, rhanwyd cantref Gwarthaf yn wyth [[cwmwd]], sef :
Rhywbryd yn ystod yr Oesoedd Canol, rhanwyd cantref Gwarthaf yn wyth [[cwmwd]], sef :
*[[Efelffre]]
*[[Efelffre]]
Llinell 24: Llinell 25:
[[Categori:Teyrnas Dyfed]]
[[Categori:Teyrnas Dyfed]]
[[Categori:Teyrnas Deheubarth]]
[[Categori:Teyrnas Deheubarth]]

[[en:Cantref Gwarthaf]]

Fersiwn yn ôl 23:01, 13 Tachwedd 2007

Yr oedd cantref Gwarthaf yn un o saith gantref teyrnas Dyfed yn yr Oesoedd Canol. Mae ei diriogaeth yn gorwedd yn ne-orllewin Sir Benfro a rhan o orllewin Sir Gaerfyrddin heddiw.

Roedd Gwarthaf yn ardal ffrwythlon ar lan Bae Caerfyrddin. I'r gorllewin ffiniai â chantrefi Penfro a Daugleddau, i'r gogledd ag Uwch Nyfer yng nghantref Cemais a chantref Emlyn, ac i'r dwyrain â chwmwd Gwdigada yn y Cantref Mawr a chwmwd Cydweli yng nghantref Eginog.

Cantref Gwarthaf a'i gymydau

Rhywbryd yn ystod yr Oesoedd Canol, rhanwyd cantref Gwarthaf yn wyth cwmwd, sef :

Roedd canolfannau pwysicaf Gwarthaf yn cynnwys Arberth, safle un o lysoedd pwysicaf Dyfed y cyfeirir ato yn y Pedair Cainc, a Chaerfyrddin, fu'n ganolfan bwysig ers dyddiau'r Rhufeiniaid. Yno hefyd ceir llys brenhinol hynafol yr Hendy-gwyn ar Daf, a oedd yn ogystal yn lleoliad clas cynnar ac yn ddiweddarach yn ganolfan i'r Sistersiaid yng Nghymru.

Ymhlith ei ganolfannau eglwysig ceir Llan Deulyddog yn nhref Caerfyrddin, un o saith esgobdai Cymru'r Oesoedd Canol : ysgrifenwyd Llyfr Du Caerfyrddin yno yn ôl pob tebyg. Canolfan arall oedd Meidrym, eglwys gysylltiedig â chwlt Dewi Sant.

Cyfeiriadau

  • J. E. Lloyd, A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, 1937)