Corhwyaden: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thijs!bot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Adding: se:Čiksa
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Adding: tr:Çamurcun
Llinell 57: Llinell 57:
[[sk:Kačica chrapkavá]]
[[sk:Kačica chrapkavá]]
[[sv:Kricka]]
[[sv:Kricka]]
[[tr:Çamurcun]]
[[zh:绿翅鸭]]
[[zh:绿翅鸭]]
[[zh-min-nan:Chúi-phiô-á]]
[[zh-min-nan:Chúi-phiô-á]]

Fersiwn yn ôl 16:21, 21 Hydref 2007


Mae'r Gorhwyaden (Anas crecca) yn un o'r hwyaid mwyaf cyffredin sy'n nythu trwy ogledd Ewrop and Asia. Yng Ngogledd America mae ffurf debyg iawn , y Gorhwyaden Asgell-werdd Anas carolinensis, oedd yn cael ei ystyried yr un rhywogaeth hyd yn ddiweddar.

Mae'r hwyaden yma yn aderyn mudol ac weithiau yn symud cyn belled ag Affrica yn y gaeaf. Yn y gaeaf gellir gweld heidiau o gannoedd ar adegau.

Dyma'r lleiaf o'r genws Anas. Yn ei blu nythu, mae'r ceiliog yn llwyd ar y cefn a'r ochrau gyda melyn o dan y gynffon, darn gwyrdd ar yr adenydd a phen browngoch gyda gwyrdd o gwmpas y llygad. Mae'r iar yn frown neu lwyd, ond gellir eu gwahaniaethu oddi wrth y rhan fwyaf o hwyaid eraill trwy eu bod yn llai a bod ganddynt wyrdd ar yr adain. Wrth hedfan, mae haid yn medru troi a throsi yn sydyn yn yr awyr, bron fel haid o rydyddion.

Mae'n nythu mewn gwlybdiroedd lle mae tipyn o dyfiant. Gall pwll bach neu gors fod yn ddigon iddynt fagu cywion. Planhigion yw eu bwyd pennaf. Mae'n aderyn eithaf swnllyd, ac mae gan y ceiliog chwiban glir sy'n nodweddiadol o'r gorhwyaden.

Ychydig o barau o'r Gorhwyaden sy'n nythu yng Nghymru, ond yn y gaeaf mae nifer fawr i'w gweld ar lynnoedd a chorsydd.

Y Gorhwyaden yn Ewrop ac Asia a'r Gorhwyaden Asgell-werdd yng Ngogledd America