Angharad ferch Nest: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: '''Angharad ferch Nest''' (fl. 12fed ganrif) oedd gwraig William de Barri a mam Gerallt Gymro. Yr oedd Angharad yn ferch i'r Dwysoges Nest ...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 21:54, 26 Hydref 2007

Angharad ferch Nest (fl. 12fed ganrif) oedd gwraig William de Barri a mam Gerallt Gymro.

Yr oedd Angharad yn ferch i'r Dwysoges Nest (fl.1100-1120), ferch Rhys ap Tewdwr, tywysog Deheubarth, gwraig Gerallt o Windsor, arglwydd Normanaidd Ynys y Barri a cheidwad Castell Penfro. Mae'n debygol i Angharad gael ei geni ym Mhenfro.

Ar ôl priodi, William de Barri, fab Odo de Barri, bu Angharad yn byw gyda'i gŵr yng nghastell Maenorbŷr, Sir Benfro.

Cafodd pedwar mab gan William, sef Robert, Phylip, Gwallter a Gerallt (a aned yn 1146). Ymddengys fod Gerallt yn hoff iawn o'i fam gan ei fod yn cyfeirio ati yn aml, gyda balchder, yn ei weithiau llenyddol.

Ffynonellau

  • Thomas Jones Gol.), Gerallt Gymro (Caerdydd, 1938)
  • Michael Richter, Giraldus Cambrensis (Aberystwyth, 1976)