Neidio i'r cynnwys

Dewi Sant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Ychwanegwyd 13 beit ,  7 o flynyddoedd yn ôl
dolen > Buchedd Dewi
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dolen > Lleian
dolen > Buchedd Dewi
Llinell 9:
Mae'n eithaf sicr iddo sefydlu ei abaty yn [[Tyddewi|Nhyddewi]] (yr hen enw oedd Mynyw: Menevia) ac mae cyfeiriad at fynachlog yno mewn [[llawysgrif]] Wyddelig o tua'r flwyddyn [[800]]. Enw arall ar y lle yw Glyn Rhosyn, sy'n gamgyfieithiad o'r Lladin ''vallis rosina'' sydd, o'i gyfieithu'n gywir, yn golygu ''cwm corsiog''.{{angen ffynhonnell}} Mae'n demtasiwn i feddwl am y llecyn fel lle tawel, ond allai hynny ddim fod ymhellach oddi wrth y gwir. Roedd yn groesffordd i deithiau i [[Iwerddon]], [[Cernyw]], [[Llydaw]] gan arwain i Rufain a'r dwyrain a'r gogledd. Mae Eglwys Gadeiriol [[Tyddewi]] ei hun mewn pant ac yn agos i adfeilion Plas yr Esgob.
 
Mae bron pob peth a wyddom am Dewi Sant yn tarddu o'r [[Buchedd|fuchedd]] a ysgrifennodd [[Rhigyfarch]] tua'r flwyddyn [[1100]]. Gelwir y cyfieithiad [[Cymraeg Canol]] o'r [[Lladin]] wreiddiol ''[[Buchedd Dewi|Buchedd Dewi Sant]]''.
 
Gosododd Dewi gyfundrefn lem iawn yn ei [[Mynachlog|fynachlog]]. Roedd yr oriau gweddïo'n hir, bara a dŵr oedd y bwyd arferol, a'r gwaith yn galed. Rhaid oedd ymrwymo i dlodi hefyd, ond yr oedd pregethu'r [[efengyl]] i'r [[Paganiaeth|paganiaid]] yn holl bwysig. Oherwydd ei ffordd o fyw adwaenir Dewi fel "Dewi Ddyfrwr" (Aquaticus), yn ôl un awdur o'r [[9g]].