Ffleminiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae'r '''Ffleminiaid''' ([[Fflemeg]]/[[Iseldireg]]: ''de Vlamingen'' neu ''het Vlaamse volk'' "gwerin Fflandrys") yw'r bobl sy'n ffurfio'r mwyafrif o'r [[Belgiaid]], gyda chymuned o tua 6 miliwn yn [[Flandrys]], rhan ogleddol [[Gwlad Belg]].
Mae'r '''Ffleminiaid''' ([[Fflemeg]]/[[Iseldireg]]: ''de Vlamingen'' neu ''het Vlaamse volk'' "gwerin Fflandrys") yw'r bobl sy'n ffurfio'r mwyafrif o'r [[Belgiaid]], gyda chymuned o tua 6 miliwn yn [[Fflandrys]], rhan ogleddol [[Gwlad Belg]].


[[Delwedd:Flag of Flanders.svg|200px|bawd|Baner Fflandrys gyda Llew y Ffleminiaid]]
[[Delwedd:Flag of Flanders.svg|200px|bawd|Baner Fflandrys gyda Llew y Ffleminiaid]]

Fersiwn yn ôl 16:56, 26 Hydref 2007

Mae'r Ffleminiaid (Fflemeg/Iseldireg: de Vlamingen neu het Vlaamse volk "gwerin Fflandrys") yw'r bobl sy'n ffurfio'r mwyafrif o'r Belgiaid, gyda chymuned o tua 6 miliwn yn Fflandrys, rhan ogleddol Gwlad Belg.

Baner Fflandrys gyda Llew y Ffleminiaid

Fodd bynnag, nid yw tiriogaeth y Fflandrys bresennol yn cyfateb i'r hen Swydd Flandrys, a gynhwysai rannu o ogledd Ffrainc a'r Iseldiroedd ond heb gynnwys canolbarth a dwyrain y Fflandrys bresennol, a oedd yn rhan o arglwyddiaethau eraill yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, yn bennaf Dugiaeth Brabant a Swydd Loon.

Mae statws y Ffleminiaid a Fflandrys o fewn gwladwriaeth Gwlad Belg yn gwestiwn gwleidyddol dadleuol, gyda nifer o Ffleminiaid yn pwyso am ffurf o hunanlywodraeth.

Dros y canrifoedd mae'r Ffleminiaid wedi ymfudo i sawl gwlad ac ardal yn Ewrop a'r Byd Newydd. Daethant i Loegr yn y 12fed ganrif a chawsant eu defnyddio gan frenhinoedd Lloegr fel arf yn erbyn Cymry'r de trwy sefydlu trefedigaeth yn ne Penfro a drawsnewidiodd iaith a diwylliant y rhan honno o Gymru (gweler Ffleminiaid de Penfro).

Gweler hefyd


 Mae'r erthygl hon yn Eginyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ei datblygu.