Disgo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Adding: sk:Disko
Llinell 41: Llinell 41:
[[ru:Диско]]
[[ru:Диско]]
[[simple:Disco]]
[[simple:Disco]]
[[sk:Disko]]
[[sv:Disco]]
[[sv:Disco]]
[[th:ดิสโก้]]
[[th:ดิสโก้]]

Fersiwn yn ôl 21:15, 22 Hydref 2007

Disco / Discothèque

  • Ffasiwn o gerddoriaeth ddawns yw Disco, croes rhwng funk a soul gyda phatrwm rhyddmig rhwng 110 a 136 curiad y munud.
  • Disco hefyd yw clwb lle mae bobl yn dawnsio i recordiau.
  • Gair Ffrangeg yw discothèque (cynaniad: dis-co-TEC) sy'n ystyr "llyfrgell recordiau".
  • Mae yna ddisco symudol hefyd; chwaraewyr recordiau gyda mwyhaduron gellir gludo er mwyn cynnal dawns yn unrhyw fan.

Hanes Disco

Fe agorwyd y discothèque cyntaf yn 1941. La Discothèque, Rue de la Huchette, Paris. O amgylch 1950-1951 fe agorwyd llawer o glybiau discothèque ym Mharis, hynny yw; clybiau oedd yn chwarae recordiau yn hytrach na seindorf ddawns.

Fe agorwyd y disco cyntaf yng Nghymru yn 1964; y Cardiff Discothèque Club, Charles St. Caerdydd. Roedd llawer neuadd ddawns yn chwarae recordiau neu yn cynnal "disco", ond hwn oedd y clwb discothèque cyntaf yng Nghymru. Roeddyn nhw'n chwarae cerddoriath fel Soul, Ska a R&B.

Yn 1965 daeth e'n ffasiynol i ddawnsio'r Go-go. Roedd dawns y Go-go yn addas iawn i'r disco gan ei fod yn rhoi cyfle i'r dawnswyr rhodresa ac arddangos eu hunain. Doedd dim recordiau wedi wneud yn arbennig i chwarae mewn disco tan 1973. Roedd recordiau addas yn bodoli, fel Shaft (1971) gan Isaac Hayes. Fe fydd rhai yn dweud mae Soul Makossa (1972) gan Manu Dibango oedd y record ddisco cyntaf. Mae'n debyg mae'r record ddisco cyntaf i ddod yn boblogaidd oedd Rock Your Baby (1974) gan George McCrae.

Oes y Disco

1975 oedd y flwyddyn pan ddaeth Disco yn boblogaidd gyda recordiau fel The Hustle gan Van McCoy, Love to Love You Baby gan Donna Summer a Never Can Say Goodbye gan Gloria Gaynor. Oes y Disco oedd 1977 - 1979. Gafodd hwn wthiad bach yn 1977 gan y ffilm "Saturday Night Fever" (prif actor: John Traviolta) ac yn 1979 gan "The Bitch" (prif actores: Joan Collins).

Datblygiadau diweddarach

Yn yr 80au fe ddatblygodd House a Techno o gerddoriaeth Disco.

Cysylltiadau mewnol