Hirohito: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B →Cyfeiriadau: clean up |
|||
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
{{cyfeiriadau}} |
{{cyfeiriadau}} |
||
⚫ | |||
[[Categori:Genedigaethau 1901|Hirohito]] |
[[Categori:Genedigaethau 1901|Hirohito]] |
||
[[Categori:Marwolaethau 1989|Hirohito]] |
[[Categori:Marwolaethau 1989|Hirohito]] |
||
[[Categori:Ymerodron Siapan|Hirohito]] |
[[Categori:Ymerodron Siapan|Hirohito]] |
||
⚫ |
Fersiwn yn ôl 11:50, 14 Mawrth 2017
Yr Ymerawdwr Shōwa (昭和天皇 Shōwa Tennō) (29 Ebrill, 1901 - 7 Ionawr, 1989) oedd 124fed ymerawdwr Siapan. Fe deyrnasodd rhwng 25 Rhagfyr 1926, hyd ei farwolaeth yn 1989. Adnabyddir ef oddi allan i Japan gan yr enw Hirohito (裕仁), sef "benthyciadau gorfodol, niferus". Rhoddwyd yr enw Ymerawdwr Shōwa iddo ar ôl iddo farw a gelwir yr amser pan deyrnasodd y Cyfnod Shôwa (昭和時代 Cyfnod Hedd Goleuedig) yn Siapan. Fe oedd yn rheoli Siapan drwy gydol yr Ail Ryfel Byd. Ei deyrnasiad oedd yr un mwyaf hir o bob ymerawdwr. Ei fab hynaf, a'r ymerawdwr heddiw, yw Akihito.
Ar ddechrau ei deyrnasiad, roedd Japan yn un o bwerau mawr y byd: y 9fed ar ôl yr Eidal o ran economi a'r trydydd o ran llynges arfog. Roedd hefyd yn aelod o Gynghrair y Cenhedloedd.[1] Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, ni chafodd mo'i erlyn am droseddau rhyfel. Ceir llawer o ddadlau am ei ran ym mhenderfyniadau milwrol ei wlad, ac osgodd farwolaeth ar ddiwedd y rhyfel.[2] Wedi'r rhyfel daeth yn symbol o'r wlad newydd ac erbyn diwedd ei deyrnasiad, roedd Japan yn ail economi mwyaf y byd.
Cyfeiriadau
- ↑ Northedge, Frederick S. (1986). The League of Nations: Its Life and Times, 1920-1946. New York: Holmes & Meier. tt. 42–48. ISBN 978-0841910652.
- ↑ Y. Yoshimi and S. Matsuno, Dokugasusen Kankei Shiryô II, Kaisetsu, Jugonen Sensô Gokuhi Shiryoshu, 1997, t. 27–29