İznik: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B dol
B →‎Pobl enwog: canrifoedd a Delweddau, replaced: 2il ganrif CC2 CC using AWB
Llinell 6: Llinell 6:


== Pobl enwog ==
== Pobl enwog ==
*[[Hipparchus]] ([[2il ganrif CC]]), seryddwr, mathemategydd a daearyddwr
*[[Hipparchus]] ([[2 CC]]), seryddwr, mathemategydd a daearyddwr


[[Categori:Dinasoedd Twrci]]
[[Categori:Dinasoedd Twrci]]

Fersiwn yn ôl 13:40, 7 Ionawr 2017

Dinas yng ngogledd-orllewin Twrci yw İznik. Ei hen enw oedd Nicea (Groeg: Νίκαια). Mae'n enwog fel safle dau o gynghorau cynnar yr eglwys Gristnogol, Cyngor Cyntaf Nicea ac Ail Gyngor Nicea, a rhoddodd y ddinas ei henw i Gredo Nicea.

Sefydlwyd y ddinas yn 310 CC gan Antigonos I Monophthalmos. Rhwng 1204 a 1261, Nicea oedd prifddinas Ymerodraeth Nicea, a ffurfiwyd pan ymrannodd yr Ymerodraeth Fysantaidd wedi i ddinas Caergystennin gael ei chipio gan y croesgadwyr yn 1204. Yn 1261 llwyddodd Ymerodraeth Nicea i gipio Caergystennin yn ôl, ac adferwyd yr Ymerodraeth Fysantaidd.

Saif y ddinas ar ochr ddwyreniniol Llyn İznik, ac fe'i hamgylchynir gan furiau 10 m o uchder, ac mae'n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid. Mae'r boblogaeth tua 15,000.

Pobl enwog