Laurence Olivier: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Without borders |
B →Gwragedd: clean up |
||
Llinell 22: | Llinell 22: | ||
{{Rheoli awdurdod}} |
{{Rheoli awdurdod}} |
||
⚫ | |||
{{DEFAULTSORT:Olivier, Laurence}} |
{{DEFAULTSORT:Olivier, Laurence}} |
||
Llinell 33: | Llinell 36: | ||
[[Categori:Pobl fu farw o fethiant yr aren]] |
[[Categori:Pobl fu farw o fethiant yr aren]] |
||
[[Categori:Pobl o Surrey]] |
[[Categori:Pobl o Surrey]] |
||
⚫ |
Fersiwn yn ôl 07:00, 13 Mawrth 2017
Laurence Olivier | |
---|---|
Galwedigaeth | Actor, cyfarwyddwr ffilm |
Actor, cyfarwyddwr a chynhyrchydd Seisnig oedd Laurence Kerr Olivier OM, hefyd Marchog Baglor a Barwn Olivier (22 Mai 1907 – 11 Gorffennaf 1989), a enillodd nifer o wobrau am ei waith. Roedd yn un o actorion enwocaf ac uchaf ei barch yn yr ugeinfed ganrif, ynghyd â'i gyfoedion John Gielgud, Peggy Ashcroft a Ralph Richardson. Chwaraeodd Olivier ystod o rôlau amrywiol ar lwyfan ac ar y sgrîn fawr, gan amrywio o drasiediau Groegaidd, Shakespeare i gomedïau Prydeinig ac Americanaidd.
Ef oedd cyfarwyddwr creadigol Theatr Genedlaethol y Deyrnas Unedig ac enwyd y prif lwyfan ar ei ôl. Caiff ei ystyried gan nifer fel actor gorau yr ugeinfed ganrif. Derbyniodd Olivier bedair ar ddeg enwebiad am Oscar gan ennill dwy ohonynt am yr Actor Gorau a'r Ffilm Orau am Hamlet, a dwy wobr anrhydeddus gan gynnwys cerflun a thystysgrif. Enillodd bum Gwobr Emmy hefyd o'r naw y cafodd ei enwebu ar eu cyfer. Hefyd enillodd dair Golden Globe a BAFTA.
Gwragedd
- Jill Esmond (1930-1940)
- Vivien Leigh (1940-1960)
- Joan Plowright (1961-1989)