Sŵnami: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 28: | Llinell 28: | ||
Ymddangosodd y grŵp fel prif fand Maes B yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr 2014|Eisteddfod Llanelli]], 2014, a hynny er gwaethaf y ffaith mai dim ond un EP a dwy sengl y bu iddynt ryddhau cyn hynny. Yn y flwyddyn honno, hefyd, y bu iddynt gyhoeddi eu cynnyrch cyntaf ar eu label presennol, [[I Ka Ching]], gyda'r record fer ''Cynnydd / Gwenwyn''. |
Ymddangosodd y grŵp fel prif fand Maes B yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr 2014|Eisteddfod Llanelli]], 2014, a hynny er gwaethaf y ffaith mai dim ond un EP a dwy sengl y bu iddynt ryddhau cyn hynny. Yn y flwyddyn honno, hefyd, y bu iddynt gyhoeddi eu cynnyrch cyntaf ar eu label presennol, [[I Ka Ching]], gyda'r record fer ''Cynnydd / Gwenwyn''. |
||
Rhyddhaodd y grŵp eu halbwm cyntaf, ''Sŵnami'', yn 2015. Bu i'r albwm hwnnw ennill gwobr yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015|Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau]], 2015, am albwm gorau'r flwyddyn. |
Rhyddhaodd y grŵp eu halbwm cyntaf, ''Sŵnami'', yn 2015. Bu i'r albwm hwnnw ennill gwobr yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015|Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau]], 2015, am albwm gorau'r flwyddyn.<ref>http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/36985756</ref> Bu i'r albwm gael ei enwebu ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2015-16.<ref>http://welshmusicprize.com/swnami-swnami</ref> |
||
== Gwobrau == |
== Gwobrau == |
||
=== Gwobrau'r Selar === |
=== Gwobrau'r Selar<ref>http://www.y-selar.co.uk/gwobraur-selar/cyn-enillwyr-gwobrau/</ref> === |
||
* 2011 - Band Newydd Gorau |
* 2011 - Band Newydd Gorau |
||
* 2013 - Record Fer Orau (''Du a Gwyn''), Fideo Gorau (Gwreiddiau) |
* 2013 - Record Fer Orau (''Du a Gwyn''), Fideo Gorau (Gwreiddiau) |
Fersiwn yn ôl 16:30, 24 Chwefror 2017
Sŵnami |
---|
Mae Sŵnami yn fand roc indie o Wynedd.
Hanes
Sefydlwyd y band yn 2011, gan ymddangos ar gystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 y flwyddyn honno. Daeth y band yn ail, gyda Siân Miriam yn cipio'r wobr gyntaf. Roedd y pum aelod gwreiddiol, Ifan Davies (llais, gitâr), Ifan Ywain (gitâr), Gerwyn Murray (gitar fâs, llais), Huw Ynyr (allweddellau, llais), a Tom Ayres (drymiau), wedi eu magu ym Meirionnydd, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn mynychu Coleg Meirion Dwyfor. Ymddangosodd y grŵp ar raglen Bandit ar y ffurf hwn.[1] Bu i'r grŵp ennill yng nghategori 'Band Newydd Gorau' yn noson wobrau'r Selar y flwyddyn hon.
Erbyn rhyddhau eu senglau cyntaf, Mynd a Dod ac Eira ar label Rasal yn 2012, bu i Tom Ayres gyfnewid â Lewis Williams (gynt o Helyntion Jôs y Ficar) ar y drymiau, a Huw Ynyr yn penderfynu peidio ymddangos â'r band ar lwyfan. Ymunodd Gruff Jones, a oedd eisoes â phrosiect cerddorol electronig o'r enw Crash.Disco!, â'r band, gan achosi iddynt ddatblygu elfennau electronig eu cerddoriaeth ymhellach. Rhyddhawyd EP arall, Du a Gwyn, ar y label hwn yn 2013, a oedd yn cynnwys un o'u caneuon mwyaf poblogaidd, 'Gwreiddiau'.
Ymddangosodd y grŵp fel prif fand Maes B yn Eisteddfod Llanelli, 2014, a hynny er gwaethaf y ffaith mai dim ond un EP a dwy sengl y bu iddynt ryddhau cyn hynny. Yn y flwyddyn honno, hefyd, y bu iddynt gyhoeddi eu cynnyrch cyntaf ar eu label presennol, I Ka Ching, gyda'r record fer Cynnydd / Gwenwyn.
Rhyddhaodd y grŵp eu halbwm cyntaf, Sŵnami, yn 2015. Bu i'r albwm hwnnw ennill gwobr yn Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau, 2015, am albwm gorau'r flwyddyn.[2] Bu i'r albwm gael ei enwebu ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2015-16.[3]
Gwobrau
Gwobrau'r Selar[4]
- 2011 - Band Newydd Gorau
- 2013 - Record Fer Orau (Du a Gwyn), Fideo Gorau (Gwreiddiau)
- 2014 - Record Fer Orau (Cynnydd/Gwenwyn), Fideo Gorau (Gwenwyn), Offerynnwr Gorau (Lewis Williams)
- 2015 - Cân Orau (Trwmgwsg), Gwaith Celf Gorau (Sŵnami), Band Gorau, Record Hir Orau (Sŵnami)
Albwm Cymraeg y Flwyddyn (Eisteddfod Genedlaethol Cymru)
- 2015 - Sŵnami