Crwth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 4: Llinell 4:
== Y Crwth yng Nghymru ==
== Y Crwth yng Nghymru ==


Roedd yn offeryn cyffredin iawn yng [[Cymru|Nghymru]]'r [[Oesoedd Canol]]. Cyfeirir ato yn y [[Cyfraith Hywel Dda|Cyfreithiau Cymreig]]: ''pop penkert... e brenyn byeu keysyau ofer y dau nyd amken atelyn yhun a chrud y arall'' (''[[Y Llyfr Du o'r Waun]]'', c. [[1200]]). Ymddengys fod [[Beirdd yr Uchelwyr|beirdd yr uchelwyr]] yn edrych i lawr eu trwynau ar y crythor. Prin yw'r cyfeiriadau at yr offeryn ganddynt. Weithiau, fel yn achos y [[Pîb|pibau]] a'u sain aflafar, mae'n destun dirmyg, e.e. mewn cerdd gan [[Lewys Glyn Cothi]] (fl. [[1420]]-[[1489]]): ''Pob ddau y glêr a ddeuyn', / pob dri fry i dŷ pob dyn; / wrth y drws un â'i grwth drwg, / a baw arall â'i berrwg'' (''Gwaith Lewys Glyn Cothi'', 63.25-8). Ac eto mae'n amlwg fod iddo le digon anrhydeddus dan yr hen drefn er ei fod yn is ei safle na'r [[telyn|delyn]]. Roedd yn boblogaidd iawn ym [[Môn]] yn yr [[16eg ganrif]] a'r [[17eg ganrif]], fel y tystia marwnad [[Huw Pennant]] (fl. [[1565]]-[[1619]]) i'r crythor [[Siôn Alaw]]: ''Y crwth hwn, croyw a thyner / Y gwnâi ei was pynciau pêr / Ac weithian mewn cwynfan cawdd / Y felysgerdd a floesgawdd''. Roedd y crwth yn dal i gael ei chwarae mewn rhannau o Gymru hyd at y [[19eg ganrif]].
Roedd yn offeryn cyffredin iawn yng [[Cymru|Nghymru]]'r [[Oesoedd Canol]]. Cyfeirir ato yn y [[Cyfraith Hywel Dda|Cyfreithiau Cymreig]]: ''pop penkert... e brenyn byeu keysyau ofer y dau nyd amken atelyn yhun a chrud y arall'' (''[[Y Llyfr Du o'r Waun]]'', c. [[1200]]). Ymddengys fod [[Beirdd yr Uchelwyr|beirdd yr uchelwyr]] yn edrych i lawr eu trwynau ar y crythor. Prin yw'r cyfeiriadau at yr offeryn ganddynt. Weithiau, fel yn achos y [[Pibau Cymreig|pibau]] a'u sain aflafar, mae'n destun dirmyg, e.e. mewn cerdd gan [[Lewys Glyn Cothi]] (fl. [[1420]]-[[1489]]): ''Pob ddau y glêr a ddeuyn', / pob dri fry i dŷ pob dyn; / wrth y drws un â'i grwth drwg, / a baw arall â'i berrwg'' (''Gwaith Lewys Glyn Cothi'', 63.25-8). Ac eto mae'n amlwg fod iddo le digon anrhydeddus dan yr hen drefn er ei fod yn is ei safle na'r [[telyn|delyn]]. Roedd yn boblogaidd iawn ym [[Môn]] yn yr [[16eg ganrif]] a'r [[17eg ganrif]], fel y tystia marwnad [[Huw Pennant]] (fl. [[1565]]-[[1619]]) i'r crythor [[Siôn Alaw]]: ''Y crwth hwn, croyw a thyner / Y gwnâi ei was pynciau pêr / Ac weithian mewn cwynfan cawdd / Y felysgerdd a floesgawdd''. Roedd y crwth yn dal i gael ei chwarae mewn rhannau o Gymru hyd at y [[19eg ganrif]].


== Ffynonellau ==
== Ffynonellau ==

Fersiwn yn ôl 15:09, 12 Tachwedd 2007

Cerddor (mewn coch) yn chwarae'r crwth, 17eg ganrif

Hen offeryn cerdd llinyddol (Lladin Isel chrotha, Saesneg crowd), nid annhebyg i'r fiolin, a chanddo chwe thant (tri yn yn y fersiynau cynnar), a genir â bwa. Mae ganddo ffrâm lled hirsgwar â'r rhan isaf wedi'i llenwi i mewn i greu blwch sain, a'r rhan uchaf gyda thyllau o boptu i'r tannau; byddai'r crythor yn rhoi bysedd ei law chwith trwy'r tyllau hyn er mwyn dal y tannau ac yn symud y bwa â'i law dde. Er iddo ymledu i sawl gwlad yng ngogledd-orllewin Ewrop roedd y crwth yn offeryn nodweddiadol Geltaidd a ddyfeiswyd, efallai, yn y teyrnasoedd Brythonaidd cynnar.

Y Crwth yng Nghymru

Roedd yn offeryn cyffredin iawn yng Nghymru'r Oesoedd Canol. Cyfeirir ato yn y Cyfreithiau Cymreig: pop penkert... e brenyn byeu keysyau ofer y dau nyd amken atelyn yhun a chrud y arall (Y Llyfr Du o'r Waun, c. 1200). Ymddengys fod beirdd yr uchelwyr yn edrych i lawr eu trwynau ar y crythor. Prin yw'r cyfeiriadau at yr offeryn ganddynt. Weithiau, fel yn achos y pibau a'u sain aflafar, mae'n destun dirmyg, e.e. mewn cerdd gan Lewys Glyn Cothi (fl. 1420-1489): Pob ddau y glêr a ddeuyn', / pob dri fry i dŷ pob dyn; / wrth y drws un â'i grwth drwg, / a baw arall â'i berrwg (Gwaith Lewys Glyn Cothi, 63.25-8). Ac eto mae'n amlwg fod iddo le digon anrhydeddus dan yr hen drefn er ei fod yn is ei safle na'r delyn. Roedd yn boblogaidd iawn ym Môn yn yr 16eg ganrif a'r 17eg ganrif, fel y tystia marwnad Huw Pennant (fl. 1565-1619) i'r crythor Siôn Alaw: Y crwth hwn, croyw a thyner / Y gwnâi ei was pynciau pêr / Ac weithian mewn cwynfan cawdd / Y felysgerdd a floesgawdd. Roedd y crwth yn dal i gael ei chwarae mewn rhannau o Gymru hyd at y 19eg ganrif.

Ffynonellau

  • Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995). ISBN 0708312535
  • Percy A. Scholes, The Concise Oxford Dictionary of Music (Rhydychen, 1964).
  • Dafydd Wyn Wiliam, Traddodiad Cerdd Dant ym Môn (Dinbych, 1989).