Sieffre o Fynwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Gweithiau: canrifoedd a Delweddau, replaced: 7fed ganrif7g using AWB
gwybodlen
Llinell 1: Llinell 1:
{{Infobox person
[[Delwedd:Arthur3487.jpg|200px|de|bawd|Sieffre oedd yn bennaf gyfrifol am greu'r ddelwedd boblogaidd o'r Brenin Arthur]]
| honorific_prefix =
| name = Sieffre o Fynwy
| honorific_suffix =
| image = Cotton Claudius B VII f.224 Merlin Vortigern.jpg
| caption = [[Myrddin]] yn proffwydo, i'w frenin [[Gwrtheyrn]]; rhan o lawysgrif Sieffre o Fynwy, ''[[Historia Regum Britanniae]]'' (Hanes Brenhinoedd Prydain).
| birth_name = Sieffre
| birth_date = c. 1100
| birth_place = [[Mynwy]], Cymru
| death_date = c. 1155
| death_place =
| death_cause =
| resting_place =
| resting_place_coordinates = <!-- {{Coord|LAT|LONG|display=inline}} -->
| monuments =
| residence =
| nationality = Cymro
| other_names = {{Plainlist|
* {{lang|la|Galfridus Monemutensis}}
* {{lang|la|Galfridus Arturus}}
* {{lang|la|Galfridus Artur}}
* {{lang|cy|Gruffudd ap Arthur}}
}}
| occupation = Clerig
| known_for = ''{{lang|la|De gestis Britonum}}''
| religion = [[Pabydd]]
| website = <!-- {{URL|www.example.com}} -->
}}

Roedd '''Sieffre o Fynwy''', [[Lladin]] '''Galfridus Monemutensis''', (c.1100 - c.1155) yn glerigwr fu'n Esgob [[Llanelwy]]. Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur llyfrau [[Lladin]] am hanes cynnar [[Ynys Prydain]], yn enwedig am y [[Brenin Arthur]]. Er nad oes dim gwerth iddynt fel hanes, cawsant ddylanwad enfawr yng Nghymru a thrwy orllewin [[Ewrop]].

Llinell 14: Llinell 41:

Gwaith enwocaf Sieffre oedd yr ''[[Historia Regum Britanniae]]'' (Hanes Brenhinoedd Prydain) a ymddangosodd ddechrau'r flwyddyn [[1136]]. Mae'n adrodd hanes Ynys Prydain o ddyfodiad [[Brutus o Gaerdroea]], disgynnydd [[Aeneas]], hyd farwolaeth [[Cadwaladr]] yn y [[7g]]. Bu dylanwad y llyfr hwn yn enfawr, yn enwedig ei hanesion am y Brenin Arthur. Yn ôl Sieffre ei hun yr oedd wedi cyfieithu'r hanes o hen lyfr Cymraeg, ond ni chredir fod sail i hyn. Mae'n debyg mai prif ffynonellau Sieffre oedd gweithiau [[Gildas]] (''De Excidio Britanniae''), [[Beda]] a [[Nennius]], ond gyda llawer o'r cynnwys yn ffrwyth dychymyg Sieffre ei hun.

[[Delwedd:Arthur3487.jpg|200px|de|bawd|chwith|Sieffre oedd yn bennaf gyfrifol am greu'r ddelwedd boblogaidd o'r Brenin Arthur]]

Rhwng tua [[1149]] a [[1151]] ysgrifennodd Sieffre gerdd Ladin o 1538 o linellau, y ''[[Vita Merlini]]'' ('Buchedd Myrddin'), yn ailadrodd hanes Myrddin gan dynnu ar y traddodiadau Cymreig amdano.
Rhwng tua [[1149]] a [[1151]] ysgrifennodd Sieffre gerdd Ladin o 1538 o linellau, y ''[[Vita Merlini]]'' ('Buchedd Myrddin'), yn ailadrodd hanes Myrddin gan dynnu ar y traddodiadau Cymreig amdano.

Fersiwn yn ôl 08:30, 24 Chwefror 2017

Sieffre o Fynwy
Myrddin yn proffwydo, i'w frenin Gwrtheyrn; rhan o lawysgrif Sieffre o Fynwy, Historia Regum Britanniae (Hanes Brenhinoedd Prydain).
GanwydSieffre
c. 1100
Mynwy, Cymru
Bu farwc. 1155
CenedlCymro
Enwau eraill
  • Galfridus Monemutensis
  • Galfridus Arturus
  • Galfridus Artur
  • Gruffudd ap Arthur
GwaithClerig
Enwog amDe gestis Britonum
CrefyddPabydd

Roedd Sieffre o Fynwy, Lladin Galfridus Monemutensis, (c.1100 - c.1155) yn glerigwr fu'n Esgob Llanelwy. Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur llyfrau Lladin am hanes cynnar Ynys Prydain, yn enwedig am y Brenin Arthur. Er nad oes dim gwerth iddynt fel hanes, cawsant ddylanwad enfawr yng Nghymru a thrwy orllewin Ewrop.

Bywyd

Ni wyddys ymhle y ganed Sieffre, ond mae ei enw yn awgrymu mai yn ne-ddwyrain Cymru y ganed ef. Mae ei ddisgrifiad o Gaerllion yn ei Historia Regum Britanniae yn awgrymu ei fod yn gyfarwydd â'r ardal. Roedd ei deulu yn wreiddiol o Lydaw. Aeth i Brifysgol Rhydychen ac ymddengys ei enw ar freinlen abaty Osney, Rhydychen ym 1129 ac ar chwe dogfen arall o ardal Rhydychen rhwng y flwyddyn honno a 1151. Disgrifir ef fel magister yn rhai o'r dogfennau hyn.

Ar 24 Chwefror 1152 cysegrwyd ef yn Esgob Llanelwy gan Archesgob Caergaint. Nid oes cofnod iddo ymweld â'i esgobaeth, oedd yn rhan o deyrnas Owain Gwynedd. Bu Owain yn dadlau'n ffyrnig ag Archesgob Caergaint ynglŷn â phenodiad Esgob Bangor; nid oes cofnod a oedd penodiad Sieffre i Lanelwy yn dderbyniol iddo. Yn ôl y croniclau Cymreig bu farw ym 1155.

Gweithiau

Llyfr cyntaf Sieffre oedd y Prophetiae Merlini ("Proffwydoliaethau Myrddin"), a ysgrifennodd cyn 1135. Cyflwynodd Sieffre hwn fel cyfres o weithiau gan y dewin Myrddin ei hun. Hwn oedd y tro cyntaf i rywbeth am Fyrddin gael ei gyhoeddi mewn iaith heblaw Cymraeg, a chafodd dderbyniad brwd.

Gwaith enwocaf Sieffre oedd yr Historia Regum Britanniae (Hanes Brenhinoedd Prydain) a ymddangosodd ddechrau'r flwyddyn 1136. Mae'n adrodd hanes Ynys Prydain o ddyfodiad Brutus o Gaerdroea, disgynnydd Aeneas, hyd farwolaeth Cadwaladr yn y 7g. Bu dylanwad y llyfr hwn yn enfawr, yn enwedig ei hanesion am y Brenin Arthur. Yn ôl Sieffre ei hun yr oedd wedi cyfieithu'r hanes o hen lyfr Cymraeg, ond ni chredir fod sail i hyn. Mae'n debyg mai prif ffynonellau Sieffre oedd gweithiau Gildas (De Excidio Britanniae), Beda a Nennius, ond gyda llawer o'r cynnwys yn ffrwyth dychymyg Sieffre ei hun.

Sieffre oedd yn bennaf gyfrifol am greu'r ddelwedd boblogaidd o'r Brenin Arthur

Rhwng tua 1149 a 1151 ysgrifennodd Sieffre gerdd Ladin o 1538 o linellau, y Vita Merlini ('Buchedd Myrddin'), yn ailadrodd hanes Myrddin gan dynnu ar y traddodiadau Cymreig amdano.

Bu dylanwad gweithiau Sieffre yn enfawr trwy orllewin Ewrop. Cafodd yr Historia ei gyfieithu i lawer o ieithoedd Ewrop, gan gynnwys y Gymraeg dan y teitl Brut y Brenhinedd. Ymddengys mai fel dilyniant i'r Historia Regum Britanniae y bwriadwyd Brut y Tywysogion. Sieffre yn anad neb fu'n gyfrifol am greu'r ddelwedd o'r Brenin Arthur fel brenin ar batrwm y Canol Oesoedd gyda phrifddinas yng Nghaerllion-ar-Wysg ac wedi ei amgylchu gan farchogion oedd yn batrwm o sifalri. Yng Nghymru bu ei ddylanwad yn arbennig o drwm a pharhaodd am ganrifoedd lawer, fel y gwelir yng nghyfrol Theophilus Evans Drych y Prif Oesoedd.

Llyfryddiaeth

  • Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1953)
  • Geoffrey of Monmouth. The History of the Kings of Britain. Translated, with introduction and index, by Lewis Thorpe. Penguin Books: London, 1966. ISBN 0-14-044170-0
  • Brynley F. Roberts. "Geoffrey of Monmouth, Historia Regum Britanniae and Brut y Brenhinedd". Yn The Arthur of the Welsh: The Arthurian Legend in Medieval Welsh Literature gan R. Bromwich, A. O. H.Jarman a Brynley F. Roberts, tt.97-116. (Gwasg Prifysgol Cymru, 1991).
  • John Jay Parry and Robert Caldwell. "Geoffrey of Monmouth" in Arthurian Literature in the Middle Ages, Roger S. Loomis (ed.). Clarendon Press: Oxford University. 1959. ISBN 0-19-811588-1

Cyfeiriadau