Francisco Goya: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Cyswllt erthygl ddethol|an}} (2) using AWB
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
Llinell 12: Llinell 12:
| align="center" colspan="2"|
| align="center" colspan="2"|
{| border=0 cellpadding=2 cellspacing=0 style="background:#f9f9f9; text-align:left;"
{| border=0 cellpadding=2 cellspacing=0 style="background:#f9f9f9; text-align:left;"
| [[Delwedd:Goya Maja naga2.jpg|thumb|250px|right|[[La Maja Desnuda]], ca. 1800.]]
| [[Delwedd:Goya Maja naga2.jpg|bawd|250px|dde|[[La Maja Desnuda]], ca. 1800.]]
|-
|-
| [[Delwedd:Goya Maja ubrana2.jpg|thumb|250px|right|''[[La Maja Vestida]]'', ca. 1803.]]
| [[Delwedd:Goya Maja ubrana2.jpg|bawd|250px|dde|''[[La Maja Vestida]]'', ca. 1803.]]
|}
|}
|}
|}


[[Delwedd:Goya.colossus.jpg|chwith|thumb|225px|''Y Colossus'', 1810.]]
[[Delwedd:Goya.colossus.jpg|chwith|bawd|225px|''Y Colossus'', 1810.]]


{{Rheoli awdurdod}}
{{Rheoli awdurdod}}

Fersiwn yn ôl 10:10, 4 Ionawr 2017

Hunanbortread gan Goya

Arlunydd o Sbaen oedd Francisco José de Goya y Lucientes (30 Mawrth, 174616 Ebrill, 1828). Ystyrir ef fel yr olaf o'r Hen Feistri, ond hefyd yn ffigwr allweddol yn natblygiad arlunwaith fodern, gan ddylanwadu ar arlunwyr fel Manet a Picasso.

Ganed Goya yn Fuendetodos, Sbaen, yn Nheyrnas Aragón yn 1746. Symudodd y teulu i Zaragoza yn ddiweddarach, ac addysgwyd ef yno. Daeth yn brentis i'r arlunydd José Luján pan oedd yn 14 oed. Yn ddiweddarach, symudodd i ddinas Madrid lle astudiodd dan Anton Raphael Mengs, ond ffraeodd ag ef a methodd gael mynediad i'r Academi Frenhinol.

Teithiodd i Rufain ac yna dychwelodd i Zaragoza. Astudiodd dan Francisco Bayeu y Subías, a phriododd Josefa, chwaer Bayeu, yn 1774. Dechreuodd ennill sylw fel arlunydd ac ennill comisiynau. Erbyn y 1790au roedd yn ffefryn y teulu brenhinol, ond wedi iddo ddioddef twymyn yn 1792, aeth yn fyddar. Treuliodd bum mlynedd yn adfer ei iechyd, gan ddarllen llawer am y Chwyldro Ffrengig. Cyhoeddodd gasgliad o luniau dan y teitl Caprichos yn 1799.

Pan feddiannwyd Sbaen gan Ffrainc gan ddechrau rhyfel 1808–1814, dechreuodd Goya weithio ar gyfres o brintiau Trychinebau rhyfel (Los desastres de la guerra). Bu farw Josefa yn 1812. Symudodd i Bordeaux a Paris yn 1824, gan ddychwelyd i Sbaen yn 1826 ac yna mynd i Bordeaux eto, lle bu farw yn 1828 yn 82 oed.

La Maja Desnuda, ca. 1800.
La Maja Vestida, ca. 1803.
Y Colossus, 1810.