Lein Arfordir y De: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
B →‎Hanes: clean up
Llinell 14: Llinell 14:
Ffurfiwyd NICTD (Ardal Cluidiant Cymudwr Gogledd Indiana) ym 1977 er mwyn derbyn arian o'r llywodraeth, a derbynwyd grantiau ar gyfer cerbydau a chledrau erbyn 1979.
Ffurfiwyd NICTD (Ardal Cluidiant Cymudwr Gogledd Indiana) ym 1977 er mwyn derbyn arian o'r llywodraeth, a derbynwyd grantiau ar gyfer cerbydau a chledrau erbyn 1979.


Ym 1989, aeth y cwmni Chicago, South Shore a South Bend yn fethdalwr. Prynwyd gwasanaethau nwyddau'r rheilffordd gan Reilffordd Anacosta a Pacific; mae NICTD yn berchennog y gwasanaethau i deithwyr, a phrynodd y cwmni'r lein ym 1990. Ym 1992, symudwyd [[Gorsaf reilffordd South Bend]] i [[Maes awyr South Bend|Faes awyr South Bend]]. <ref>[http://southshore.railfan.net/ss-hist.html Gwefan southshore.railfan.net]</ref>
Ym 1989, aeth y cwmni Chicago, South Shore a South Bend yn fethdalwr. Prynwyd gwasanaethau nwyddau'r rheilffordd gan Reilffordd Anacosta a Pacific; mae NICTD yn berchennog y gwasanaethau i deithwyr, a phrynodd y cwmni'r lein ym 1990. Ym 1992, symudwyd [[Gorsaf reilffordd South Bend]] i [[Maes awyr South Bend|Faes awyr South Bend]].<ref>[http://southshore.railfan.net/ss-hist.html Gwefan southshore.railfan.net]</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 10:45, 14 Mawrth 2017

Cerbydau Chicago, South Shore a South Bend

Mae Lein Arfordir y De (Saesneg:South Shore Line) yn rheilffordd gymudwyr rhwng South Bend (Indiana) a Chicago (Illinois).

Hanes

Ffurfiwyd cwmni Rheilffordd 'Chicago & Indiana Air Line' ar 2 Rhagfyr 1901, a dechreuodd y gwasanaeth rhwng Dwyrain Chicago a Harbwr Indiana ym Medi 1903.

Newidwyd yr enw i "Reilffordd Chicago, Arfordir Llyn a South Bend" ym 1904 a dechreuodd gwaith adeiladu at South Bend ym 1906. Dechreuodd y gwasanaeth rhwng Dinas Michigan a South Bend ar 1 Gorffennaf 1908. Estynwyd y lein i Hammond erbyn 8 Medi 1906 ac at Gary ym 1910. Dechreuodd y gwasanaeth i orsaf reilffordd Stryd Randolph ar 2 Mehefin 1912.

Ffurfiwyd Cwmni Rheilffordd Chicago, South Shore a South Bend ar 23 Mehefin 1925, a phrynodd y cwmni'r lein ar 29 Mehefin am $6,474,843. Cwbwlhawyd adeiladu'r lein ym mis Hydref. Newidwyd foltedd y leini 1500 folt DC ym mis Gorffennaf 1926.

Gary, Indiana

Prynwyd y lein gan Reilffordd Chesapeake ac Ohio ar 3 Ionawr 1967.

Ffurfiwyd NICTD (Ardal Cluidiant Cymudwr Gogledd Indiana) ym 1977 er mwyn derbyn arian o'r llywodraeth, a derbynwyd grantiau ar gyfer cerbydau a chledrau erbyn 1979.

Ym 1989, aeth y cwmni Chicago, South Shore a South Bend yn fethdalwr. Prynwyd gwasanaethau nwyddau'r rheilffordd gan Reilffordd Anacosta a Pacific; mae NICTD yn berchennog y gwasanaethau i deithwyr, a phrynodd y cwmni'r lein ym 1990. Ym 1992, symudwyd Gorsaf reilffordd South Bend i Faes awyr South Bend.[1]

Cyfeiriadau

Dolen allanol