Leonardo da Vinci: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) B trefn |
B →Cysylltiau Allanol: clean up |
||
Llinell 33: | Llinell 33: | ||
{{Rheoli awdurdod}} |
{{Rheoli awdurdod}} |
||
⚫ | |||
{{DEFAULTSORT:Vinci, Leonardo da}} |
{{DEFAULTSORT:Vinci, Leonardo da}} |
||
[[Categori:Genedigaethau 1452]] |
[[Categori:Genedigaethau 1452]] |
||
Llinell 38: | Llinell 41: | ||
[[Categori:Leonardo da Vinci]] |
[[Categori:Leonardo da Vinci]] |
||
[[Categori:Arlunwyr]] |
[[Categori:Arlunwyr]] |
||
⚫ |
Fersiwn yn ôl 06:54, 13 Mawrth 2017
Leonardo da Vinci Arlunydd a dyfeisiwr | |
Geni: |
15 Ebrill 1452 Vinci, Yr Eidal |
Marw: |
2 Mai 1519 Amboise, Ffrainc |
Arlunydd, dyfeisiwr, cerddor ac athrylith cyffredinol oedd Leonardo da Vinci (15 Ebrill, 1452 - 2 Mai, 1519). Mae Leonardo yn enwocaf am beintiadau maestrolgar megis y Mona Lisa a'r Swper Olaf ac am ei ddyfeisiadau sydd yn rhagflaenwyr ar gyfer technoleg modern.
Bywyd a gyrfa cynnar
Cafodd Leonardo ei eni mewn ffermdy ger pentref bychan Anchiano, tua 3 km o dref Vinci yn yr Eidal. Roedd yn blentyn gordderch i gyfreithiwr ifanc o'r enw Ser Piero da Vinci a, mae'n debyg, merch gwerin o'r enw Caterina. Tyfodd Leonardo i fyny gyda'i dad yn Fflorens lle dechreuodd dynnu lluniau a peintio, wedi'i ysbrydoli gan natur a thirwedd ardal Toscana. Roedd ei luniau cynnar o ansawdd mor uchel dechreuodd ei aprentisiaeth gyda'r peintiwr a cherfluniwr Andrea del Verrocchio yn 14 mlwydd oed.
Y peintiad cyntaf y gallwn fod yn sicr bod Leonardo wedi cyfrannu ato yng ngweithdy Verrocchio oedd Bedydd Crist [1]. Cyfraniad Leonardo oedd yr angel ar y chwith, sydd yn fwy real na phrif gymeriadau'r llun, sef Iesu Grist a Ioan Fedyddiwr, a'u peintiwyd gan ei athro. Yn ôl y chwedl, ni fentrodd Verrocchio beintio byth eto ar ôl i dalent ei ddisgybl ragori ar ei allu ei hunan.
Y Gwyddonydd a'r dyfeisydd
Anatomi
Dechreuodd ei brentisiaeth ffurfiol mewn anatomi wrth draed Andrea del Verrocchio, ei athro a fynnodd fod pob un o'i ddisgyblion yn astudio anatomi cyn mynd ati i ddysgu arlunio. Daeth da Vinci'n feistr ar anatomi gweledol gan ymarfer y cyhyrau, y tendonau a ffurfiau eraill y corff.
Oherwydd ei lwyddiant fel arlunydd, cafodd yr hawl i weithio ar gyrff marw yn Ysbyty Santa Maria Nuova yn Florence, Milan a Rhufain, gan agor y cyrff i weld sut roedd y cyhyrau ac organau mewnol yn gorwedd ac yn gweithio. Gweithiodd gyda meddyg (Marcantonio della Torre) rhwng 1510 a 1511 gan gydlunio papur ar anatomi a oedd yn cynnwys dros 200 o'i luniau. Fe'i cyhoeddwyd yn 1680 (161 blwyddyn wedi'i farwolaeth).
Y Dyfeisydd
Yn ystod ei oes, roedd leonardo'n cael ei barchu'n fawr fel peiriannydd galluog iawn. Mewn llythyr at Ludovico il Moro honodd y gallai greu pob math o beiriannau i ymosod ac i amddiffyn tref. Pan ddihangodd i Fenis yn 1499 cafodd waith fel peiriannydd i gynllunio amddiffynfeydd i'r ddinas, rhag ymosodiadau. Mae ei bapurau'n orlawn o bob math o ddyfeiadau a oedd o flaen eu hamser ac sy'n cynnwys offerynau cerdd newydd, y pwmp hydrolig, cannon a weithiau gyda stem a'r hofrenydd.
Ei waith enwocaf
-
Y Mona Lisa
(La Gioconda),1503–1505/1507 -
Y Dyn Vitruve, tua 1490
-
Y Swper Olaf, 1498
Cysylltiau Allanol
- (Saesneg) Art Gallery - Leonardo da Vinci