Myfyr Isaac: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Gitarydd amryddawn ynghyd â bod yn gynhyrchydd a cherddor dylanwadol ym maes canu pop Cymraeg o ddechrau’r 1980au ymlaen. Fe’i ganed yn Llanafan ger...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Gitarydd amryddawn ynghyd â bod yn gynhyrchydd a cherddor dylanwadol ym maes canu pop Cymraeg o ddechrau’r 1980au ymlaen. Fe’i ganed yn Llanafan ger Aberystwyth. Y dylanwadau cynnar arno oedd cantorion roc a rôl megis Bill Haley a’r gitarydd, Hank Marvin. Pan oedd yn fachgen, dechreuodd chwarae’r ukulele ac yna’r gitâr ar ôl derbyn un fel anrheg gan gymdogion a oedd yn mynychu’r eglwys leol. Yn ei arddegau cynnar dechreuodd berfformio mewn band lleol o ardal Aberystwyth o’r enw Smokestack, a enwid ar ôl cân blŵs enwog Howlin’ Wolf. Pan oedd yn ddeunaw, treuliodd gyfnod yn perfformio gyda’r band yn Bremerhaven yn yr Almaen, ac yna yn Amsterdam.
Gitarydd amryddawn ynghyd â bod yn gynhyrchydd a cherddor dylanwadol ym maes canu pop Cymraeg o ddechrau’r 1980au ymlaen. Fe’i ganed yn Llanafan ger [[Aberystwyth]]. Y dylanwadau cynnar arno oedd cantorion roc a rôl megis [[Bill Haley]] a’r gitarydd, Hank Marvin. Pan oedd yn fachgen, dechreuodd chwarae’r ukulele ac yna’r gitâr ar ôl derbyn un fel anrheg gan gymdogion a oedd yn mynychu’r eglwys leol. Yn ei arddegau cynnar dechreuodd berfformio mewn band lleol o ardal Aberystwyth o’r enw Smokestack, a enwid ar ôl cân blŵs enwog Howlin’ Wolf. Pan oedd yn ddeunaw, treuliodd gyfnod yn perfformio gyda’r band yn Bremerhaven yn yr Almaen, ac yna yn Amsterdam.

Ar ôl dychwelyd i Gymru symudodd i Gaerdydd, a thrwy ei gysylltiadau gyda’r drymiwr Steve Williams daeth yn aelod o’r grŵp roc trwm Budgie. Rhwng 1975 ac 1978 teithiodd gyda’r band yn Ewrop, America a Sgandinafia. Ni recordiodd gyda Budgie, fodd bynnag, er ei fod yn derbyn cydnabyddiaeth ar glawr eu seithfed albwm, Impeckable (A&M, 1978).
Ar ôl dychwelyd i Gymru symudodd i Gaerdydd, a thrwy ei gysylltiadau gyda’r drymiwr Steve Williams daeth yn aelod o’r grŵp roc trwm [[Budgie]]. Rhwng 1975 ac 1978 teithiodd gyda’r band yn Ewrop, America a Sgandinafia. Ni recordiodd gyda Budgie, fodd bynnag, er ei fod yn derbyn cydnabyddiaeth ar glawr eu seithfed albwm, Impeckable (A&M, 1978).

Ar ôl byw am gyfnod yn Toronto dychwelodd i Gymru, gan weithio fel gitarydd sesiwn ar raglenni teledu megis Sêr (HTV). Daeth i gysylltiad â’r canwr a’r cyfansoddwr Endaf Emlyn, ac yn 1979 ffurfiodd y ddau y grŵp ffync blaengar, Jîp. Yr aelodau eraill oedd John Gwyn ar y gitar fas (cyn-aelod o’r grŵp Brân a ddaeth wedyn yn gynhyrchydd ar raglen bop Sianel 4 The Tube), a dau o aelodau Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr, Richard Dunn (allweddellau) ac Arran Ahmun (drymiau). Recordiodd Jîp un album, Genod Oer (Gwerin, 1980), a chlywir egni eu perfformiadau byw ar y gân ‘Halfway’ o’r albwm amlgyfrannog Twrw Tanllyd – detholiad o berfformiadau o nosweithiau Twrw Tanllyd yn Eisteddfod Dyffryn Lliw, 1980 (Sain, 1981).

Llinell 9: Llinell 9:
Daeth Isaac â lefel uwch o safon a phroffesiynoldeb i ganu pop Cymraeg, nid yn unig fel gitarydd ond hefyd fel cynhyrchydd, ac roedd ei ddawn gerddorol naturiol ynghyd â’i allu i gydweithio a chyd-gyfansoddi gydag amryw o artistiaid yn ddylanwad pwysig ar fyd adloniant Cymraeg yn ystod y 1980au a’r 1990au.

'''Pwyll ap Siôn/Wyn Thomas'''

{{CC BY-SA Cydymaith}}
[[Categori:Cerddoriaeth]]
[[Categori:Cerddoriaeth]]

Fersiwn yn ôl 14:06, 24 Chwefror 2017

Gitarydd amryddawn ynghyd â bod yn gynhyrchydd a cherddor dylanwadol ym maes canu pop Cymraeg o ddechrau’r 1980au ymlaen. Fe’i ganed yn Llanafan ger Aberystwyth. Y dylanwadau cynnar arno oedd cantorion roc a rôl megis Bill Haley a’r gitarydd, Hank Marvin. Pan oedd yn fachgen, dechreuodd chwarae’r ukulele ac yna’r gitâr ar ôl derbyn un fel anrheg gan gymdogion a oedd yn mynychu’r eglwys leol. Yn ei arddegau cynnar dechreuodd berfformio mewn band lleol o ardal Aberystwyth o’r enw Smokestack, a enwid ar ôl cân blŵs enwog Howlin’ Wolf. Pan oedd yn ddeunaw, treuliodd gyfnod yn perfformio gyda’r band yn Bremerhaven yn yr Almaen, ac yna yn Amsterdam.

Ar ôl dychwelyd i Gymru symudodd i Gaerdydd, a thrwy ei gysylltiadau gyda’r drymiwr Steve Williams daeth yn aelod o’r grŵp roc trwm Budgie. Rhwng 1975 ac 1978 teithiodd gyda’r band yn Ewrop, America a Sgandinafia. Ni recordiodd gyda Budgie, fodd bynnag, er ei fod yn derbyn cydnabyddiaeth ar glawr eu seithfed albwm, Impeckable (A&M, 1978).

Ar ôl byw am gyfnod yn Toronto dychwelodd i Gymru, gan weithio fel gitarydd sesiwn ar raglenni teledu megis Sêr (HTV). Daeth i gysylltiad â’r canwr a’r cyfansoddwr Endaf Emlyn, ac yn 1979 ffurfiodd y ddau y grŵp ffync blaengar, Jîp. Yr aelodau eraill oedd John Gwyn ar y gitar fas (cyn-aelod o’r grŵp Brân a ddaeth wedyn yn gynhyrchydd ar raglen bop Sianel 4 The Tube), a dau o aelodau Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr, Richard Dunn (allweddellau) ac Arran Ahmun (drymiau). Recordiodd Jîp un album, Genod Oer (Gwerin, 1980), a chlywir egni eu perfformiadau byw ar y gân ‘Halfway’ o’r albwm amlgyfrannog Twrw Tanllyd – detholiad o berfformiadau o nosweithiau Twrw Tanllyd yn Eisteddfod Dyffryn Lliw, 1980 (Sain, 1981).

Yn ystod y 1980au cynnar bu Myfyr Isaac yn gyfrifol am gynhyrchu recordiau gan Bando a Crys, yn aml ar y cyd â’r peiriannydd Simon Tassano. Bu Tassano ac Isaac yn gyfrifol am record hir unigol olaf Endaf Emlyn yn ystod y cyfnod hwn, Dawnsionara (Sain, 1981), gydag Isaac hefyd yn cyfrannu’n helaeth; roedd ei allu i grefftio solos melodaidd iawn ar y gitâr yn amlwg yn y gân ‘Rola’. Ymunodd Isaac gyda Bando gan gyd-gyfansoddi caneuon megis ‘Nos yng Nghaer Arianrhod’ a ‘Saf ar dy Draed’, gyda’r naill yn dangos ei feistrolaeth o’r gitâr Sbaenaidd – bu’n derbyn gwersi am gyfnod gan y gitarydd clasurol Rhisiart Arwel – tra oedd y llall yn arddangos ei ddealltwriaeth o’r arddull roc trwm anthemig. Bu’n cydweithio’n agos gyda’i bartner, y gantores Caryl Parry Jones, ar recordiau hir megis Shampŵ (Sain, 1982), Caryl a’r Band (Gwerin, 1983) ac Eiliad (Sain, 1996). Bu hefyd yn recordio gyda’r canwr Geraint Griffiths ar ei recordiau unigol yntau, Madras (Sain, 1984), Rebel (Sain, 1986) ac Ararat (Sain, 1988), ynghŷd â chyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer rhaglenni teledu, megis yr arwyddgan i’r gyfres deledu Dinas.