Bwncath: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
delwedd o Gymru |
mae yna grwp hefyd o'r un enw |
||
Llinell 20: | Llinell 20: | ||
| awdurdod_deuenwol = ([[Carolus Linnaeus|Linnaeus]], 1758) |
| awdurdod_deuenwol = ([[Carolus Linnaeus|Linnaeus]], 1758) |
||
}} |
}} |
||
:''Gofal: Erthygl am yr aderyn yw hon; ceir band pop Cymraeg, a sefydlwyd yn 2015, o'r un enw. |
|||
Mae'r '''Bwncath''' (hefyd '''Boncath''' a '''Boda'''; [[Lladin]]: ''Buteo buteo'') yn [[aderyn rheibiol]] sy'n gyffredin trwy rannau helaeth o [[Ewrop]], [[Asia]] ac, yn y gaeaf, [[Affrica]]. Mae tua 51–57 cm o hyd a rhwng 110 a 130 cm ar draws yr adenydd. Yn y rhannau lle mae'r gaeafau yn arbennig o oer mae'n mudo tua'r de, on mewn rhannau eraill, megis Gorllewin Ewrop, mae'n aros o gwmpas ei diriogaeth trwy'r flwyddyn. |

Fersiwn yn ôl 14:37, 6 Chwefror 2017
Bwncath | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Falconiformes |
Teulu: | Accipitridae |
Genws: | Buteo |
Rhywogaeth: | B. buteo |
Enw deuenwol | |
Buteo buteo (Linnaeus, 1758) |
- Gofal: Erthygl am yr aderyn yw hon; ceir band pop Cymraeg, a sefydlwyd yn 2015, o'r un enw.
Mae'r Bwncath (hefyd Boncath a Boda; Lladin: Buteo buteo) yn aderyn rheibiol sy'n gyffredin trwy rannau helaeth o Ewrop, Asia ac, yn y gaeaf, Affrica. Mae tua 51–57 cm o hyd a rhwng 110 a 130 cm ar draws yr adenydd. Yn y rhannau lle mae'r gaeafau yn arbennig o oer mae'n mudo tua'r de, on mewn rhannau eraill, megis Gorllewin Ewrop, mae'n aros o gwmpas ei diriogaeth trwy'r flwyddyn.
Mae fel rheol yn nythu mewn coeden, ond yn hela dros dir agored. Oherwydd hyn, mae'n hoffi tiriogaeth lle mae cymysgedd o goed a chaeau. Mae'n bwyta mamaliaid bach yn bennaf, yn cynnwys llygod, llygod mawr a chwningod, ond mae hefyd yn bwyta anifeiliad wedi marw, cywion adar a phethau eraill.
Fel rheol gellir gweld pâr neu ddau bâr o Fwncathod yn troelli yn yr awyr uwchben eu tiriogaeth yn y ganwyn, ac yn tynnu sylw trwy eu galwadau piii-âw, nid anhebyg i gathod. Ambell dro gellir gweld mwy ohont gyda'i gilydd, weithiau hyd at 40 ar y tro.
Yng Nghymru yr oedd y Bwncath wedi mynd yn aderyn prin erbyn dechrau'r 20fed ganrif, i raddau helaeth oherwydd ei fod yn cael ei ddifa gan giperiaid. Bellach mae amddiffyniad cyfreithiol iddo ac mae wedi dod yn aderyn cyffredin iawn trwy Gymru, ac yn lledaeni i'r dwyrain. Mae'n fwy cyffredin ar dir cymharol isel nag yn y mynyddoedd.