Teulu (cyfres deledu): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Camwy.nlw (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '==Crynodeb== Ym mhennod gyntaf y gyfres, yn sgîl marwolaeth annisgwyl Dr Walt, tad-yng-nghyfraith Hywel, fe’i gorfodir i wynebu’r ffaith mai dymunia...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 12:38, 24 Ionawr 2017

Crynodeb

Ym mhennod gyntaf y gyfres, yn sgîl marwolaeth annisgwyl Dr Walt, tad-yng-nghyfraith Hywel, fe’i gorfodir i wynebu’r ffaith mai dymuniad penna’ ei wraig yw symud ’nôl i Aberaeron i fyw. I Hywel, sy’n feddyg llwyddiannus yn Llundain, mae’r syniad yn anathema llwyr. Chwalwyd bywyd dedwydd y teulu gyda’r datguddiad mai Dr John, nid Richard Morgan, oedd tad Hywel. Cafwyd mwy o gyfrinachau hefyd, wrth i Hywel, sy’n cael ei bortreadu gan Geraint Morgan, gael perthynas gyda’i gydweithiwr a darpar wraig ei frawd, Dr Manon. Gorffenodd y gyfres gyntaf gyda'r gwylwyr ar bigau'r draen yn dilyn priodas Llŷr a Dr Manon a thrawiad Dr John.

Yn yr ail gyfres, mae Llŷr ar fin agor clwb newydd ar y maes carafannau mae’n rhedeg ar dir y teulu. Mae e a Manon, sy’n cael ei chwarae gan Catrin Morgan, yn paratoi i symud o Fryncelyn i gartref newydd. Bydd y drydedd gyfres yn cael ei darlledi yn Hydref 2010.

Manylion Pellach

Teitl Gwreiddiol: Teulu

Blwyddyn: 2008, 2010

Hyd y Ffilm: 60 munud bob pennod

Cyfarwyddwr: Delyth Thomas, Sion Humphreys, Rhys Powys, Gareth Rowlands

Sgript gan: Meic Povey, Branwen Cennard

Stori gan: Geraint Lewis

Cynhyrchydd: Branwen Cennard

Cwmnïau Cynhyrchu: Boomerang

Genre: Drama

Cast a Chriw

Prif Gast

  • William Thomas (Richard)
  • Mair Rowlands (Margaret)
  • Geraint Morgan (Hywel)
  • Rhys ap Hywel (Llyr)
  • Rhian Jones (Llinos)
  • Gaynor Morgan Rees (Dot)
  • Heledd Baskerville (Catrin)
  • Zak Daly (Owain)
  • Jonathan Nefydd (Danny)
  • Rhys Parry Jones (Dr John)
  • Eiry Thomas (Eirlys)
  • Catrin Morgan (Manon)
  • Lydia Jones (Meleri)
  • Dewi Rhys Williams (Eric)
  • Meilyr Sion (Rhydian Lloyd)
  • Bradley Freegard (Steffan)
  • Steffan Rhodri (Danny)
  • Beth Robert (Myra)
  • Matthew Gravelle (Huw)

Ffotograffiaeth

  • Ray Orton, Tony Yates

Dylunio

  • Phil Rawsthorne

Cerddoriaeth

  • Dyfan Jones

Sain

  • Tom Logan, Andy Powell, Rolant Jones

Golygu

  • Sara Jones, Angharad Owen

Manylion Technegol

Fformat Saethu: Clir Lun

Math o Sain: Stereo

Lliw: Lliw

Cymhareb: Agwedd 16:9

Gwlad: Cymru

Iaith Wreiddiol: Cymraeg

Lleoliadau Saethu: Aberaeron, Caerdydd

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Teulu ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.