Tokyo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
Tamall (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5: Llinell 5:


== Gweinyddiaeth ==
== Gweinyddiaeth ==
[[Delwedd:Tokyo Midtown and Shinjuku Area from Tokyo Tower.jpg|250px|bawd|Canol dinas '''Tokyo''']]
[[Delwedd:Tokyo Montage 2015.jpg|250px|bawd|Canol dinas '''Tokyo''']]
[[Delwedd:Shinjuku 8040.jpg|250px|bawd|'Ardal adloniant' [[Shinjuku]] gyda'r nos]]
[[Delwedd:Shinjuku 8040.jpg|250px|bawd|'Ardal adloniant' [[Shinjuku]] gyda'r nos]]
Un o [[Taleithiau Japan|daleithiau Japan]] yw dinas Tokyo, ond mae strwythr go arbennig ganddi hi: 23 o wardiau arbennig gyda 8,134,688 o bobl yn byw ynddyn nhw mewn 621.3 km², ardal sy'n cynnwys 'dinasoedd' llai a nifer o ynysoedd yn y [[Cefnfor Tawel]], rhai ohonyn nhw yn ddigon pellenig. Mae neuadd y ddinas wedi ei lleoli yn ardal brysur [[Shinjuku]].
Un o [[Taleithiau Japan|daleithiau Japan]] yw dinas Tokyo, ond mae strwythr go arbennig ganddi hi: 23 o wardiau arbennig gyda 8,134,688 o bobl yn byw ynddyn nhw mewn 621.3 km², ardal sy'n cynnwys 'dinasoedd' llai a nifer o ynysoedd yn y [[Cefnfor Tawel]], rhai ohonyn nhw yn ddigon pellenig. Mae neuadd y ddinas wedi ei lleoli yn ardal brysur [[Shinjuku]].

Fersiwn yn ôl 04:07, 9 Chwefror 2017

Lleoliad Tokyo

Prifddinas Japan a dinas fwyaf y wlad yw Tōkyō ("Cymorth – Sain" ynganiad Siapaneg , 東京, Tokyo neu Tocio yn Gymraeg). Fe'i lleolir yn nwyrain canolbarth ynys Honshu, ar lan y Cefnfor Tawel. Daw rhannau helaeth o daleithiau cyfagos Tokyo ynghyd i ffurfio Ardal Tokyo Fwyaf, un o ardaloedd dinesig mwyaf poblog y byd gyda phoblogaeth o tua 36 miliwn yn 2010 [1]. Er mai ffigwr llai o tua 12 miliwn o bobl sydd yn byw yn Tokyo ei hun fe ddaw miloedd o bobl yno i weithio neu astudio yn ystod y dydd. Mae'r dref yn ganolfan wleidyddol, economeg, diwylliannol ac academaidd i'r wlad ac mae'r Tenno, Ymerawdwr Japan, yn byw yng nghanol y ddinas.

Fw ddaw'r enw o gyfuno Tō- (dwyrain) a -kyō (prifddinas) i greu 'Prifddinas Ddwyreiniol'. Roedd prifddinasoedd eraill yn bod cyn Tokyo, er enghraifft Kyoto a Nara yn ardal Kansai.

Gweinyddiaeth

Canol dinas Tokyo
'Ardal adloniant' Shinjuku gyda'r nos

Un o daleithiau Japan yw dinas Tokyo, ond mae strwythr go arbennig ganddi hi: 23 o wardiau arbennig gyda 8,134,688 o bobl yn byw ynddyn nhw mewn 621.3 km², ardal sy'n cynnwys 'dinasoedd' llai a nifer o ynysoedd yn y Cefnfor Tawel, rhai ohonyn nhw yn ddigon pellenig. Mae neuadd y ddinas wedi ei lleoli yn ardal brysur Shinjuku.

Poblogaeth y ddinas gyfan yw 12,064,101 (2002 a'i faint yw 2186.9 km². Tokyo, Kanagawa, Saitama a Chiba sy'n ffurfio Ardal Tokyo Fwyaf, gyda tua 36 miliwn o bobl yn byw ynddi.

Hanes

Sefydlwyd Tokyo ym 1457 ond yr enw gwreiddiol oedd Edo (江戸). Ym 1603 daeth yn brif ddinas y Shogunat Tokugawa, ond roedd y Tenno yn dal i fod yn Kyoto, gwir brifddinas y wlad. Daeth y Shogunat i ben ym 1868 a gorchmynnodd Meiji Tenno i newid enw y dref i Tokyo a symud y brif ddinas yno.

Ym 1923 tarodd daeargryn mawr yn yr ardal a laddwyd tua 100,000 o bobl a dinistrio llawer o adeiladau. Cafodd y dref ei hail-adeiladu ond fe'i dinistrwyd eto yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ar ôl hynny daeth Japan dan reolaeth yr Unol Daleithiau a roedd Tokyo yn bencadlys o dan y Cadfridog Douglas MacArthur.

Ar ôl y rhyfel tyfodd yr economi yn gyflym. Ym 1964 cynhaliwyd y Gemau Olympaidd yn y ddinas. Ers y 1970au mae llawer o bobl wedi symud i Tokyo o gefn gwlad Japan ac yn ystod bwrlwm economaidd yr 1980au roedd hi'n ddinas fywiog yn llawn siopau, tafarndai, busnesau ac fe adeiladwyd tai ledled y ddinas. Daeth y bwrlwm economaidd i ben yn y 1990au, ond er hynny mae Tokyo yn ganolfan economaidd pwysig i ddwyrain Asia a gweddill y byd.

Ar 20 Mawrth 1995 bu ymosodiad terfysgol gan ddefnyddio nwy nerfau Sarin mewn trên tanddaearol gan Aum Shinrikyo. Cafodd 12 o bobl eu lladd a miloedd yn dioddef canlyniadau'r ymosodiad.

Adeiladau a chofadeiladau

  • Amgueddfa Genedlaethol
  • Amgueddfa Shitamachi
  • Creirfa Yasukuni
  • Palas Ymerodrol
  • Pont Enfys
  • Tŵr Tokyo
  • Yūshūkan

Daearyddiaeth

Mae Tokyo yn cynnwys ardal ar Honshu, ynys fwyaf Japan a nifer o ynysoedd bychain (Ynysoedd Izu ac Ynysoedd Ogasawara) ym Mae Tokyo a'r Cefnfor Tawel, rhai ohonyn mor bell a 1,000 km o'r tir mawr. Y taleithiau cyfagosaf ac sydd hefyd yn rhan o Ardal Tokyo Fwyaf yw Kanagawa, Saitama a Chiba.

Wardiau

Cae Rasus Ceffylau Tokyo, yn Shinagawa

Mae 23 wardiau arbennig yn Tokyo, pob un gyda'i maer a'i chyngor:

Dinasoedd

Mae nifer o ddinasoedd (yn Japan, mae hynny fel arfer yn golygu trefi gyda mwy nag 50,000 o bobl yn bwy ynddynt) yn Tokyo, hefyd:

Ardaloedd, trefi a phentrefi

Trefi a phentrefi ar ynysoedd:

Economeg

Canolbarth economeg Siapan yw Tokyo. Lleoliad pencadlysoedd y mwyafrif o fusnesau fel y wasg, teledu, telethrebiaeth, bancio, yswiriant, ac ati, yw Tokyo ac mae'r mwyafrif o fusnesau tramor yn y dref, hefyd.

Busnesau gyda phencadlys yn Tokyo

Demograffeg

Yn ôl oed (2002):

  • Pobl ifanc (0-14): 1.43 miliwn (12%)
  • Pobl oed gweithio (15-64): 8.5 miliwn (71.4%)
  • Pobl hŷn (65+): 1.98 miliwn (16.6%)

Pobl yn dod o wledydd tramor: 327,000 (2001)

Tyfiad net y boblogaeth: +68,000 (rhwng 2000 a 2001)

Prifysgolion

Prifysgolion mwyaf enwog Tokyo yw:

Enwogion

Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  1. http://esa.un.org/unup/p2k0data.asp