Ogof Pen-y-Fai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
[[Delwedd:Goat's Hole Paviland.jpg|250px|bawd|Ogof Twll y Gafr lle darganfuwyd "Arglwyddes Goch Pen-y-Fai" (darlun 1823)]] |
[[Delwedd:Goat's Hole Paviland.jpg|250px|bawd|Ogof Twll y Gafr lle darganfuwyd "Arglwyddes Goch Pen-y-Fai" (darlun 1823)]] |
||
[[Delwedd:Rhossili 06 05.jpg|250px|bawd|Traeth Rhosili]] |
[[Delwedd:Rhossili 06 05.jpg|250px|bawd|Traeth Rhosili]] |
||
[[Ogof]] [[cynhanes|gynhanesyddol]] wedi'i lleoli ger [[Rhosili]] ar y [[Gŵyr]] ({{gbmapping|SS951807}}) yw '''Ogof Paviland''' (neu '''Ogof Pen-y-Fai'''). Mae'n un o gyfres o ogofâu wedi'u cysylltu, ac a fu'n gartref i bobl yn ystod [[Hen Oes y Cerrig Uchaf]]: tua 26,000 o flynyddoedd yn cyn y presennol ([[CP]]). Mae'n adnabyddus fel y man lle darganfuwyd sgerbwd " |
[[Ogof]] [[cynhanes|gynhanesyddol]] wedi'i lleoli ger [[Rhosili]] ar y [[Gŵyr]] ({{gbmapping|SS951807}}) yw '''Ogof Paviland''' (neu '''Ogof Pen-y-Fai'''). Mae'n un o gyfres o ogofâu wedi'u cysylltu, ac a fu'n gartref i bobl yn ystod [[Hen Oes y Cerrig Uchaf]]: tua 26,000 o flynyddoedd yn cyn y presennol ([[CP]]). Mae'n adnabyddus fel y man lle darganfuwyd sgerbwd "Dynes Goch Paviland<ref>Hanes Cymru, John Davies, <nowiki>ISBN 0-14-012570-1</nowiki></ref>", y ffosil dynol cyntaf i'w darganfod (1823). Caiff yr ogof ei hystyried fel yr ogof "gyfoethocaf o'r cyfnod hwn (Hen Oes y Cerrig Uchaf) yn Ynys Prydain",<ref>Prehistoric Wales gan Frances Lynch et al. Sutton Publishing Ltd; 2000; tud. 19 Mae'r gyfrol yma'n datgan mai ogof Paviland yw'r "ogof gyfoethocaf o'r cyfnod hwn (Hen Oes y Cerrig Uchaf) yn Ynys Prydain".</ref> oherwydd natur defodol y claddu. Prin fod unrhyw dystiolaeth o fywyd yr adeg yma drwy ynys Prydain ar wahân i Ogof Paviland. |
||
==Darganfyddiadau archaeolegol== |
==Darganfyddiadau archaeolegol== |
Fersiwn yn ôl 21:08, 25 Ionawr 2017
Ogof gynhanesyddol wedi'i lleoli ger Rhosili ar y Gŵyr (cyfeiriad grid SS951807) yw Ogof Paviland (neu Ogof Pen-y-Fai). Mae'n un o gyfres o ogofâu wedi'u cysylltu, ac a fu'n gartref i bobl yn ystod Hen Oes y Cerrig Uchaf: tua 26,000 o flynyddoedd yn cyn y presennol (CP). Mae'n adnabyddus fel y man lle darganfuwyd sgerbwd "Dynes Goch Paviland[1]", y ffosil dynol cyntaf i'w darganfod (1823). Caiff yr ogof ei hystyried fel yr ogof "gyfoethocaf o'r cyfnod hwn (Hen Oes y Cerrig Uchaf) yn Ynys Prydain",[2] oherwydd natur defodol y claddu. Prin fod unrhyw dystiolaeth o fywyd yr adeg yma drwy ynys Prydain ar wahân i Ogof Paviland.
Darganfyddiadau archaeolegol
Darganfuwyd yno fwyeill llaw o Hen Oes y Cerrig, dannedd bleiddiaid ac esgyrn eirth.
Ond y darganfyddiad pwysicaf oedd sgerbwd corff dynol o Hen Oes y Cerrig a adnabyddir dan yr enw "Arglwyddes Goch Pen-y-Fai". Gwnaed y darganfyddiad hwnnw gan yr hynafiaethydd ac archaeolegydd cynnar William Buckland yn 1823 yn Ogof Twll y Gafr. Credai Buckland ac eraill mai sgerbwd merch oedd hi ond dangoswyd mai gweddillion dyn ifanc tuag 21-25 oed ydyw.[3] Roedd yn byw tua 29,000 o flynyddoedd yn ôl. Paentiwyd ei sgerbwd a lliw ochre coch, fel amddiffyn yn erbyn pwerau maleisus yn ôl pob tebyg (arfer cyffredin yn y cyfnod hwnnw). Dyma'r gweddillion dynol modern (Homo sapiens sapiens) hynaf a ddarganfuwyd ym Mhrydain a'r claddu defodol hynaf y gwyddys amdano yn Ewrop i gyd. Cafwyd penglog mamoth yn ei ymyl ond mae hynny ar goll erbyn hyn.
Ymhlith y darganfyddiadau diweddarach o'r ogof y mae casgliad o bennau gwaywffyn a chrafwyr croen callestr, sydd efallai i'w dyddio i'r cyfnod Aurignasiaidd.
Cadw
Mae'r heneb hon wedi'i chofrestru gan Cadw gyda'r Rhif SAM unigryw: GM434 [4] Ceir ail ogof gerllaw cyfeiriad grid SS437859 sydd wedi'i chofrestru gan Cadw gyda'r Rhif SAM unigryw: GM504
Cyfeiriadau
- ↑ Hanes Cymru, John Davies, ISBN 0-14-012570-1
- ↑ Prehistoric Wales gan Frances Lynch et al. Sutton Publishing Ltd; 2000; tud. 19 Mae'r gyfrol yma'n datgan mai ogof Paviland yw'r "ogof gyfoethocaf o'r cyfnod hwn (Hen Oes y Cerrig Uchaf) yn Ynys Prydain".
- ↑ Prehistoric Wales gan Frances Lynch et al. Sutton Publishing Ltd; 2000; tud. 18 Mae'r gyfrol yma'n datgan mai dyn 25 oed sydd yma.
- ↑ Cofrestr Cadw.