Lascaux: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Lascaux2.jpg|thumb|240px|Llyn ceffyl yn Lascaux]]
[[Delwedd:Lascaux2.jpg|bawd|240px|Llyn ceffyl yn Lascaux]]


Cyfres gymhleth o ogofâu yn ne-orllewin [[Ffrainc]] yw '''Lascaux'''. Maent yn fyd-enwog am yr arlunwaith cynhanesyddol ar eu muriau, sy'n dyddio o tua 16,000 mil o flynyddoedd yn ôl yn [[Hen Oes y Cerrig]].
Cyfres gymhleth o ogofâu yn ne-orllewin [[Ffrainc]] yw '''Lascaux'''. Maent yn fyd-enwog am yr arlunwaith cynhanesyddol ar eu muriau, sy'n dyddio o tua 16,000 mil o flynyddoedd yn ôl yn [[Hen Oes y Cerrig]].

Fersiwn yn ôl 19:37, 4 Ionawr 2017

Llyn ceffyl yn Lascaux

Cyfres gymhleth o ogofâu yn ne-orllewin Ffrainc yw Lascaux. Maent yn fyd-enwog am yr arlunwaith cynhanesyddol ar eu muriau, sy'n dyddio o tua 16,000 mil o flynyddoedd yn ôl yn Hen Oes y Cerrig.

Saif yr ogofâu yn nyffryn afon Vézère ger pentref Montignac, yn département Dordogne. Cafwyd hyd iddynt ar 12 Medi 1940 gan bedwar bachgen, Marcel Ravidat, Jacques Marsal, Georges Agnel, a Simon Coencas, gyda chymorth ci Ravidat, Robot. Mae'r lluniau gan mwyaf o anifeiliaid.

Agorwyd yr ogofâu i'r cyhoedd, ond erbyn 1955, roedd y carbon deuocsid a gynhyrchid gan 1,200 o ymwelwyr y dydd yn amlwg yn niweidio'r lluniau. Caewyd yr ogofâu yn 1963 i'w gwarchod. Yn 1983, agorwyd Lascaux II, atgynhyrchiad o ran o'r ogofâu, 200 medr o'r safle ei hun. Dynodwyd Lascaux yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1979.

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.