Cymuned Ewropeaidd Glo a Dur: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
Roedd Cytundeb Paris yn ddilys am 50 mlynedd yn unig, ac felly daeth yr ECSC i ben ar [[23 Gorffennaf]] [[2002]]. Roedd y Gymuned Ewropeaidd yn etifeddu cyfrifoldebau ac asedau yr ECSC (cadarhawyd hyn gan brotocol i [[Cytundeb Nice|Gytundeb Nice]]). |

||
== |
==Llywyddion Uchel Awdurdod y Gymuned Ewropeaidd Glo a Dur, 1952-1967== |
||
*[[Jean Monnet]] ([[Ffrainc]]) 1952-1955 |
*[[Jean Monnet]] ([[Ffrainc]]) 1952-1955 |
||
*[[René Mayer]] ([[Ffrainc]]) 1955-1958 |
*[[René Mayer]] ([[Ffrainc]]) 1955-1958 |
Fersiwn yn ôl 09:29, 27 Hydref 2007
Sefydlwyd y Gymuned Ewropeaidd Glo a Dur (ECSC) ym 1951 gan Gytundeb Paris. Ei haelod-wladwriaethau oedd Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, Lwcsembwrg (gwledydd Benelux), Gorllewin yr Almaen, Ffrainc a'r Eidal. Pwrpas y gymuned oedd cydgyfrannu adnoddau glo a dur ei haelod-wladwriaethau er mwyn rhwystro rhyfel arall yn Ewrop. Fe'i cynlluniwyd gan Jean Monnet, gwas sifil ac economegydd o Ffrainc, a fe'i cyhoeddwyd gan Robert Schuman, gweinidog tramor Ffrainc.
Roedd yr ECSC yn sylfaen i ddatblygiad y Gymuned Economaidd Ewropeaidd, a arweiniodd at y Gymuned Ewropeaidd ac, yn dilyn Cytundeb Maastricht, at yr Undeb Ewropeaidd.
Roedd Cytundeb Paris yn ddilys am 50 mlynedd yn unig, ac felly daeth yr ECSC i ben ar 23 Gorffennaf 2002. Roedd y Gymuned Ewropeaidd yn etifeddu cyfrifoldebau ac asedau yr ECSC (cadarhawyd hyn gan brotocol i Gytundeb Nice).
Llywyddion Uchel Awdurdod y Gymuned Ewropeaidd Glo a Dur, 1952-1967
- Jean Monnet (Ffrainc) 1952-1955
- René Mayer (Ffrainc) 1955-1958
- Paul Finet (Gwlad Belg) 1958-1959
- Piero Malvestiti (Yr Eidal) 1959-1963
- Dino Del Bo (Yr Eidal) 1963-1967