Pennog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: bawd|200px|Pennog Pysgod bychain olewog ydy '''Penwaig''' (Saesneg: ''Herring'') sydd yn ran o rywogaeth '''''Clupea''''' sydd i'...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 12:28, 18 Hydref 2007

Pennog

Pysgod bychain olewog ydy Penwaig (Saesneg: Herring) sydd yn ran o rywogaeth Clupea sydd i'w canfod yn nŵr bas tymherol Cefnfor Gogledd yr Iwerydd, a'r Môr Baltig, gogledd y Môr Tawel, a Môr y Canoldir. Mae 15 math o benwaig, y mwyaf cyffredin yw Pennog yr Iwerydd (Clupea harengus). Mae penwaig yn symyd ogwmpas mewn heigiau enfawr, ac yn symyd i lannau Ewrop ac America yn y gwanwyn lle delir hwy a'u halltu a'u cochi mewn niferoedd mawr. Gall "sardînau" a welir mewn caniau mewn archfarchnadau yn aml fod yn Corbennog (sprat) neu'n Bennog Mair mewn gwirionedd.


 Mae'r erthygl hon yn Eginyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ei datblygu.