Neifion (planed): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dadwneud y golygiad 2196899 gan 193.39.172.204 (Sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Neptune.jpg|250px|bawd|Y blaned '''Neifion''']]
[[Delwedd:Neptune.jpg|250px|bawd|Y blaned '''Neifion''']]


'''Neifion''' yw'r wythfed [[Planed|blaned]] oddi wrth yr [[Haul]]. Mae Neifion yn llai ei thryfesur nag [[Wranws]] ond yn fwy ei chrynswth.
'''Neifion''' yw'r wythfed [[Planed|blaned]] oddi wrth yr [[Haul]]. Mae Neifion yn llai ei thryfesur nag [[Wranws]] ond yn fwy ei chrynswth.mae Ellie yn byw yna




* Cylchdro: 4,504,000,000 km (30.06 o [[Uned Seryddol|Unedau Seryddol]]) oddi wrth yr Haul.
* Cylchdro: 4,504,000,000 km (30.06 o [[Uned Seryddol|Unedau Seryddol]]) oddi wrth yr Haul.

Fersiwn yn ôl 13:57, 26 Ionawr 2017

Y blaned Neifion

Neifion yw'r wythfed blaned oddi wrth yr Haul. Mae Neifion yn llai ei thryfesur nag Wranws ond yn fwy ei chrynswth.mae Ellie yn byw yna


  • Cylchdro: 4,504,000,000 km (30.06 o Unedau Seryddol) oddi wrth yr Haul.
  • Tryfesur: 49,532 km (ar ei chyhydedd)
  • Cynhwysedd: 1.0247e26 kg

Duw yr eigion yw Neifion ym mytholeg Rufeinig.

Gwelwyd y blaned Neifion gan y seryddwr Galileo yn 1612, ond methodd wireddu ei fod o'n edrych ar blaned, gan gymryd ei bod yn seren.

Felly, cafodd Neifion ei darganfod ym 1846[1] Mae Neifion wedi cael un ymweliad gan ofodlestr, sef Voyager 2, ar y 25ain o fis Awst, 1989. Mae cyfansoddiad Neifion yn debyg i gyfansoddiad Wranws: rhewogydd a chreigiau amrywiol a rhyw 15% hydrogen gydag ychydig o heliwm. Fel Wranws, ond yn wahanol i Iau a Sadwrn, gallai bod nad oes ganddi haenau gwahanol mewnol eithr ei bod mwy neu lai'n unffurf ei chyfansoddiad. Ond mae'n debyg fod ganddi galon fach greigiog, tua'r un maint â'r Ddaear. Mae awyrgylch Neifion wedi ei gyfansoddi o hydrogen a heliwm ac yn cynnwys methan.

Mae lliw glas Neifion yn ganlyniad o fethan yn yr awyrgylch yn llyncu golau coch, ond mae hefyd rhyw chromoffor anhysbys sy'n rhoi i'r cymylau eu lliw glas goludog. Fel y cewri nwy eraill, mae gan Neifion wyntoedd cyflym wedi eu cyfyngu i rwymynnau o ledred a stormydd enfawr neu drobyllau. Gwyntoedd Neifion yw'r cyflymaf yng Nghysawd yr Haul, yn cyrraedd 2000 km yr awr. Fel Iau a Sadwrn, mae gan Neifion ei ffynhonnell wres ei hun -yn rheiddiadu dwywaith yr egni y mae hi'n derbyn o'r Haul.

Mae gan Neifion fodrwyau hefyd. Mae gan un ohonynt strwythur wedi ei dirwyn (uchod). Fel Iau ac Wranws mae modrwyau Neifion yn dywyll, ond mae eu cyfansoddiad yn anhysbys. Mae gan modrwyau Neifion enwau: y fwyaf allanol ydy Adams, sy'n cynnwys tri bwa amlwg wedi eu henwi fel Rhyddid, Cydraddoldeb a Brawdoliaeth. Y nesaf ydy un ddi-enw sy'n cyd-gylchio gyda Galatea, yna Leverrier ac yn olaf Galle.

Mae gan Neifion 13 lloeren; 7 bach gydag enwau, Triton, 4 wedi eu darganfod yn 2002 ac un wedi ei darganfod yn 2003 sydd eto i gael ei henwi.

Cyfeiriadau


Planedau yng Nghysawd yr Haul
Mercher
Mercher
Gwener
Gwener
Y Ddaear
Y Ddaear
Mawrth
Mawrth
Iau
Iau
Sadwrn
Sadwrn
Wranws
Wranws
Neifion
Neifion