Ynys Brydain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 10fed ganrif10g using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Ynys Brydain''' (weithiau '''Prydain''') yn derm daearyddol, gwleidyddol a diwylliannol a fu'n ganolog i feddylfryd a hanes y [[Cymry]] yn yr [[Oesoedd Canol]] ac am gyfnod hir ar ôl hynny. Enw arall arni a geir yn y chwedlau, ym ''[[Pedair Cainc y Mabinogi|Mhedair Cainc y Mabinogi]]'' er enghraifft, yw '''Ynys y Cedyrn'''.

Mae'n bwysig sylweddoli nad yw'r enw yn gyfystyr â thermau diweddar fel [[Prydain Fawr]] ac [[Ynysoedd Prydain]], yn yr un modd â bod gwahaniaeth pwysig rhwng ystyron yr enwau [[Brythoniaid|Brython]] a [[Prydeindod|Phrydeiniwr]]. Nid oedd y [[Brythoniaid]] yn Brydeinwyr ac nid oeddynt yn defnyddio'r enw Ynys Prydain i olygu Prydain Fawr fel y mae hi heddiw.

Cysyniad â'i wreiddiau yn hanes cynnar y Brythoniaid/Cymry oedd Ynys Brydain. Mae'n deillio o'r cyfnod [[Celtiaid|Celtaidd]] a'r cyfnod ôl-[[Rhufeiniaid|Rufeinig]] pan fu Prydain i'r de o linell yn rhedeg o [[Ystrad Clud]] i'r [[Moryd Forth|Foryd Forth]] ([[Glasgow]] - [[Caeredin]]) ym meddiant y [[Brythoniaid]], pobl Geltaidd a siaradai'r iaith [[Brythoneg|Frythoneg]]. Daeth y llwythau "[[Eingl-Sacsoniaid|Eingl-Sacsonaidd]]" (cyndeidiau'r [[Saeson]]) drosodd o'r cyfandir ac yn raddol collodd y Brythoniaid eu tir. Meddiannwyd [[Lloegr]] - ac eithrio [[Cernyw]] - gan yr Eingl-Sacsoniaid. Daliodd Brythoniaid yr [[Hen Ogledd]] allan am ganrifoedd, ond torrwyd y cysylltiad rhwng [[Gwŷr y Gogledd]] a Brythoniaid Cymru. Daethant i alw eu hunain yn Gymry ond ni pheidiasent alw eu hunain yn Frythoniaid (neu'r Brython, fel enw torfol unigol) ac i ystyried fod ganddynt hawl ar Ynys Brydain, sef "Gwlad y Brython" (un o hen ystyron ''ynys'' yw 'gwlad', fel yn achos y gair [[Lladin]] ''insula'').

Yr oedd daearyddiaeth Ynys Brydain yn bur wahanol i ddaearyddiaeth y Brydain fodern. Ym [[Pedair Cainc y Mabinogi|Mhedair Cainc y Mabinogi]] cawn fod [[Bendigeidfran]] yn llywodraethu Ynys Prydain o'i lysoedd yng [[teyrnas Gwynedd|Ngwynedd]] ([[Harlech]], [[Aberffraw]] a [[Segontium|Chaer Saint yn Arfon]]). Yn y chwedl [[Cymraeg Canol]] ''[[Lludd a Llefelys]]'', cyfeirir at [[Rhydychen|Rydychen]] fel canol daearyddol yr ynys. Cleddir pen Bendigeidfran yn "y [[Gwynfryn]] yn [[Llundain]]" i warchod Ynys Brydain, ond cleddir ei chwaer [[Branwen]] ym [[Môn]]. Teyrnas Gwynedd a Llundain symbolaidd oedd dau begwn grym Ynys Brydain yn y traddodiad Cymreig/Brythonaidd felly. Gelwir tywysogion Gwynedd yn "ddreigiau Prydain" a "phriodolion Prydain" gan y beirdd. Roedd y cof am Ynys Brydain yn wydn.

Ceir cyfeiriadau mor gynnar â [[Nennius]] at Ryfeddodau Ynys Brydain, dinasoedd yr ynys (32 ohonynt) ac ati. Cyfeirir yn aml at "Ynys Brydain a'i thair rhag ynys," sef [[Môn]], [[Ynys Manaw|Manaw]] ac [[Ynys Wyth|Wyth]] (sylwer nad oes sôn am ynysoedd [[yr Alban]]).

Fersiwn yn ôl 06:28, 13 Mawrth 2017

Mae Ynys Brydain (weithiau Prydain) yn derm daearyddol, gwleidyddol a diwylliannol a fu'n ganolog i feddylfryd a hanes y Cymry yn yr Oesoedd Canol ac am gyfnod hir ar ôl hynny. Enw arall arni a geir yn y chwedlau, ym Mhedair Cainc y Mabinogi er enghraifft, yw Ynys y Cedyrn.

Mae'n bwysig sylweddoli nad yw'r enw yn gyfystyr â thermau diweddar fel Prydain Fawr ac Ynysoedd Prydain, yn yr un modd â bod gwahaniaeth pwysig rhwng ystyron yr enwau Brython a Phrydeiniwr. Nid oedd y Brythoniaid yn Brydeinwyr ac nid oeddynt yn defnyddio'r enw Ynys Prydain i olygu Prydain Fawr fel y mae hi heddiw.

Cysyniad â'i wreiddiau yn hanes cynnar y Brythoniaid/Cymry oedd Ynys Brydain. Mae'n deillio o'r cyfnod Celtaidd a'r cyfnod ôl-Rufeinig pan fu Prydain i'r de o linell yn rhedeg o Ystrad Clud i'r Foryd Forth (Glasgow - Caeredin) ym meddiant y Brythoniaid, pobl Geltaidd a siaradai'r iaith Frythoneg. Daeth y llwythau "Eingl-Sacsonaidd" (cyndeidiau'r Saeson) drosodd o'r cyfandir ac yn raddol collodd y Brythoniaid eu tir. Meddiannwyd Lloegr - ac eithrio Cernyw - gan yr Eingl-Sacsoniaid. Daliodd Brythoniaid yr Hen Ogledd allan am ganrifoedd, ond torrwyd y cysylltiad rhwng Gwŷr y Gogledd a Brythoniaid Cymru. Daethant i alw eu hunain yn Gymry ond ni pheidiasent alw eu hunain yn Frythoniaid (neu'r Brython, fel enw torfol unigol) ac i ystyried fod ganddynt hawl ar Ynys Brydain, sef "Gwlad y Brython" (un o hen ystyron ynys yw 'gwlad', fel yn achos y gair Lladin insula).

Yr oedd daearyddiaeth Ynys Brydain yn bur wahanol i ddaearyddiaeth y Brydain fodern. Ym Mhedair Cainc y Mabinogi cawn fod Bendigeidfran yn llywodraethu Ynys Prydain o'i lysoedd yng Ngwynedd (Harlech, Aberffraw a Chaer Saint yn Arfon). Yn y chwedl Cymraeg Canol Lludd a Llefelys, cyfeirir at Rydychen fel canol daearyddol yr ynys. Cleddir pen Bendigeidfran yn "y Gwynfryn yn Llundain" i warchod Ynys Brydain, ond cleddir ei chwaer Branwen ym Môn. Teyrnas Gwynedd a Llundain symbolaidd oedd dau begwn grym Ynys Brydain yn y traddodiad Cymreig/Brythonaidd felly. Gelwir tywysogion Gwynedd yn "ddreigiau Prydain" a "phriodolion Prydain" gan y beirdd. Roedd y cof am Ynys Brydain yn wydn.

Ceir cyfeiriadau mor gynnar â Nennius at Ryfeddodau Ynys Brydain, dinasoedd yr ynys (32 ohonynt) ac ati. Cyfeirir yn aml at "Ynys Brydain a'i thair rhag ynys," sef Môn, Manaw ac Wyth (sylwer nad oes sôn am ynysoedd yr Alban).

Elfen bwysig arall yn hanes Ynys Brydain oedd y Mab Darogan. Credai'r Cymry y byddai arwr o'r gorffennol yn dychwelyd i gyflawni'r hen broffwydoliaeth fod y Cymry/Brython i ailfeddianu Ynys Brydain. Cafwyd corff mawr o gerddi a adnabyddir fel y brudiau neu'r canu darogan gyda'r Mab Darogan yn ganolog iddynt, dan sawl enw. Cadwaladr Fendigaid oedd brenin olaf Ynys Brydain cyn iddi gael ei meddiannu gan y Saeson, yn ôl y traddodiad. Un o destunau cynharaf y traddodiad yw'r gerdd Armes Prydain ("Y Broffwydoliaeth am Brydain"), a gyfansoddwyd yn y 10g.

Ceir yn ogystal Trioedd Ynys Prydain, sy'n gorff o drioedd nemonig sy'n rhestri arwyr a digwyddiadau Ynys Brydain, gan gynnwys arwyr o Gymru, yr Hen Ogledd, Cernyw a lleoedd eraill.

Llyfryddiaeth

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, arg. newydd 1991)
  • Jerry Hunter, Soffestri'r Saeson (Caerdydd, 2000)
  • Dafydd Glyn Jones, Agoriad yr Oes (Y Lolfa, 2001). ISBN 0-86243-603-6
  • (eto), Cyfrinach Ynys Brydain (Darlith Flynyddol BBC Cymru, 1992)
  • (eto), Gwlad y Brutiau (Darlith Goffa Henry Lewis, 1990)
  • Ifor Williams (gol.), Armes Prydein (Caerdydd, 1955)