William Abraham (Mabon): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
cat
Llinell 9: Llinell 9:
[[Categori:Genedigaethau 1842]]
[[Categori:Genedigaethau 1842]]
[[Categori:Marwolaethau 1922]]
[[Categori:Marwolaethau 1922]]
[[Categori:Gwleidyddion Cymreig]]



[[en:William Abraham (Welsh politician)]]
[[en:William Abraham (Welsh politician)]]

Fersiwn yn ôl 20:27, 8 Tachwedd 2007

Llywydd cyntaf Ffederasiwn Glowyr De Cymru ac Aelod Seneddol oedd William Abraham (Mabon) (14 Mehefin 1842 - 14 Mai 1922).

Ganed ef yng Nghwmafon, yn fab i Thomas a Mary Abraham. Addysgwyd ef yn Ysgol Genedlaethol Cwmafon, ac yna bu'n gweithio mewn gwaith alcam ac fel glowr. Etholwyd ef yn gynrychiolydd y glowyr yn 1870, a bu'n llywydd y glowyr ar y Joint Sliding Scale Association o 1875 hyd 1903. Rhwng 1892 a 1898 byddai'r glowyr yn cael dirnod o wyliau o'r gwaith ar y dydd Llun cyntaf o bob mis, a gelwid y diwrnod yma yn "Ddiwrnod Mabon."

Daeth yn aelod seneddol dros y Rhondda yn 1885, a bu'n cynrychioli Gorllewin Rhondda o 1918 hyd 1922. Ar y cyntaf, roedd yn aelod o'r Blaid Ryddfrydol, yna'n ddiweddarach yn aelod o'r Blaid Lafur pan ddaeth y blaid honno'n sefydliad annibynnol. Sefydlwyd Ffederasiwn Glowyr De Cymru yn 1898, gyda Mabon yn llywydd.

Roedd hefyd yn gefnogwr cryf i'r Eisteddfod.