Bwdhaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
Llinell 1: Llinell 1:
[[Image:Standing Bodhisattva Gandhara Musee Guimet.jpg|thumb|Siddhartha Gautama, Y Bwdha.]]
[[Image:Standing Bodhisattva Gandhara Musee Guimet.jpg|bawd|Siddhartha Gautama, Y Bwdha.]]


Crefydd ddi-dduw yw '''Bwdhaeth''' neu '''Fwdïaeth'''. Gellir ei hystyried hefyd yn [[athroniaeth]] gymhwysol neu'n ffurf ar [[seicoleg]]. Canolbwynt Bwdhaeth yw'r hyn a ddysgodd [[Siddhartha Gotama|Gotama Buddha]], a aned yn Kapilavastu (sydd yn [[Nepal]] erbyn hyn), ac a enwyd Siddhattha Gotama oddeutu'r 5ed ganrif cyn Crist. Lledaenodd Bwdhaeth drwy is-gyfandir India yn y pum canrif nesaf, ac i ardaloedd ehangach o [[Asia]] wedi hynny.
Crefydd ddi-dduw yw '''Bwdhaeth''' neu '''Fwdïaeth'''. Gellir ei hystyried hefyd yn [[athroniaeth]] gymhwysol neu'n ffurf ar [[seicoleg]]. Canolbwynt Bwdhaeth yw'r hyn a ddysgodd [[Siddhartha Gotama|Gotama Buddha]], a aned yn Kapilavastu (sydd yn [[Nepal]] erbyn hyn), ac a enwyd Siddhattha Gotama oddeutu'r 5ed ganrif cyn Crist. Lledaenodd Bwdhaeth drwy is-gyfandir India yn y pum canrif nesaf, ac i ardaloedd ehangach o [[Asia]] wedi hynny.

Fersiwn yn ôl 22:16, 6 Ionawr 2017

Siddhartha Gautama, Y Bwdha.

Crefydd ddi-dduw yw Bwdhaeth neu Fwdïaeth. Gellir ei hystyried hefyd yn athroniaeth gymhwysol neu'n ffurf ar seicoleg. Canolbwynt Bwdhaeth yw'r hyn a ddysgodd Gotama Buddha, a aned yn Kapilavastu (sydd yn Nepal erbyn hyn), ac a enwyd Siddhattha Gotama oddeutu'r 5ed ganrif cyn Crist. Lledaenodd Bwdhaeth drwy is-gyfandir India yn y pum canrif nesaf, ac i ardaloedd ehangach o Asia wedi hynny.

Erbyn heddiw, rhennir Bwdhaeth yn dri phrif draddodiad: Theravāda, Mahāyāna, a Vajrayāna. Mae'n parhau i ddenu dilynwyr ledled y byd, ac yn ôl [1], mae oddeutu 350 miliwn o Fwdhyddion (fodd bynnag, mae'r amcangyfrifon a geir mewn sawl wlad yn ansicr). Hyhi yw'r bumed grefydd fwyaf yn y byd yn ôl niferoedd, ar ôl Cristnogaeth, Islam, Hindŵaeth, a chrefydd traddodiadol Tsieineaidd. Mae'r urdd mynaich Sangha ymysg y sefydliadau hynaf ar y ddaear.

Athrawiaethau

Y Pedwar Gwiredd Doeth

Dysgodd y Bwdha fod dioddefaint mewn bywyd a achosir gan chwenychu, ac y gellir ei ddileu trwy ddilyn y Llwybr Wythblyg Doeth (gw. isod):

  1. Dioddefaint: Dioddefaint yw genedigaeth, dioddefaint yw heneiddio, dioddefaint yw afiechyd, dioddefaint yw marwolaeth; dioddefaint yw uno â'r hyn sy'n annymunol; dioddefaint yw gwahanu o'r hyn sy'n ddymunol; dioddefaint yw peidio â chael yr hyn a ddymunir; yn gryno, dioddefaint yw'r pump cyfansawdd sy'n wrthrych ymafael.
  2. Tarddiad dioddefaint: Y chwenychu sy'n arwain at ailenedigaeth, a'r ymgais i osgoi yr hyn a welir yn annymunol.
  3. Darfod dioddefaint: Darfod chwenychu.
  4. Y ffordd sy'n arwain at ddarfod dioddefaint: Y Llwybr Wythblyg Doeth;

Nirfana

Nirfana yw diffodd pob chwenychiad, rhithdyb, ac anwybodaeth.

Y Llwybr Wythblyg Doeth

  1. Safbwynt Cyfiawn - Sylweddoli'r Pedwar Gwiredd Doeth
  2. Gwerthoedd Cyfiawn - Ymrwymiad i dyfiant meddyliol a moesol mewn cymedroldeb
  3. Iaith Gyfiawn - Siarad mewn modd di-drais, gan ddweud y gwir, a heb or-ddweud
  4. Gweithredoedd Cyfiawn - Gweithredu holliach, gan osgoi gweithredoedd a fyddai'n gwneud niwed.
  5. Bywoliaeth Gyfiawn - Gwneud swydd nad yw'n diweddu eich hun neu eraill mewn unrhyw ffordd, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.
  6. Ymdrech Cyfiawn - Gwneud ymdrech i wella
  7. Gwybodus Rwydd Cyfiawn - Y gallu meddyliol i weld pethau fel y maent, gydag ymwybod clir.
  8. Myfyrio Cyfiawn

Cyfeiriadau