Rhyfeloedd y Rhosynnau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Guto
Llinell 8: Llinell 8:


== Rhyfeloedd y Rhosynnau yng Nghymru ==
== Rhyfeloedd y Rhosynnau yng Nghymru ==
Er na fu brwydrau o bwys yng [[Cymru|Nghymru]], yr oedd Cymru'n ffynhonnell bwysig o filwyr i'r ddwy blaid. Y ddau arweinydd pwysicaf yng Nghymru oedd y ddau [[Iarll Penfro]], [[Siaspar Tudur]] dros y Lancastriaid a [[William Herbert]] dros yr Iorciaid. Yn ddiweddarach yr oedd gan Syr [[Rhys ap Thomas]] ran bwysig mewn codi milwyr i Harri Tudur yng Nghymru cyn [[brwydr Bosworth]]. Tueddai'r rhan fwyaf o'r [[Cymry]] i ochri â phlaid y [[Lancastriaid]] yn erbyn yr [[Iorciaid]], ond yr oedd hefyd gryn gefnogaeth i'r Iorciaid. Roedd [[Guto'r Glyn]] er enghraifft yn blediwr selog i'r Iorciaid. Ym [[Brwydr Mortimer's Cross|Mrwydr Mortimer's Cross]] yr oedd llawer o Gymry yn y ddwy fyddin, ac wedi i'r Iorciaid ennill y dydd, dienyddiwyd [[Owain Tudur]]. Bu farw Tywysog Cymru, [[Edward o San Steffan]], ym [[Brwydr Tewkesbury|Mrwydr Tewkesbury]] ar 4 Mai 1471.
Er na fu brwydrau o bwys yng [[Cymru|Nghymru]], yr oedd Cymru'n ffynhonnell bwysig o filwyr i'r ddwy blaid. Y ddau arweinydd pwysicaf yng Nghymru oedd y ddau [[Iarll Penfro]], [[Siaspar Tudur]] dros y Lancastriaid a [[William Herbert]] dros yr Iorciaid. Yn ddiweddarach yr oedd gan Syr [[Rhys ap Thomas]] ran bwysig mewn codi milwyr i Harri Tudur yng Nghymru cyn [[brwydr Bosworth]]. Tueddai'r rhan fwyaf o'r [[Cymry]] i ochri â phlaid y [[Lancastriaid]] yn erbyn yr [[Iorciaid]], ond yr oedd hefyd gryn gefnogaeth i'r Iorciaid. Roedd [[Guto'r Glyn]] er enghraifft yn blediwr selog i'r Iorciaid a bu'n fyw drwy gyfnod y rhyfeloedd.<ref>[http://www.gutorglyn.net/gutoswales/cy/ygad-rhyfelrhos.php gutorglyn.net;] adalwyd 4 Chwefror 2017.</ref> Ym [[Brwydr Mortimer's Cross|Mrwydr Mortimer's Cross]] yr oedd llawer o Gymry yn y ddwy fyddin, ac wedi i'r Iorciaid ennill y dydd, dienyddiwyd [[Owain Tudur]]. Bu farw Tywysog Cymru, [[Edward o San Steffan]], ym [[Brwydr Tewkesbury|Mrwydr Tewkesbury]] ar 4 Mai 1471.


Brwydr rhwng dwy fyddin o Gymry oedd Brwydr Mortimer's Cross ([[1461]]), ac roedd treuan milwyr Harri yn Gymry yn ôl John Davies.<ref>''Hanes Cymru''; cyhoeddiad Penguin; 2009; tud 206)</ref> Galwodd y bardd [[Lewis Glyn Cothi]] frwydr Banbury yn 'drychineb cenedlaethol' gan i gymaint o Gymry farw ynddi. Gwelodd [[Carnhuanawc]] dristwch yn y sefyllfa wedi gwaed Cymry'n cael ei golli dros goron Lloger yn hytrach na thros 'eu breintiau cynhenid fel trigolion Cymru'. ond yn gyffredinol, chwiliai'r beir am genedlaethau am arweinydd Cymreig newydd: yn y 1450au, Siasbar Tudur oedd eu harwr, yn y 1460au, oherwydd ei berthynas â [[Llywelyn Fawr]], [[Edward IV, brenin Lloegr]] oedd hwnnw. Edrychid ar Herbert hefyd fel un o'r arwyr, ac wedi iddo gael ei ddienyddio trodd y Cymry'n derfysglyd iawn. Er mwyn llenwi'r bwlch arwisgwyd mab y brenin â'r 'Dywysogaeth' yn 1471.
Brwydr rhwng dwy fyddin o Gymry oedd Brwydr Mortimer's Cross ([[1461]]), ac roedd treuan milwyr Harri yn Gymry yn ôl John Davies.<ref>''Hanes Cymru''; cyhoeddiad Penguin; 2009; tud 206)</ref> Galwodd y bardd [[Lewis Glyn Cothi]] frwydr Banbury yn 'drychineb cenedlaethol' gan i gymaint o Gymry farw ynddi. Gwelodd [[Carnhuanawc]] dristwch yn y sefyllfa wedi gwaed Cymry'n cael ei golli dros goron Lloger yn hytrach na thros 'eu breintiau cynhenid fel trigolion Cymru'. ond yn gyffredinol, chwiliai'r beir am genedlaethau am arweinydd Cymreig newydd: yn y 1450au, Siasbar Tudur oedd eu harwr, yn y 1460au, oherwydd ei berthynas â [[Llywelyn Fawr]], [[Edward IV, brenin Lloegr]] oedd hwnnw. Edrychid ar Herbert hefyd fel un o'r arwyr, ac wedi iddo gael ei ddienyddio trodd y Cymry'n derfysglyd iawn. Er mwyn llenwi'r bwlch arwisgwyd mab y brenin â'r 'Dywysogaeth' yn 1471.

Fersiwn yn ôl 09:33, 4 Chwefror 2017

Rhosyn Swydd Gaerhirfryn
Rhosyn Swydd Efrog

Roedd Rhyfeloedd y Rhosynnau (Rhyfel y Rhos, yn ôl yr hanesydd John Davies[1]) yn gyfres o ryfeloedd a ymladdwyd o dros 30 mlynedd (1455 i 1485) rhwng cefnogwyr Teulu'r Lancastriaid a Theulu'r Iorciaid. Fe'i gelwir yn "Rhyfeloedd y Rhosynnau" am fod y rhosyn coch yn cynrychioli Lancaster a'r rhosyn gwyn yn cynrychioli Iorc. Y wobr fawr yn y rhyfeloedd hyn oedd Coron Lloegr. Er eu bod yn rhyfel cartref Seisnig ar un ystyr roedd yn anorfod fod Cymru'n cael ei thynnu i mewn iddynt. Er y gelwir y cyfnod hwn yn "Rhyfeloedd y Rhosynnau", ychydig o ymladd a fu mewn gwirionedd - tua 13 wythnos i gyd gyda chyfanswm o 12 brwydr.

Yn ôl John Davies, y pwysicaf o'r brwydrau a ymladdwyd oedd Brwydr Wakefield (1460) lle lladdwyd dug York, Brwydr Mortimer's Cross (1461) (brwydr rhwng dwy fyddin o Gymry, mewn gwirionedd) gan i'w fab ddyrchafu ei hun yn Edward IV, Brwydr Banbury (1469) a arweiniodd at ailorseddu Harri VI a Brwydr Tewkesbury (1471) oedd yn allweddol i ailorseddu Edward IV, ac wrth gwrs Brwydr Bosworth.

Uchafbwynt y rhyfeloedd hyn oedd buddugoliaeth Harri Tudur (a ddaeth yn Harri VII) ym Mrwydr Bosworth yn 1485; diolch i'r cymorth a gafodd gan y Cymry a heidiai i'w gefnogi pan laniodd yn Sir Benfro, trechodd Harri y brenin Rhisiart III a chipiodd goron Lloegr gan agor cyfnod y Tuduriaid.

Rhyfeloedd y Rhosynnau yng Nghymru

Er na fu brwydrau o bwys yng Nghymru, yr oedd Cymru'n ffynhonnell bwysig o filwyr i'r ddwy blaid. Y ddau arweinydd pwysicaf yng Nghymru oedd y ddau Iarll Penfro, Siaspar Tudur dros y Lancastriaid a William Herbert dros yr Iorciaid. Yn ddiweddarach yr oedd gan Syr Rhys ap Thomas ran bwysig mewn codi milwyr i Harri Tudur yng Nghymru cyn brwydr Bosworth. Tueddai'r rhan fwyaf o'r Cymry i ochri â phlaid y Lancastriaid yn erbyn yr Iorciaid, ond yr oedd hefyd gryn gefnogaeth i'r Iorciaid. Roedd Guto'r Glyn er enghraifft yn blediwr selog i'r Iorciaid a bu'n fyw drwy gyfnod y rhyfeloedd.[2] Ym Mrwydr Mortimer's Cross yr oedd llawer o Gymry yn y ddwy fyddin, ac wedi i'r Iorciaid ennill y dydd, dienyddiwyd Owain Tudur. Bu farw Tywysog Cymru, Edward o San Steffan, ym Mrwydr Tewkesbury ar 4 Mai 1471.

Brwydr rhwng dwy fyddin o Gymry oedd Brwydr Mortimer's Cross (1461), ac roedd treuan milwyr Harri yn Gymry yn ôl John Davies.[3] Galwodd y bardd Lewis Glyn Cothi frwydr Banbury yn 'drychineb cenedlaethol' gan i gymaint o Gymry farw ynddi. Gwelodd Carnhuanawc dristwch yn y sefyllfa wedi gwaed Cymry'n cael ei golli dros goron Lloger yn hytrach na thros 'eu breintiau cynhenid fel trigolion Cymru'. ond yn gyffredinol, chwiliai'r beir am genedlaethau am arweinydd Cymreig newydd: yn y 1450au, Siasbar Tudur oedd eu harwr, yn y 1460au, oherwydd ei berthynas â Llywelyn Fawr, Edward IV, brenin Lloegr oedd hwnnw. Edrychid ar Herbert hefyd fel un o'r arwyr, ac wedi iddo gael ei ddienyddio trodd y Cymry'n derfysglyd iawn. Er mwyn llenwi'r bwlch arwisgwyd mab y brenin â'r 'Dywysogaeth' yn 1471.

Yn Aberhonddu y cododd dug Buckingham faner gwrthryfel, o bosib, i hybu achos Harri Tudur, a oedd yn Llydaw, ond ni chafodd gefnogaeth y Cymry, ac o fewn mis fe'i dienyddiwyd. William Stanley oedd gŵr grymusaf gogledd Cymru a Rhys ap Thomas (ŵyr Gruffudd ap Nicolas a Lancastriaid o fri) yn y De.

Brwydrau Pwysig y Rhyfeloedd y Rhosynnau

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Hanes Cymru; cyhoeddiad Penguin; 2009; tud 206)
  2. gutorglyn.net; adalwyd 4 Chwefror 2017.
  3. Hanes Cymru; cyhoeddiad Penguin; 2009; tud 206)
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.