Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Morlyn Llanw Abertawe"

Jump to navigation Jump to search
Lleihawyd o 128 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
B
clean up
B
B (clean up)
[[Delwedd:Lagwn abertawe.PNG|bawd|Llun dychmygol o'r morlyn gorffenedig; fel y rhagwelir gan y cwmni 'Tidal Lagoon Power'; 2016.]]
Cynllun i harneisio ynni [[carbon]] isel ym [[Bae Abertawe|Mae Abertawe]] yw '''Morlyn Llanw Abertawe''', a fydd y mwyaf o'i fath drwy'r byd ar ôl ei gwbwlhau.<ref>[http://www.tidallagoonswanseabay.com/the-project/proposal-overview-and-vision/51/ www.tidallagoonswanseabay.com;] adalwyd 18 Mehefin 2015</ref> Saif Bae Abertawe o fewn [[Afon Hafren|aber yr afon Hafren]] ac amrediad llanw'r aber yw'r ail fwyaf yn y byd - gyda'r gwahaniaeth rhwng trai a llanw cymaint a 10.5m metr ar ei uchaf.<ref>[http://www.tidallagoonswanseabay.com Tidal Lagoon Swansea Bay]</ref> Lleolir y morlyn, a'i forglawdd, i'r de o Ddoc y Frenhines - rhwng Afon Tawe a ac Afon Nedd. Disgwylir y bydd y prosiect yn cynhyrchu 250MW o drydan - digon i gyflenwi 155,000 o gartrefi, dros gyfnod o 120 o flynyddoedd.
 
Lagŵn llanw a thrai yw Lagŵn Bae Abertawe a fydd yn cynhyrchu ynni oherwydd y gwahaniaeth yn lefelau'r dŵr y tu fewn a thu allan i'r forglawdd. Mewn 24 awr, ceir dau lanw a dau drai, ac felly bydd yn ofynol i'r tyrbeini weithio'r naill ffordd a'r llall - yn ôl ac ymlaen, wrth i'r trai a llanw greu'r newid yn lefel y dŵr.
 
Derbyniwyd caniatâd cynllunio ym Mehefin 2015 gan [[Llywodraeth y Deyrnas Unedig|Lywodraeth y DU]].<ref>[http://infrastructure.planningportal.gov.uk/wp-content/ipc/uploads/projects/EN010049/3.%20Post%20Decision%20Information/Other/Tidal%20Lagoon%20(Swansea%20Bay)%20decision%20letter.pdf infrastructure.planningportal.gov.uk;] adalwyd 18 Mehefin 2015</ref>. Mae'n debygol y bydd cynlluniau tebyg yn cael eu hystyried ym [[Bae Caerdydd|Mae Caerdydd]] ac yng [[Casnewydd|Nghasnewydd]], ar raddfa llai. Disgwylir y bydd cyfanswm y gost oddeutu £1bn o arian preifat, drwy [[cyfranddaliad|gyfranddaliadau]]. Ar 12 Ionawr 2017 cyhoeddwyd adroddiad annibynol Charles Hendry a oedd yn cefnogi'r morlyn a fynai y byddai'n "gyfraniad sylweddol" i ynni gwledydd Prydain a'i fod yn gost-effeithiol.
 
==Adeiladu a'r economi leol==
Bydd llawer o'r cydrannau'n cael eu creu yn lleol e.e. pob un o'r 25 [[tyrbein]], y llifddorau, y cledrau, y peiriannau rheoli trydan, y gwaith concrid a'r ganolfan ymwelwyr. Credir y bydd y buddsoddiad yn yr economi leol, felly, dros £500,000. Yn ei anterth, bydd y gwaith adeiladu'n cyflogi oddeutu 1,900 o weithwyr llawn amser. Pan fydd y prosiect yn cynhyrchu trydan, amcangyfrifir y bydd oddeutu 180 o swyddi ac y bydd 70-100,000 o ymwelwyr yn cyrchu i'r fan hon. O ran incwm, disgwylir y bydd yn cynhyrchu £76 miliwn o bunnoedd. Yn groes i addewidion y cwmni, fodd bynnag, cwmni o [[Tsieina]] fy yn ymgymryd â'r gwaith o godi'r forglawdd.<ref name="www.theguardian.com">[http://www.theguardian.com/environment/2015/may/31/worlds-first-tidal-lagoon-clean-energy-scheme-environmental-concerns www.theguardian.com;] The Guardian; adalwyd 18 Mehefin 2015</ref>
 
Mae'r tyrbeini, a fydd yn barhaol o dan wyneb y dŵr, wedi'u sefydlu ar dechnoleg parod ac yn debyg iawn i'r rhai ym Morglawdd ''La Rance'', Llydaw.<ref>[http://www.tidallagoonswanseabay.com/the-project/turbine-technology/53/ www.tidallagoonswanseabay.com;] adalwyd 18 Mehefin 2015</ref> Mae llafnau mewnol y tyrbein yn 7m o hyd. Cost y strwythyr dal tyrbeini 410-metr fydd £200m ac enillwyd y cytundeb am y gwaith gan Laing O’Rourke, cytundeb fydd yn creu 500 o swyddi.<ref>[http://www.theguardian.com/environment/2015/may/31/worlds-first-tidal-lagoon-clean-energy-scheme-environmental-concerns name="www.theguardian.com;] The Guardian; adalwyd 18 Mehefin 2015<"/ref>
 
==Maint==
Bydd y morglawdd ei hun yn 9.5 &nbsp;km (chwe milltir) o hyd ac yn gweithredu hefyd fel morglawdd i [[Abertawe|Ddinas Abertawe]] gan amddiffyn adeiladau a phobl y ddinas rhag llid y llanw uchel, yn enwedig o ystyried y gall lefel y môr godi. Bydd yn troelli am ddwy filltir o'r traeth i'r môr.
 
==Gwrthwynebiad==
449,732

golygiad

Llywio