Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Dinas Efrog Newydd"

Jump to navigation Jump to search
Lleihawyd o 34 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
B
canrifoedd a Delweddau, replaced: 20fed ganrif20g (2), 19eg ganrif19g (2) using AWB
(dileu del heb drwydded)
B (canrifoedd a Delweddau, replaced: 20fed ganrif20g (2), 19eg ganrif19g (2) using AWB)
Sefydlwyd Efrog Newydd fel canolfan fasnachu gan y ''[[Dutch East India Company]]'' ym 1624. Galwyd y lleoliad newydd yn Amsterdam Newydd tan 1664 pan ddaeth y drefedigaeth o dan reolaeth Brydeinig. Bu Efrog Newydd yn brifddinas yr Unol Daleithiau o 1785 tan 1790, ac ers hynny dyma yw dinas fwyaf y genedl ers 1790.
 
Erbyn heddiw, mae gan y ddinas nifer o gymdogaethau a chofadeiladau byd enwog. Cyfarchodd y [[Cerflun Rhyddid]] filiynau o [[mewnlifiad|fewnlifwyr]] wrth iddynt ddod i'r Amerig ar ddiwedd y [[19eg ganrif19g]] a dechrau'r [[20fed ganrif20g]]. Mae [[Wall St.]] ym Manhattan Isaf wedi bod yn ganolfan ariannol byd-eang ers yr [[Ail Ryfel Byd]] ac yno y lleolir [[Cyfnewidfa Stoc Efrog Newydd]]. Mae'r ddinas hefyd wedi bod yn gartref i nifer o adeiladau talaf y byd, gan gynnwys yr [[Empire State Building]] a'r ddau dŵr yng [[Canolfan Fasnach y Byd|Nghanolfan Fasnach y Byd]].
 
== Hanes ==
Daeth y ddinas yn ganolbwynt ar gyfer cyfres o frwydrau mawrion a adwaenid fel [[Ymgyrch Efrog Newydd]] yn ystod [[Rhyfel Annibyniaeth America]]. Ar ôl Brwydr Ffort Washington ym Manhattan Uchaf ym 1776, daeth yn ddinas yn ganolbwynt gwleidyddol a milwrol Prydain yng Ngogledd America tan ddaeth y meddianaeth milwrol i ben ym 1783. Yn fuan ar ôl hyn, gwnaed Dinas Efrog Newydd yn brifddinas cenedlaethol gan Gynghrair y Conffederasiwn; cadarnhawyd Cyfansoddiad yr Unol Daleithiau ac ym 1789, urddwyd [[George Washington]] yn Arlywydd cyntaf yr Unol Daleithiau yno; cyfarfu Cynghrair cyntaf yr Unol Daleithiau yno am y tro cyntaf ym 1789, a draffiwyd Mesur Hawliau a hyn oll yn y Neuadd Ffederal ar Wall St. Erbyn 1790, roedd Dinas Efrog Newydd wedi goddiweddyd [[Philadelphia]] fel dinas fwyaf yr Unol Daleithiau.
 
Yn ystod y [[19eg ganrif19g]] gweddnewidwyd y ddinas gan fewnlifiad a datblygiad. Ehangwyd y grid strydoedd i gynnwys holl ardaloedd Manhattan gan Gynllun y Comisiynnydd ym 1811, a phan agorodd Camlas Erie, cysylltodd porthladd Môr Iwerddon gyda marchnadoedd amaethyddol eang mewndirol Gogledd America. Aeth gwleidyddiaeth lleol o dan ddylanwad Neuadd Tammany, peiriant gwleidyddol a gefnogwyd gan fewnfudwyr [[Iwerddon|Gwyddelig]]. Ymgyrchoedd hen aristocratiaid morol am sefydlu parc ganolog, "Central Park", a ddatblygodd i fod y parc tir-luniedig cyntaf mewn dinas Americanaidd ym 1857. Roedd poblogaeth o dduon-rhydd hefyd yn bodoli ym Manhattan, yn ogystal ag yn Brooklyn. Daliwyd [[caethwasiaeth|caethweision]] yn Efrog Newydd tan 1827, ond yn ystod y [[1830au]] daeth yn ganolbwynt yr ymgyrch i ddiweddu caethwasiaeth aml-hil yn y Gogledd.
 
[[Delwedd:Mulberry_Street_NYC_c1900_LOC_3g04637u_edit.jpg|bawd|dde|Stryd Mulberry, ar Ochr Ddwyreiniol Isaf Manhattan, tua 1900]]Arweiniodd ddicter at orfodaeth milwrol yn ystod [[Rhyfel Annibyniaeth America]] (1861-1865) at [[Terfysgoedd Drafftio 1863|Derfysgoedd Drafftio 1863]], un o ddigwyddiadau mwyaf cythryblus yn hanes America. Ym 1898, ffurfiwyd dinas fodern Efrog Newydd drwy gyfuno â Brooklyn (a oedd yn ddinas annibynnol cyn hyn), Swydd Efrog Newydd (a oedd yn cynnwys rhannau o'r Bronx), Swydd Richmond a rhan orllewinol o Swydd Queens. Pan agorodd rheilffordd danddaearol Dinas Efrog Newydd ym 1904, llwyddodd hyn i ddod a'r ddinas newydd at ei gilydd. Trwy gydol hanner gyntaf yr [[20fed ganrif20g]], roedd y ddinas yn ganolbwynt y byd o ran diwydiant, masnach a chyfathrebu. Fodd bynnag, roedd pris i'w dalu am y datblygiad hwn. Ym 1904, bu tân ar long-stêm y General Slocum yn yr Afon Ddwyreiniol, gan ladd 1,021 o bobl a oedd ar fwrdd y llong. Ym 1911, bu farw 146 o weithwyr dillad yn nhrychineb diwydiannol gwaethaf y ddinas, pan fu tân yn Ffatri Triangle Shirtwaist. Arweiniodd hyn at sefydlu Undeb Rhyngwladol y Gweithwragedd Dillad a gwnaed gwelliannau mewn safonau diogelwch ffatrïoedd.
 
[[Delwedd:NewYorkCityManhattanRockefellerCenter.jpg|bawd|chwith|Dinas Efrog Newydd o'r [[Canolfan Rockefeller|Ganolfan Rockefeller]]]]Yn ystod y [[1920au]], roedd Dinas Efrog Newydd yn gyrchfan boblogaidd i Americanwyr-Affricanaidd yn ystod yr Ymfudo Mawr o [[De America|Dde America]]. Erbyn [[1916]], roedd Dinas Efrog Newydd yn gartref i'r boblogaeth fwyaf o Affricaniaid dinesig yng [[Gogledd America|Ngogledd America]]. Blodeuodd [[Dadeni Harlem]] yn ystod cyfnod y Gwaharddiad, ynghŷd â thŵf economaidd a welodd y ddinas yn cystadlu i adeiladu'r wybren-grafwyr uchaf. Erbyn dechrau'r 1920au, Dinas Efrog Newydd oedd yr ardal ddinesig fwyaf poblog yn y byd, gydag ardal fetropolitanaidd o dros 10 miliwn o drigolion erbyn dechrau'r [[1930au]]. Yn sgîl yr amodau byw caled a ddaeth ar ôl y [[Dirwasgiad Mawr]], etholwyd y diwygiwr [[Fiorello LaGuardia]] yn [[maer|faer]] y ddinas.
452,433

golygiad

Llywio