Ogof Pen-y-Fai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thomani9 (sgwrs | cyfraniadau)
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap)
Thomani9 (sgwrs | cyfraniadau)
→‎Cadw: Cywirwyd y gramadeg
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap)
Llinell 12: Llinell 12:


==Cadw==
==Cadw==
Mae'r [[heneb]] hon wedi'i chofrestru gan [[Cadw]] gyda'r Rhif SAM unigryw: GM434 <ref>[http://www.whatdotheyknow.com/request/15714/response/38315/attach/html/2/SAMs%20by%20UA.xls.html Cofrestr Cadw.]</ref> Ceir ail ogof gerllaw {{gbmapping|SS437859}}
Mae'r [[heneb]] hon wedi'i chofrestru gan [[Cadw]] gyda'r Rhif SAM unigryw: GM434 <ref>[http://www.whatdotheyknow.com/request/15714/response/38315/attach/html/2/SAMs%20by%20UA.xls.html Cofrestr Cadw.]</ref> Ceir ail ogof yng {{gbmapping|SS437859}}
sydd wedi'i chofrestru gan [[Cadw]] gyda'r Rhif SAM unigryw: GM504
sydd wedi'i chofrestru gan [[Cadw]] gyda'r Rhif SAM unigryw: GM504



Fersiwn yn ôl 14:45, 7 Chwefror 2017

Ysgerbwd "Dynes Goch Pafiland" yn y Natural History Museum, Llundain.
Ogof Twll yr Afr lle darganfuwyd "Dynes Goch Pafiland" (darlun 1823)
Traeth Rhosili

Ogof gynhanesyddol wedi'i lleoli ger Rhosili ar benrhyn Gŵyr (cyfeiriad grid SS951807) yw Ogof Pafiland (neu Ogof Pen-y-Fai). Mae'n un o gyfres o ogofâu wedi'u cysylltu, ac a fu'n gartref i bobl yn ystod Hen Oes y Cerrig Uchaf: tua 26,000 o flynyddoedd cyn yr oes bresennol (CP). Mae'n adnabyddus fel y man lle darganfuwyd sgerbwd "Dynes Goch Pafiland[1]", y ffosil dynol cyntaf i'w darganfod (1823). Caiff yr ogof ei hystyried fel yr ogof "gyfoethocaf o'r cyfnod hwn (Hen Oes y Cerrig Uchaf) yn Ynys Prydain",[2] oherwydd natur defodol y claddu. Prin y ceir unrhyw dystiolaeth o fywyd yr adeg hon drwy Ynys Prydain ar wahân i Ogof Pafiland.

Darganfyddiadau archaeolegol

Darganfuwyd yno fwyeill llaw o Hen Oes y Cerrig, dannedd bleiddiaid ac esgyrn eirth.

Ond y darganfyddiad pwysicaf oedd sgerbwd corff dynol o Hen Oes y Cerrig a adnabyddir dan yr enw "Dynes Goch Pen-y-Fai". Gwnaed y darganfyddiad hwnnw gan yr hynafiaethydd ac archaeolegydd cynnar William Buckland yn 1823 yn Ogof Twll yr Afr. Credai Buckland ac eraill mai sgerbwd merch ydoedd ond dangoswyd mai gweddillion dyn ifanc tuag 21-25 oed ydyw.[3] Roedd yn byw tua 29,000 o flynyddoedd yn ôl. Paentiwyd ei sgerbwd a lliw ocr coch, er mwyn ei amddiffyn rhag pwerau maleisus yn ôl pob tebyg (arfer cyffredin yn y cyfnod hwnnw). Dyma'r gweddillion dynol modern (Homo sapiens sapiens) hynaf a ddarganfuwyd ym Mhrydain a'r claddu defodol hynaf y gwyddys amdano yn Ewrop i gyd. Cafwyd penglog mamoth yn ei ymyl ond mae hynny ar goll erbyn hyn.

Ymhlith y darganfyddiadau diweddarach o'r ogof y mae casgliad o bennau gwaywffyn a chrafwyr croen callestr, sydd efallai i'w dyddio i'r cyfnod Aurignasiaidd.

Cadw

Mae'r heneb hon wedi'i chofrestru gan Cadw gyda'r Rhif SAM unigryw: GM434 [4] Ceir ail ogof yng cyfeiriad grid SS437859 sydd wedi'i chofrestru gan Cadw gyda'r Rhif SAM unigryw: GM504

Cyfeiriadau

  1. Hanes Cymru, John Davies, ISBN 0-14-012570-1
  2. Prehistoric Wales gan Frances Lynch et al. Sutton Publishing Ltd; 2000; tud. 19 Mae'r gyfrol yma'n datgan mai ogof Pafiland yw'r "ogof gyfoethocaf o'r cyfnod hwn (Hen Oes y Cerrig Uchaf) yn Ynys Prydain".
  3. Prehistoric Wales gan Frances Lynch et al. Sutton Publishing Ltd; 2000; tud. 18 Mae'r gyfrol yma'n datgan mai dyn 25 oed sydd yma.
  4. Cofrestr Cadw.

Dolenni allanol