Mari I, brenhines Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 17eg ganrif17g using AWB
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Maria Tudor1.jpg|bawd| Y Frenhines Mari Tudur]]
[[Delwedd:Maria Tudor1.jpg|bawd| Y Frenhines Mari Tudur]]
Bu '''Mari I''' (neu '''Mari Tudur''') ([[18 Chwefror]] [[1516]] – [[17 Tachwedd]] [[1558]]) yn Frenhines [[Lloegr]] ac [[Iwerddon]] o [[19 Gorffennaf]] [[1553]] hyd at ei marwolaeth ym [[1558]].<ref>Weir, t. 160)</ref><ref>Waller, t. 16; Whitelock, t. 9</ref> Hi oedd unig ferch [[Harri VIII, brenin Lloegr]], a'i wraig gyntaf [[Catrin o Aragon]] i fod yn oedolyn. Yn yr [[17eg ganrif]] bathwyd yr enw '''Mari Waedlyd''' i'w disgrifio, gan iddi ganiatáu lladd cannoedd o [[Protestaniaeth|Brotestaniaid]].<ref>Waller, t. 115</ref>
Bu '''Mari I''' (neu '''Mari Tudur''') ([[18 Chwefror]] [[1516]] – [[17 Tachwedd]] [[1558]]) yn Frenhines [[Lloegr]] ac [[Iwerddon]] o [[19 Gorffennaf]] [[1553]] hyd at ei marwolaeth ym [[1558]].<ref>Weir, t. 160)</ref><ref>Waller, t. 16; Whitelock, t. 9</ref> Hi oedd unig ferch [[Harri VIII, brenin Lloegr]], a'i wraig gyntaf [[Catrin o Aragon]] i fod yn oedolyn. Yn yr [[17g]] bathwyd yr enw '''Mari Waedlyd''' i'w disgrifio, gan iddi ganiatáu lladd cannoedd o [[Protestaniaeth|Brotestaniaid]].<ref>Waller, t. 115</ref>


Ei hanner brawd, Edward VI, [[Edward VI, brenin Lloegr|Edward VI]] (mab Henry VIII a [[Jane Seymour]]) olynydd Harri, a hynny yn 1647. Pan y deallodd na fyddai'n byw yn hir, oherwydd afiechyd, ceisiodd sicrhau na fyddai Mari yn ei olynu ar yr orsedd; gwnaeth hyn oherwydd fod ganddynt grefydd gwahanol, ac felly, gor-gyfnither, [[yr Arglwyddes Jane Grey]] a orseddwyd. Casglodd Mari fyddin yn [[Dwyrain Anglia|Nwyrain Anglia]] a llwyddodd i ddiorseddu Jane Grey, a thorrwyd ei phen. Yn 1553 coronwyd Mari'n frenhines.
Ei hanner brawd, Edward VI, [[Edward VI, brenin Lloegr|Edward VI]] (mab Henry VIII a [[Jane Seymour]]) olynydd Harri, a hynny yn 1647. Pan y deallodd na fyddai'n byw yn hir, oherwydd afiechyd, ceisiodd sicrhau na fyddai Mari yn ei olynu ar yr orsedd; gwnaeth hyn oherwydd fod ganddynt grefydd gwahanol, ac felly, gor-gyfnither, [[yr Arglwyddes Jane Grey]] a orseddwyd. Casglodd Mari fyddin yn [[Dwyrain Anglia|Nwyrain Anglia]] a llwyddodd i ddiorseddu Jane Grey, a thorrwyd ei phen. Yn 1553 coronwyd Mari'n frenhines.

Fersiwn yn ôl 03:56, 4 Ionawr 2017

Y Frenhines Mari Tudur

Bu Mari I (neu Mari Tudur) (18 Chwefror 151617 Tachwedd 1558) yn Frenhines Lloegr ac Iwerddon o 19 Gorffennaf 1553 hyd at ei marwolaeth ym 1558.[1][2] Hi oedd unig ferch Harri VIII, brenin Lloegr, a'i wraig gyntaf Catrin o Aragon i fod yn oedolyn. Yn yr 17g bathwyd yr enw Mari Waedlyd i'w disgrifio, gan iddi ganiatáu lladd cannoedd o Brotestaniaid.[3]

Ei hanner brawd, Edward VI, Edward VI (mab Henry VIII a Jane Seymour) olynydd Harri, a hynny yn 1647. Pan y deallodd na fyddai'n byw yn hir, oherwydd afiechyd, ceisiodd sicrhau na fyddai Mari yn ei olynu ar yr orsedd; gwnaeth hyn oherwydd fod ganddynt grefydd gwahanol, ac felly, gor-gyfnither, yr Arglwyddes Jane Grey a orseddwyd. Casglodd Mari fyddin yn Nwyrain Anglia a llwyddodd i ddiorseddu Jane Grey, a thorrwyd ei phen. Yn 1553 coronwyd Mari'n frenhines.

Ar ôl ennill y goron yn 1553 ailsefydlodd Mari Catholigiaeth Rufeinig yng Nghymru, Lloegr ac Iwerddon. Yn sgil ei phenderfyniad, gorfodwyd i lawer o Brotestaniaid encilio i'r Cyfandir, gan gynnwys nifer o Gymry blaenllaw megis yr esgob Richard Davies (1501 – 7 Tachwedd 1581). Llosgwyd bron tri chant o ferthyron Protestannaidd yn ystod ei theyrnasiad, gan gynnwys tri yng Nghymru: Rawlins White yng Nghaerdydd, Robert Ferrar yng Nghaerfyrddin a William Nichol yn Hwlffordd.

Priododd Mari Felipe II, brenin Sbaen, ar y 25 Gorffennaf 1554 ond roedd yn briodas amhoblogaidd iawn yn Lloegr. Pan ddaeth e'n frenin Sbaen yn 1556 gwnaed hi'n frenhines gydweddog Habsburg Sbaen.

Ar ôl marwolaeth sydyn Mari ym 1558, ailgyflwynodd ei hanner chwaer Elisabeth y grefydd Brotestannaidd yng Nghymru, Lloegr ac Iwerddon.

Llwydlo a Chymru

Yn 1525 danfonwyd hi i'r Gororau i fyw, er mwyn iddi dderbyn addysg drwy drefniant Cyngor Cymru a'r Gororau.[4] Roedd ganddi lys ei hun o fewn muriau Castell Llwydlo a galwyd hi'n answyddogol yn 'Dywysoges Cymru' gan rai er nad oedd, mewn gwirionedd.[5] Bu yno am dair blynedd.[6]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Weir, t. 160)
  2. Waller, t. 16; Whitelock, t. 9
  3. Waller, t. 115
  4. Porter, tt. 38–39; Whitelock, tt. 32–33
  5. Waller, p. 23
  6. Loades, pp. 41–42, 45
Davies, John. Hanes Cymru (Llundain: Penguin, 1990)
Rhagflaenydd:
Edward VI
Brenhines Lloegr
19 Gorffennaf 155317 Tachwedd 1558
Olynydd:
Elisabeth I