Gogledd Iwerddon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
diweddaru
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
diweddaru
Llinell 26: Llinell 26:
| '''[[Prif Weinidog y Deyrnas Unedig|Prif Weinidog y DU]]''' || [[Theresa May]]
| '''[[Prif Weinidog y Deyrnas Unedig|Prif Weinidog y DU]]''' || [[Theresa May]]

| '''[[Prif Weinidog Gogledd Iwerddon|Prif Weinidog]]''' || [[Arlene Foster]]
| '''[[Prif Weinidog Gogledd Iwerddon|Prif Weinidog]]''' || neb

| '''[[Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon|Ysgrifennydd Gwladol]]''' || [[James Brokenshire]]
| '''[[Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon|Ysgrifennydd Gwladol]]''' || [[James Brokenshire]]

| '''[[Arwynebedd]]'''|| 13,843 [[Cilomedr sgwâr|km²]]
| '''[[Arwynebedd]]'''|| 14,130 [[Cilomedr sgwâr|km²]] (5,460 mill sg)

| '''[[Poblogaeth]]'''
- Cyfrifiad [[2001]]
- Amcangyfrif [[2006]]
- [[Dwysedd poblogaeth|Dwysedd]] ||
1,685,267
1,741,600
122/km²
| '''[[Poblogaeth]]'''
- Cyfrifiad [[2011]]
- Amcangyfrif [[2017]]
- [[Dwysedd poblogaeth|Dwysedd]] ||
1,810,863
1,868,700
122/km²

| '''[[Arian breiniol]]'''
| '''[[Arian breiniol]]'''

Fersiwn yn ôl 14:51, 8 Mawrth 2017

Northern Ireland
Tuaisceart Éireann
Norlin Airlann
Gogledd Iwerddon
Arwyddair: Quis separabit?
Anthem: dim anthem swyddogol (gweler y testun)
Ieithoedd swyddogol Saesneg, Gwyddeleg
(siaredir hefyd Sgoteg Wlster)
Prifddinas Belffast
Dinas fwyaf Belffast
Prif Weinidog y DU Theresa May
Prif Weinidog neb
Ysgrifennydd Gwladol James Brokenshire
Arwynebedd 14,130 km² (5,460 mill sg)
Poblogaeth
- Cyfrifiad 2011
- Amcangyfrif 2017
- Dwysedd

1,810,863
1,868,700
122/km²
Arian breiniol Punt (GBP) (£)
Cylchfa amser
- Haf
UTC
UTC +1
Nawddsant San Padrig

Rhanbarth o'r Deyrnas Unedig yw Gogledd Iwerddon (Gwyddeleg: Tuaisceart Éireann, Saesneg: Northern Ireland; Sgoteg Wlster: Norlin Airlann), yng ngogledd-ddwyrain Iwerddon. Mae'n cynnwys chwech o 32 sir ynys Iwerddon - chwech o naw sir talaith Wledd neu Wlster. Mae iddi arwynebedd o 14,139 km² (5,459 milltir sgwâr), ac mae ganddi boblogaeth o 1,810,863 (Cyfrifiad 2011) (1,685,267, Cyfrifiad 2001). Belffast yw'r brifddinas.

Mae Gogledd Iwerddon yn cael ei llywodraethu gan Gynulliad Gogledd Iwerddon, yn Stormont, ac Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon sy'n atebol i lywodraeth San Steffan.

Fodd bynnag, hyd at 1800, roedd yr ynys gyfan (y Gogledd a'r De) yn un wlad - 'Teyrnas Iwerddon' - hyd nes i Loegr ei huno o dan Ddeddf Uno 1801 i'r hyn a alwyd yn 'Deyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon'. Wedi cread y Dalaith Rydd Wyddelig (Saorstat Eireann) ym 1922, allan o 26 o siroedd Iwerddon, parhaodd chwe sir y gogledd yn rhan o'r Deyrnas Unedig, a chafodd y wladwriaeth ei hail-enwi yn Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ym 1927.

Yn ei gyfieithiad o un o ganeuon Tommy Makem, canodd Dafydd Iwan am y 'Pedwar Cae' (An Cheathrú Gort Glas). Gogledd Iwerddon ydyw'r pedwerydd cae - y cae sydd yn nwylo Lloegr, "ddaw eto yn rhydd medd hi."

Yr enw

Mae enw'r rhanbarth ei hun ac rhai enwau lleoedd o'i fewn yn bwnc dadleuol. Mae llawer yn dibynnu ar safbwyntiau gwleidyddol. Yr enghraifft enwocaf efallai yw dinas Derry/Londonderry, gyda'r ffurf Derry (Saesneg) neu Doire/Doire Cholm Chille (Gwyddeleg) yn cael ei defnyddio gan genedlaetholwyr Gwyddelig a Londonderry gan yr Unoliaethwyr.

'Gogledd Iwerddon' yw'r enw swyddogol ond mae nifer o Unoliaethwyr yn a'u cefnogwyr yn dal i defnyddio'r enw Ulster (Ulaidh). Ar y llaw arall, mae cenedlaetholwyr a gweriniaethwyr yn tueddu i gyfeirio at y rhanbarth fel 'Y Gogledd' (The North/North of Ireland) neu'r 'Chwe Sir' (Six Counties.

Unoliaethwyr

• Ulster (Ulaidh) yw'r enw hanesyddol am dalaith Wyddelig Wlster, gyda chwech o'i naw sir yn gorwedd yng Ngogledd Iwerddon. Mae cenedlaetholwyr yn gwrthod defnyddio'r enw i gyfeirio at Ogledd Iwerddon ond mae'r term "Ulster" yn cael ei defnyddio'n aml gan yr Unoliaethwyr a'r wasg Brydeinig i gyfeirio at Ogledd Iwerddon. Fe'i gwelir hefyd mewn enwau fel Radio Ulster, RUC, Ulster Unionist Party ac Ulster Volunteer Force (grwp paramilwrol).
• Y Dalaith (The Province / An Chúige) yw'r enw hanesyddol am dalaith Wyddelig Wlster ond fe'i defnyddir gan Unoliaethwyr ac eraill fel term am Ogledd Iwerddon. Yn ôl canllawiau'r BBC, mae "the province" yn dderbyniol ond dydy "Ulster" ddim. Mae'n argymell peidio defnyddio'r gair "Prydeinig" ("British") i gyfeirio at y bobl ond yn hytrach i ddefnyddio'r term niwtral "pobl Gogledd Iwerddon" ("people of Northern Ireland", a'r term "tir mawr" "mainland" wrth gyfeirio at Brydain Fawr mewn perthynas â Gogledd Iwerddon[1] Nid wy'r termau hyn yn dderbyniol gan y gymuned weriniaethol.

Cenedlaetholwyr/Gweriniaethwyr

Defnyddir sawl term gan weriniaethwyr a chenedlaetholwyr i gyfeirio at Ogledd Iwerddon:

• North of Ireland (Tuaisceart na hÉireann) - term sydd ddim yn cyfieithu i'r Gymraeg yn iawn ac sy'n pwysleisio fod y rhanbarth yn rhan o Iwerddon yn hytrach na'r DU.
• Gogledd-ddwyrain Iwerddon (North-East Ireland / Oirthuaisceart Éireann). Amrywiad ar yr uchod, llawer llai cyffredin.
• Y Chwe Sir (The Six Counties / na Sé Chontae) - term a ddefnyddir gan weriniaethwyr, e.e. Sinn Féin. Cyfeirir at Weriniaeth Iwerddon fel 'y 26 Sir' (Twenty-Six Counties)[2] Dadleuir fod defnyddio enw swyddogol y rhanbarth yn gyfystyr â derbyn ei fod yn perthyn i'r DU.
• The Occupied Six Counties.[3]
• British-Occupied Ireland. Fel Occupied Six Counties, defnyddir hyn gan weriniaethwyr sy'n gwrthwynebu Cytundeb Dydd Gwener y Groglith (Good Friday Agrrement).[4]
• Fourth Green Field (An Cheathrú Gort Glas). O'r gân Four Green Fields gan Tommy Makem.

Cyfeiriadau