Harri III, brenin Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Wici Rhuthun 1 (sgwrs | cyfraniadau)
William Marshal, Iarll 1af Penfro
B →‎Plant: clean up
Llinell 21: Llinell 21:
{{Brenhinoedd Lloegr a Phrydain}}
{{Brenhinoedd Lloegr a Phrydain}}
{{Rheoli awdurdod}}
{{Rheoli awdurdod}}

{{eginyn Saeson}}


[[Categori:Genedigaethau 1207]]
[[Categori:Genedigaethau 1207]]
[[Categori:Marwolaethau 1272]]
[[Categori:Marwolaethau 1272]]
[[Categori:Brenhinoedd a breninesau Lloegr]]
[[Categori:Brenhinoedd a breninesau Lloegr]]

{{eginyn Saeson}}

Fersiwn yn ôl 13:20, 13 Mawrth 2017

Brenin Harri III

Harri III (1 Hydref 1207 - 16 Tachwedd 1272), oedd brenin Lloegr o 19 Tachwedd, 1216 hyd ei farw. Roedd yn fab i John, brenin Lloegr a'r frenhines Isabella o Angouleme. Roedd yn frawd i Siwan, gwraig Llywelyn Fawr. Eifeddodd yr orsedd pan oedd yn ddim ond naw oed yn ystod Rhyfel Cynta'r Bwrniaid. Arweiniwyd milwyr Harri gan William Marshal, Iarll 1af Penfro gan drechu'r gwrthryfelwyr ym Mrwydr Lincoln a Sandwich yn 1217. William Marshal oedd ei ymgeleddwr, wedi marwolaeth y brenin John.

Cymerodd Harri lw y byddai'n ffyddlon i Siarter Mawr1225, a oedd yn cyfyngu hawliau'r Brenin ac yn dyrchafu hawliau'r barwniaid. Ar ddechrau ei frenhiniaeth, domineiddiwyd ei arweinyddiaeth gan Hubert de Burgh ac yna Peter des Roches, a wnaeth dro pedol gan drosglwyddo'r hawliau yn ôl i'r brenin. Ceisioidd y brenin, yn aflwyddiannus drechu Ffrainc - y rhan a fu ar un tro'n eiddo i'w dad. Yn 1232 gwrthryfelodd mab William Marshal yn erbyn y brenin, ond daeth yr Eglwys i gymodi rhyngddynt a chafwyd cyfnod o heddwch.

Manylion personnol

Fe'i ganwyd yng Nghaerwynt. Priododd Eleanor o Provence yn Ionawr 1236.

Plant

  1. Edward (1239–1307)
  2. Marged (1240–1275)
  3. Beatrice (1242–1275)
  4. Edmund Crouchback (1245–1296)
  5. Catrin (1253–1257)
Rhagflaenydd:
John
Brenin Lloegr
19 Tachwedd 121616 Tachwedd 1272
Olynydd:
Edward I
Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.