Ogof Pen-y-Fai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
|||
Llinell 13: | Llinell 13: | ||
[[Categori:Archaeoleg Cymru]] |
[[Categori:Archaeoleg Cymru]] |
||
[[Categori:Hen Oes y Cerrig yng Nghymru]] |
[[Categori:Hen Oes y Cerrig yng Nghymru]] |
||
[[Categori:Penrhyn Gŵyr]] |
|||
[[en:Red Lady of Paviland]] |
[[en:Red Lady of Paviland]] |
Fersiwn yn ôl 19:56, 25 Hydref 2007
Ogof cynhanesyddol ger Rhosili ar y Gŵyr yw Ogof Paviland. Yn gywirach mae'n gyfres o ogofâu cysylltiedig a fu'n gartref i ddynion filoedd o flynyddoedd cyn Crist. Darganfuwyd yno fwyeill llaw o Oes yr Hen Gerrig, dannedd bleiddiaid ac esgyrn eirth.
Ond y darganfyddiad pwysicaf oedd sgerbwd corff dynol o Oes yr Hen Gerrig a adnabyddir dan yr enw "Arglwyddes Goch Pafiland". Gwnaed y darganfyddiad hwnnw gan yr hynafiaethydd ac archaeolegydd cynnar William Buckland yn 1823 yn Ogof Twll y Gafr. Credai Buckland ac eraill mai sgerbwd merch oedd hi ond dangoswyd mai gweddillion dyn ifanc tuag 21 oed ydyw. Roedd yn byw tua 29,000 o flynyddoedd yn ôl. Paentiwyd ei sgerbwd a lliw ochre coch, fel amddiffyn yn erbyn pwerau maleisus yn ôl pob tebyg (arfer cyffredin yn y cyfnod hwnnw). Dyma'r gweddillion dynol modern (Homo sapiens sapiens) hynaf a ddarganfuwyd ym Mhrydain a'r claddu defodol hynaf y gwyddys amdano yn Ewrop i gyd. Cafwyd penglog mamoth yn ei ymyl ond yn anffodus mae hynny ar goll erbyn hyn.
Ymhlith y darganfyddiadau diweddarach o'r ogof y mae casgliad o bennau gwaywffyn a chrafwyr croen callestr, sydd efallai i'w dyddio i'r cyfnod Aurignasiaidd.
Cysylltiad allanol
- Ogof Paviland, Casglu'r Tlysau