Y plygain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
hi hiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiii[[Delwedd:Blant Adda Mbaratowch.webmsd 04.webm|de|bawd|300px|Blant Adda 'Mbaratowch]]
hi hiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiii bbbyyyrfvgffgggv[[Delwedd:Blant Adda Mbaratowch.webmsd 04.webm|de|bawd|300px|Blant Adda 'Mbaratowch]]
[[Delwedd:Ar Fore Dydd Nadolig 2015.webmsd 07.webm|de|bawd|300px|Ar Fore Dydd Nadolig]]
[[Delwedd:Ar Fore Dydd Nadolig 2015.webmsd 07.webm|de|bawd|300px|Ar Fore Dydd Nadolig]]
[[Delwedd:Pa Beth yw'r Golau.webmsd 01.webm|de|bawd|300px|Pa Beth yw'r Golau]]
[[Delwedd:Pa Beth yw'r Golau.webmsd 01.webm|de|bawd|300px|Pa Beth yw'r Golau]]

Fersiwn yn ôl 10:48, 6 Ionawr 2017

hi hiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiii bbbyyyrfvgffgggv

Blant Adda 'Mbaratowch
Ar Fore Dydd Nadolig
Pa Beth yw'r Golau

Gwasanaeth Nadolig traddodiadol wedi'i gynnal yn fore ydy'r plygain. Daw unigolion, deuawdau, grwpiau a theuluoedd ymlaen i du blaen yr eglwys i ganu carolau'r plygain. Rhwng tri a chwech y bore y cynhaliwyd y gwasanaeth fel arfer, er bod yr amseroedd, bellach, yn amrywio'n fawr. Yn draddodiadol, roedd canhwyllau'n rhan bwysig, gyda gorymdaith yn aml o ganol y pentref i'r eglwys.[1] Mae'n dyddio nôl i'r adeg cyn y diwygiad Protestanaidd yn y 16g gydag elfennau llawer hŷn na hynny.

Cred rhai y daw'r gair 'plygain' o'r gair Lladin pullicantiō[2], sef 'ar ganiad y ceiliog'; cred eraill mai o'r gair 'plygu' y daw. Fe'i ceir hefyd yn y Llydaweg fel pellgent. Mae sawl amrywiad ar y gair: pylgen, pilgen, plygan, plygen a.y.y.b. Ceir enghraifft o'r gair mewn llawysgrifau Cymraeg mor gynnar a'r 13eg ganrif ('pader na pilgeint na gosber'); y gair Llydaweg am Sion Corn ydy Tad-kozh ar pellgent ("Tad-cu y plygain").

Mewn rhai mannau, arferai'r bobl wneud cyflaith i ddisgwyl yr amser cychwyn. Gwyddys i hyn ddigwydd ym Marford, Sir y Fflint er enghraifft. Roedd yr oriau hyn cyn y plygain, ac felly'n rhai cymdeithasol iawn. Ceir cofnod mai gwneud cyflaith a threulio'r noson yn addurno'r tai â chelyn ac uchelwydd oedd y traddodiad ym Marford, Sir Fflint, yn y 1830au. Ac yn nyddiadur Mrs. Thrale o daith yn 1774 cynheuai pobl Dyffryn Clwyd eu goleuadau am ddau y bore, a chanu a dawnsio i'r delyn tan y plygain.

Canhwyllau

Hyd at y 19eg ganrif, anaml iawn y cynhelid gwasanaethau eglwys yn y nos, gan nad oedd hi'n hawdd goleo'r eglwys; ond roedd y plygain yn eithriad. Er mwyn cael golau, arferai'r trigolion gario eu cannwyll neu lamp i'r eglwys. Daeth hyn yn rhan bwysig o'r ŵyl; yn Nolgellau, er enghraifft, gwisgwyd y canhwyllau â chelyn ac yn Llanfyllin cynheuwyd cannoed o ganhwyllau wedi'u gosod fodfeddi ar wahân. Arferid addurno'r canhwyllau hyn, ac yn Llanfyllin, goleuwyd yr adeilad gan gannoedd o ganhwyllau, wedi eu lleoli fodfeddi ar wahân. Ym Maentwrog, Sir Feirionnydd, yr oedd canhwyllau hefyd "wedi eu gosod mewn tyllau ymhen polion neu byst ysgafn a sicrheid wrth gôr yma ac acw yn yr adeilad." [3]

Yn Llanfair Dyffryn Clwyd ger Rhuthun yn 1774, gwyddys i'r trigolion lleol gynnau cynhwyllau, dawnsio a chanu wrth gerdded i'r plygain. Cafwyd gorymdeithiau i'r eglwys o ganol y dref neu'r pentref, hefyd, yn Ninbych-y-pysgod, Talacharn a Llanfyllin. Cynheuwyd ffaglau a hebryngwyd y rheithor lleol ar flaen yr orymdaith yn aml a'r llanciau'n chwythu cyrn.

Dywed J. Lloyd Williams (1854‑1945) am blygain Eglwys Sant Doged yn Llanddoged ger Llanrwst: "Er bod y clochydd yn gofalu am ganhwyllau, byddai rhai o’r cantorion yn mynd â’u canhwyllau eu hunain i’r gwasanaethau, er mwyn cael digon o olau i weld y copïau ysgrifen y canent oddi arnynt; ac i ddal y canhwyllau gofelid am fynd â digon o glai yn lle canwyllbrennau."[4]

Yn ôl Gwynfryn Richards, gellir canfod yn yr arferion hyn o oleuo canhwyllau ar y Nadolig y symbol o ddyfodiad 'Goleuni'r Byd'.

Y Gwasanaeth ei hun

Eglwys Llanfihangel yng Ngwynfa

Dyma ddisgrifiad William Payne o blygain Dolgellau tuag 1850[5]

Yn awr y mae'r eglwys yn wenfflam; yn awr o dan ei sang, gorff, ystlysau, oriel; yn awr wele Siôn Robert, y crydd troed-gam, a'i wraig, gan ddod i lawr o'r sedd ganu i ran isaf a blaenaf yr oriel, yn taro bob yn ail y garol hirfaith a'r hen ffefryn yn disgrifio Addoliad y Brenhinoedd a'r Doethion, a'r Ffoad i'r Aifft, ac anfadrwydd ofnadwy Herod. Hollol ddistaw yw'r tyrfaoedd ac wedi ymgolli mewn edmygedd.... A'r gweddiau trosodd, cychwynna'r cantorion eto ragor o garolau, cantorion newydd, hen garolau mewn unawdau, deuawdau, triawdau, cytganau, yna distawrwydd yn y gynulleidfa, wedi ei dorri ar seibiau priodol gan rwystrus furmur yr hyfrydwch a'r gymeradwyaeth, nes rhwng wyth a naw, a newyn yn dweud ar y cantorion, y mae'r Plygain drosodd a thery'r Clych ganiad llawn.

Ym Maentwrog roedd hi'n arferiad i'r rheithor bregethu am gyfnod byr ac yn Llanfair Dyffryn Clwyd, roedd y Cymun Bendigaid yn cael ei weinyddu.

Ychydig iawn o siarad sydd mewn gwasanaeth y plygain, sy'n para oddeutu dwyawr. Fel arfer ceir oddeutu deudded o bartion yn cymryd eu tro i godi o'r gynulledifa a cherdded i'r sedd fawr, heb fod neb yn eu galw ymlaen, heb gyflwyniad o gwbl i'r caneuon - ac yn debyg yn hyn o beth i wasanaeth y Crynnwyr. Wedi ysbaid yn y canol, lle gwneir y casgliad mewn rhai llefydd, ceir ail ran, a deai'r partion ymlaen yn yr un drefn i ganu eu hail ddewis a phob cân yn wahanol, gan ei bod yn egwyddor osgoi ailganu unrhyw garol, a'r cwbl yn Gymraeg.

Ar ôl y rownd olaf bydd pawb sydd wedi cymryd rhan yn y gwasanaeth yn dod i flaen yr eglwys i ganu Carol y Swper.

Caneuon y plygain

Fel arfer mae'r caneuon Plygain mewn cynghanedd o dri neu bedwar llais, er bod unawdau a deuawdau wedi bodoli erioed. Yn wreiddiol partion o ddynion yn unig oedd yn cymryd rhan ac roedd y cantorion yn dod o'r un teulu. Roedd aelod o'r teulu'n ysgrifennu’r geiriau mewn llyfr ymarfer a ddefnyddiwyd hefyd yn y gwasanaeth gan fod cymaint o benillion. Yn aml roedd yr alwad yn cael ei benthyg oddi wrth gân gwerin boblogaidd. Fel arfer crybwyllir croeshoelio Crist yn y garol blygain. Ymhlith y beirdd enwog am ysgrifennu llawer o garolau plygain mae Huw Morus (Eos Ceiriog), Jonathan Huws a Walter Davies (Gwallter Mechain).[6] Mae brawddegu'n bwysig ac yn aml mae'r cantorion yn dal ar rai geiriau pwysig. Cenir y caneuon i gyd yn ddigyfeiliant.

Enghraifft; Daeth Nadolig (ar hen alaw werin Deio Bach)
Daeth Nadolig fel Arferol
Daeth Nadolig fel arferol,
Daeth fel yn y dyddiau gynt,
Gyda’i eira, gyda’i oerni,
Gyda’i rew a’i ruol wynt.
Yn lle dail i drwsio’r goedwig,
Gwisgr hi â hugan gwyn,
Ac mae miwsig pob aderyn
Wedi darfod yn y glyn.


Daeth Nadolig fel arferol,
Mewn tawelwch mae y byd,
Wrth i ninau gofio’r stori
Am y baban yn ei grud,
Cofio am y seren ddisglair,
Cofio am y preseb tlawd,
Cofio’r engyl yn cyhoeddi
Geni Duw mewn gwisg o gnawd.


Daeth Nadolig fel arferol
Ac mae miswig ym mhob man,
Miwsig rhai yn mynd i Blygain,
Miwsig peraidd glychau’r llan,
Rhaid i ninnau gyda’r doethion
A’r bugeiliaid i gael trem
Ar yr hwn sydd wedi’i eni
Draw ym mhreseb Bethlehem.


Gorfoleddwn a moliannwn,
Ganwyd Ceidwad mawr y byd,
Cyfaill pechaduriad mawrion
Ydyw Iesu Grist o hyd,
Brenin heddwch ydyw’r Iesu
A thangnefedd ar ei wedd,
Dyma frenin y brenhinoedd
Ddysgodd inni gladdu’r cledd.

Canu plygain heddiw

Roedd y traddodiad o ganu carolau yn gryf trwy bob rhan o Ogledd a Chanolbarth Cymru ganrif yn ôl. Heddiw, fodd bynnag, mae'r traddodiad ar ei gryfaf yn ardaloedd Mallwyd, Llanerfyl, Cefnyblodwel a Llangynog.

Yn 2015/6 cafwyd 47 o wasanaethau plygain traddodiadol yn y mannau hyn:

Gofal; ychwanegir y dyddiadau heb eu gwiro, er mwyn rhoi syniad o ddyddiadau'r Plygain.
Lleoliad Noswaith Dyddiad Amser
Bowydd, Bl Ffestiniog Sul 27/11/16 19.00
Llanafan, Ceredigion Sul 27/11/16 18.00
Dolgellau
(Tabernacl) (Annibynwyr Meirionydd) Iau 1/12/16 19.30
Llansilin Gwener 2/12/16 19.30
Hirnant Sul 4/12/16 4.30
Llanfyllin Sul 4/12/16 19.00
Llanbedr PS Llun 5/12/16 19.00
Penygraig, Caerfyrddin Sul 11/12/16 18.30
Trallwm Mawrth 13/12/2016 19.00
Penrhyn-coch Iau 15/12/16 19.00 (sylwer ar yr amser)
Llanidloes (China St) Gwener 16/12/16 19.00
Pen-y-bont Fawr Gwener 16/12/16
Briw Sul 18/12/16 18.30
Nanternis Sul 18/12/16 19.30
Penuel, Llangynyw (Neuadd Pontrobert) Sul 18/12/16 18.30
Parc Mawrth 20/12/16 19.00
Llandysul, Eglwys St Tysul Mercher 21/12/16 19.00
Morlan, Aberystwyth Mercher 21/12/16 19.30
Llanfair Dyffryn Clwyd Iau 22/12/16 19.00
Yr Hen Gapel, Pontrobert Dydd Nadolig - Sul 25/12/16 6.00
Llanllyfni Dydd Nadolig – Sul 25/12/16 7.00
Lloc Dydd Nadolig – Sul 25/12/16 6.00
Nercwys Dydd Nadolig – Sul 25/12/16 7.00
Nantgaredig (M.C.) Sul 28/12/16 19.00
Cefnblodwel Mawrth 27/12/16 19.00
Llanarmon DC Mercher 28/12/16 19.00
Llandeilo’r Fan Sul 1.1.17 16.00
Llanerfyl Sul 1/1/17 19.00
Llanrhaeadr ym Mochnant Sul 1/1/17 19.00
Pennant Melangell Mawrth? 3/1/17 ??
Abergynolwyn Iau 5/1/17 19.00
Dinas Mawddwyx
(Ebeneser) Gwener 6/1/17 19.00
Ceri Sadwrn 7/1/17 19.00
Llanddarog (St Twrog) Sul 8/1/17 17.00
Llanfihangel-yng-ngwynfa Sul 8/1/17 18.30
Bethesda, Yr Wyddgrug Sul 8/1/17 19.00
Jewin, Llundain Sul 8/1/17 18.00
Blaenannerch Sul 8/1/17 19.00
Gwaelodygarth Sul 8/1/17 16.30
Darowen Llun 9/1/17 19.00
Mallwyd Gwener 13/1/17 19.00
Eglwys Trawsfynydd Gwener 13/1/17 7.00
Llanuwchllyn Sul 15/1/17 19.00
Llanwnda, Caernarfon Sul 15/1/17 ??
Llanfair, ger Harlech Mercher 18/1/17 19.00
Llanrwst (St Crwst) Iau 19/1/17 19.00
Cadeirlan Bangor Gwener 20/1/17 ??
Llanelwy Gwener 27/1/17 19.15
Llandeilo Sul 29/1/17 18.00

Casgliadau o ganeuon

  • Welsh Folk Customs, Trefor M. Owen; 1959, tud. 28-33
  • Hen Garolau Cymru, Arfon Gwilym a Sioned Webb (Gol.); Cwmni Cyhoeddi Gwyn, 2006
  • Cadw Gŵyl: Llawlyfr i’r Traddodiad Plygain, Bwrdd Cenhadau’r Eglwys yng Nghymru, 2000; Enid R Morgan (Gol.)
  • Hen Garolau Cymru, Arfon Gwilym a Sioned Webb (Gol.); Cwmni Cyhoeddi Gwyn, 2006
  • Yn Dyrfa Weddus: Carolau Ar Gyfer Y Plygain, Rhiannon Ifans (Gol.); Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2003
  • Hen Garolau, Geraint Vaughan-Jones (Gol.), Y Lolfa, 1987
  • Mwy o Garolau Plygain, Geraint Vaughan-Jones (Gol.), Y Lolfa, 1992


Dolenni allanol

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Amgueddfa Cymru; adalwyd 30 Tachwedd 2015
  2. http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?plygain
  3. Gwefan Amgueddfa Cymru; adalwyd 30 Tachwedd 2015
  4. [Atgofion Tri Chwarter Canrif, o'r detholiad, Y Flwyddyn yng Nghymru, Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1943. J. Lloyd Williams (1854‑1945)
  5. gwefan Sain Ffagan
  6. Caneuon Gwerin; adalwyd 30 Tachwedd 2015