Cymuned Ewropeaidd Glo a Dur: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B Wedi symud Cymuned Glo a Dur Ewropeaidd i Cymuned Ewropeaidd Glo a Dur trwy ailgyfeiriad.: enw gwell
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 22:38, 26 Hydref 2007

Sefydlwyd y Gymuned Glo a Dur Ewropeaidd (ECSC) ym 1951 trwy Gytundeb Paris. Ei aelod-wladwriaethau oedd Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, Lwcsembwrg (gwledydd y Benelux), Gorllewin yr Almaen, Ffrainc a'r Eidal. Pwrpas y gymuned oedd cydgyfrannu adnoddau glo a dur ei aelod-wladwriaethau er mwyn rhwystro rhyfel arall yn Ewrop. Plannwyd gan Jean Monnet, gwas sifil ac economegydd o Ffrainc, a chyhoeddwyd gan Robert Schuman, gweinidog tramor Ffrainc.

Roedd yr ECSC yn sylfaen i ddatblygiad y Gymuned Economaidd Ewropeaidd a gafodd enw newydd, y Gymuned Ewropeaidd gyda Chytundeb Maastricht ac wedyn yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd Cytundeb Paris yn ddilys am 50 blynedd yn unig, ac felly daeth yr ECSC i ben ar 23 Gorffennaf 2002. Roedd y Gymuned Ewropeaidd yn etifeddu cyfrifoldebau ac asedau yr ECSC (cadarhawyd hyn gan brotocol Cytundeb Nice).

Arlywyddion Uchel Awdurdod y Gymuned Glo a Dur Ewropeaidd, 1952-1967

Gweler hefyd