Iwtopia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 21: | Llinell 21: | ||
{{cyfeiriadau}} |
{{cyfeiriadau}} |
||
{{Esboniadur| Iwtopia | |
{{Esboniadur| Iwtopia | CC=BY}} |
Fersiwn yn ôl 02:04, 24 Ionawr 2017
Lle neu gyflwr delfrydol berffaith yw Iwtopia[1]
Cefndir
‘Nunlle’ yw ystyr yr enw Groeg 'Iwtopia' neu ‘Wtopia’. Tebyg mai Syr Thomas More yn ei lyfr Utopia (1516) a ddefnyddiodd y gair gyntaf i olygu gwladwriaeth berffaith nad ydym wedi ei chyrraedd eto. Ond yr oedd y drychfeddwl yn hen, cyn hyned yn sicr â Gwladwriaeth Plato yn y 4g CC. Cawn felly’r cyferbyniad rhwng Arcadia – y baradwys a fu, ac Iwtopia – y baradwys sydd i ddod.
Iwtopia mewn llenyddiaeth
Ym mhob darlun o Iwtopia mae pethau na allant blesio pawb, a phen draw hyn yw y gall paradwys un dyn fod yn uffern i arall. Mewn profiad ymarferol ac mewn llenyddiaeth tuedda Iwtopia bron yn anochel i fynd o chwith, gan roi inni yr hyn a alwyd yn ‘Dystopia’. Er mai camfathiad yw’r gair, gwna’n iawn i gyfleu methiant yr ymgais i greu byd gwell. ‘Dystopaidd’ yw rhai o nofelau enwocaf yr 20g., e.e.Darkness at Noon (Arthur Koestler), Brave New World (Aldous Huxley) ac Animal Farm a Nineteen Eighty-four; (George Orwell); yn gefndir iddynt mae ffactorau fel dadrith ynghylch y chwyldro Comiwnyddol a phryder am rawd gwyddoniaeth.
Iwtopia mewn llenyddiaeth Cymraeg a Chymreig
Yn Wythnos yng Nghymru Fydd Islwyn Ffowc Elis mae inni ddewis clir rhwng Iwtopia Gymreig a Dystopia Brydeinig, yn dibynnu’n llwyr ar sut y bwriwn ein pleidlais. Yn Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys mae Emrys ap Iwan yn 1890-2 yn dychmygu Cymru bosibl yn 2012, ac er bod elfennau Iwtopaidd yn ei Gymru newydd bu’n rhaid aberthu rhai pethau er mwyn ei chael. Math ar Dystopia yw byd storïau Caradoc Evans, yr hunllef wledig sydd mewn cyferbyniad amlwg (a bwriadol mae’n debyg) â’r darlun rhamantaidd a Rhyddfrydol o’r werin Gymraeg oleuedig ac o burdeb bywyd y wlad.
Llyfryddiaeth
Morton, A. L. (1952), The English Utopia (Llundain: Lawrence & Wishart).
Cyfeiriadau