Myfyr Isaac: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 16: Llinell 16:
Mae'n byw yn y Bontfaen gyda'i wraig [[Caryl Parry Jones]] ac mae ganddynt pedwar o blant.
Mae'n byw yn y Bontfaen gyda'i wraig [[Caryl Parry Jones]] ac mae ganddynt pedwar o blant.



{{Esboniadur|Isaac,_Myfyr|Myfyr Isaac|CC=BY}}
{{Esboniadur Cerdd|Isaac,_Myfyr|gan Pwyll ap Siôn}}


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 15:49, 24 Chwefror 2017

Gitarydd amryddawn, cerddor a chynhyrchydd yw Myfyr Isaac (ganwyd Mawrth 1954) sydd wedi bod yn ffigwr amlwg ym maes canu pop Cymraeg o ddechrau’r 1980au ymlaen.

Daeth Isaac â lefel uwch o safon a phroffesiynoldeb i ganu pop Cymraeg, nid yn unig fel gitarydd ond hefyd fel cynhyrchydd, ac roedd ei ddawn gerddorol naturiol ynghyd â’i allu i gydweithio a chyd-gyfansoddi gydag amryw o artistiaid yn ddylanwad pwysig ar fyd adloniant Cymraeg yn ystod y 1980au a’r 1990au.

Bywyd cynnar

Ganed Gareth Myfyr Isaac yn Llanafan ger Aberystwyth. Mynychodd Ysgol Ramadeg Arwyn. Y dylanwadau cynnar arno oedd cantorion roc a rôl megis Bill Haley a’r gitarydd, Hank Marvin. Pan oedd yn fachgen, dechreuodd chwarae’r ukulele ac yna’r gitâr ar ôl derbyn un fel anrheg gan gymdogion a oedd yn mynychu’r eglwys leol. Yn ei arddegau cynnar dechreuodd berfformio mewn band lleol o ardal Aberystwyth o’r enw Smokestack, a enwid ar ôl cân blŵs enwog Howlin’ Wolf. Pan oedd yn ddeunaw, treuliodd gyfnod yn perfformio gyda’r band yn Bremerhaven yn yr Almaen, ac yna yn Amsterdam.

Gyrfa

Ar ôl dychwelyd i Gymru symudodd i Gaerdydd, a thrwy ei gysylltiadau gyda’r drymiwr Steve Williams daeth yn aelod o’r grŵp roc trwm Budgie. Rhwng 1975 ac 1978 teithiodd gyda’r band yn Ewrop, America a Sgandinafia. Ni recordiodd gyda Budgie, fodd bynnag, er ei fod yn derbyn cydnabyddiaeth ar glawr eu seithfed albwm, Impeckable (A&M, 1978).

Ar ôl byw am gyfnod yn Toronto dychwelodd i Gymru, gan weithio fel gitarydd sesiwn ar raglenni teledu megis Sêr (HTV). Daeth i gysylltiad â’r canwr a’r cyfansoddwr Endaf Emlyn, ac yn 1979 ffurfiodd y ddau y grŵp ffync blaengar, Jîp. Yr aelodau eraill oedd John Gwyn ar y gitar fas (cyn-aelod o’r grŵp Brân a ddaeth wedyn yn gynhyrchydd ar raglen bop Sianel 4 The Tube), a dau o aelodau Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr, Richard Dunn (allweddellau) ac Arran Ahmun (drymiau). Recordiodd Jîp un album, Genod Oer (Gwerin, 1980), a chlywir egni eu perfformiadau byw ar y gân "Halfway" o’r albwm amlgyfrannog Twrw Tanllyd – detholiad o berfformiadau o nosweithiau Twrw Tanllyd yn Eisteddfod Dyffryn Lliw, 1980 (Sain, 1981).

Yn ystod y 1980au cynnar bu Myfyr Isaac yn gyfrifol am gynhyrchu recordiau gan Bando a Crys, yn aml ar y cyd â’r peiriannydd Simon Tassano. Bu Tassano ac Isaac yn gyfrifol am record hir unigol olaf Endaf Emlyn yn ystod y cyfnod hwn, Dawnsionara (Sain, 1981), gydag Isaac hefyd yn cyfrannu’n helaeth; roedd ei allu i grefftio solos melodaidd iawn ar y gitâr yn amlwg yn y gân "Rola". Ymunodd Isaac gyda Bando gan gyd-gyfansoddi caneuon megis "Nos yng Nghaer Arianrhod" a "Saf ar dy Draed", gyda’r naill yn dangos ei feistrolaeth o’r gitâr Sbaenaidd – bu’n derbyn gwersi am gyfnod gan y gitarydd clasurol Rhisiart Arwel – tra oedd y llall yn arddangos ei ddealltwriaeth o’r arddull roc trwm anthemig. Bu’n cydweithio’n agos gyda’i bartner, y gantores Caryl Parry Jones, ar recordiau hir megis Shampŵ (Sain, 1982), Caryl a’r Band (Gwerin, 1983) ac Eiliad (Sain, 1996). Bu hefyd yn recordio gyda’r canwr Geraint Griffiths ar ei recordiau unigol yntau, Madras (Sain, 1984), Rebel (Sain, 1986) ac Ararat (Sain, 1988), ynghŷd â chyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer rhaglenni teledu, megis yr arwyddgan i’r gyfres deledu Dinas.

Bywyd personol

Mae'n byw yn y Bontfaen gyda'i wraig Caryl Parry Jones ac mae ganddynt pedwar o blant.


Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod gan Pwyll ap Siôn ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Comisiynwyd y cofnod hwn yn wreiddiol ar gyfer Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, (Y Lolfa, 2018). Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.

Cyfeiriadau