Denmarc: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Hanes: canrifoedd a Delweddau, replaced: 11eg ganrif11g, 10fed ganrif10g using AWB
B clean up
Llinell 62: Llinell 62:
==Daearyddiaeth==
==Daearyddiaeth==


Denmarc yw'r fwyaf deheuol o wledydd Llychlyn. Mae'n cynnwys y rhan fwyaf o orynys [[Jylland]] (Jutland) a thua 405 o ynysoedd. Y mwyaf o'r rhain yw [[Sjælland]], [[Fyn]], [[Lolland]], [[Falster]], [[Langeland]], [[Als]], [[Møn]], [[Bornholm]] ac [[Amager]]. Tir isel yw bron y cyfan o'r wlad, gyda mwy na 65% yn dir amaethyddol. Y copa uchaf yw [[Møllehøj]], 170.86 medr.
Denmarc yw'r fwyaf deheuol o wledydd Llychlyn. Mae'n cynnwys y rhan fwyaf o orynys [[Jylland]] (Jutland) a thua 405 o ynysoedd. Y mwyaf o'r rhain yw [[Sjælland]], [[Fyn]], [[Lolland]], [[Falster]], [[Langeland]], [[Als]], [[Møn]], [[Bornholm]] ac [[Amager]]. Tir isel yw bron y cyfan o'r wlad, gyda mwy na 65% yn dir amaethyddol. Y copa uchaf yw [[Møllehøj]], 170.86 medr.


Saif y brifddinas ar ynys Sjælland ("Seeland"), sydd a chulfor [[Øresund]] yn ei gwahanu oddi wrth [[Sweden]]. Cysylltir Copenhagen a dinas [[Malmö]] yn Sweden gan [[Pont Øresund|Bont Øresund]] a thwnel. Yr unig ffin ar dir sych yw'r ffin a'r [[Almaen]] yn y de.
Saif y brifddinas ar ynys Sjælland ("Seeland"), sydd a chulfor [[Øresund]] yn ei gwahanu oddi wrth [[Sweden]]. Cysylltir Copenhagen a dinas [[Malmö]] yn Sweden gan [[Pont Øresund|Bont Øresund]] a thwnel. Yr unig ffin ar dir sych yw'r ffin a'r [[Almaen]] yn y de.
Llinell 105: Llinell 105:


{{eginyn Denmarc}}
{{eginyn Denmarc}}





{{Wiciadur|{{PAGENAME}}}}
{{Wiciadur|{{PAGENAME}}}}

Fersiwn yn ôl 06:05, 13 Mawrth 2017

Kongeriget Danmark
Teyrnas Denmarc
Baner Denmarc Arfbais Denmarc
Baner Arfbais
Arwyddair: Dim1
Anthem: Der er et yndigt land (cenedlaethol)
Kong Kristian (brenhinol)
Lleoliad Denmarc
Lleoliad Denmarc
Prifddinas København
Dinas fwyaf København
Iaith / Ieithoedd swyddogol Daneg2
Llywodraeth Brenhiniaeth gyfansoddiadol
 • Brenhines
 • Prif Weinidog
Margrethe II
Lars Løkke Rasmussen
Cydgyfnerthiad
Cynhanesiol
Esgyniad i'r UE1 Ionawr, 1973
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
43,0943 km² (131fed3)
1.63
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2005
 - Cyfrifiad 2006
 - Dwysedd
 
5,450,661 (109fed)
5,431,000
126/km² (62fed3)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$187.9 biliwn3 (45fed)
$34,7003 (6fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.941 (14fed) – uchel
Arian cyfred Krone Danaidd (DKK)
Cylchfa amser
 - Haf
CET3 (UTC+1)
CEST3 (UTC+2)
Côd ISO y wlad .dk3
Côd ffôn +453
1 Arwyddair y Frenhines: Guds hjælp, Folkets kærlighed, Danmarks styrke (Daneg: God's help, the People's love, Denmark's strength)

2 Yn ogystal â Inuktitut yn Grønland a Ffaröeg yn yr Ynysoedd Faroe.

3 <excluding> Ynysoedd Faroe a Grønland

Mae Teyrnas Denmarc (Daneg: Kongeriget Danmark) neu Denmarc (Daneg: "Cymorth – Sain" Danmark ) yn deyrnas Lychlynnaidd fach yng ngogledd Ewrop. Mae Môr y Gogledd yn amgylchynu'r wlad, ag eithrio'r ffin ddeheuol â'r Almaen.

Hanes

Cyfarfod i ffurfio'r cyfansoddiad, 1848

Unwyd Denmarc yng nghyfnod y Llychlynwyr, yn y 10g, gan y brenin Harald Ddantlas († 985), a drodd y wlad at Gristnogaeth. Yn yr 11g, cymerodd Denmarc feddiant ar Loegr am gyfnod. Yn 1397, unodd a Sweden a Norwy. Parhaodd yr undeb a Sweden hyd 1523 a'r undeb a Norwy hyd 1814. Arferai Gwlad yr Iâ fod ym meddiant Denmarc hefyd, hyd nes iddi ddod yn annibynnol yn 1944. O 1940 hyd 1945, meddiannwyd Denmarc gan yr Almaen. Yn 1973 daeth yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd.

Daearyddiaeth

Denmarc yw'r fwyaf deheuol o wledydd Llychlyn. Mae'n cynnwys y rhan fwyaf o orynys Jylland (Jutland) a thua 405 o ynysoedd. Y mwyaf o'r rhain yw Sjælland, Fyn, Lolland, Falster, Langeland, Als, Møn, Bornholm ac Amager. Tir isel yw bron y cyfan o'r wlad, gyda mwy na 65% yn dir amaethyddol. Y copa uchaf yw Møllehøj, 170.86 medr.

Saif y brifddinas ar ynys Sjælland ("Seeland"), sydd a chulfor Øresund yn ei gwahanu oddi wrth Sweden. Cysylltir Copenhagen a dinas Malmö yn Sweden gan Bont Øresund a thwnel. Yr unig ffin ar dir sych yw'r ffin a'r Almaen yn y de.

Dinasoedd

Copenhagen 502,204 (1,086,762 yn yr ardal ddinesig)
Århus 228,547
Odense 186,595
Aalborg 160,000
Esbjerg 82,312
Randers 55,897
Kolding 54,526
Vejle 49,782
Horsens 49,457
Roskilde 43,753
Delwedd:Lleoliad-denmarc.png
Denmarc yn Ewrop
Eginyn erthygl sydd uchod am Ddenmarc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am Denmarc
yn Wiciadur.