Y Stafell Ddirgel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 17eg ganrif17g using AWB
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Y Stafell Ddirgel.jpg|bawd|dde|Clawr ''Y Stafell Ddirgel'', Gwasg Gomer]]
[[Delwedd:Y Stafell Ddirgel.jpg|bawd|dde|Clawr ''Y Stafell Ddirgel'', Gwasg Gomer]]
[[Nofel]] hanesyddol gan [[Marion Eames]] yw '''Y Stafell Ddirgel'''. Mae'r nofel wedi'i lleoli yn rhannol yn ardal [[Dolgellau]] yn yr [[17eg ganrif]]. Fe'i cyhoeddwyd yn wreiddiol yn [[1969]].
[[Nofel]] hanesyddol gan [[Marion Eames]] yw '''Y Stafell Ddirgel'''. Mae'r nofel wedi'i lleoli yn rhannol yn ardal [[Dolgellau]] yn yr [[17g]]. Fe'i cyhoeddwyd yn wreiddiol yn [[1969]].

Mae'r nofel yn ymdrin â'r erlid a fu ar y [[Crynwyr]] yn dilyn dyfodiad [[Siarl II, brenin Lloegr a'r Alban|Siarl II]] ar orsedd Lloegr. Mae'r nofel yn dechrau ym [[1672]], deuddeng mlynedd wedi'r [[Yr Adferiad|Adferiad]]. Dilyniant i'r ''Y Stafell Ddirgel'' yw ''[[Y Rhandir Mwyn]]''. Yn y nofel honno disgrifir helyntion y Cymry ar ôl iddynt ymfudo i [[Pennsylvania]] yn America gan obeithio osgoi'r erlid a fu arnynt yng Nghymru.

Fersiwn yn ôl 20:58, 3 Ionawr 2017

Clawr Y Stafell Ddirgel, Gwasg Gomer

Nofel hanesyddol gan Marion Eames yw Y Stafell Ddirgel. Mae'r nofel wedi'i lleoli yn rhannol yn ardal Dolgellau yn yr 17g. Fe'i cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1969.

Mae'r nofel yn ymdrin â'r erlid a fu ar y Crynwyr yn dilyn dyfodiad Siarl II ar orsedd Lloegr. Mae'r nofel yn dechrau ym 1672, deuddeng mlynedd wedi'r Adferiad. Dilyniant i'r Y Stafell Ddirgel yw Y Rhandir Mwyn. Yn y nofel honno disgrifir helyntion y Cymry ar ôl iddynt ymfudo i Pennsylvania yn America gan obeithio osgoi'r erlid a fu arnynt yng Nghymru.

Daw Rowland Ellis, prif gymeriad y nofel, yn Grynwr o ganlyniad i ddylanwad cymydog ond nid yw ei wraig o'r un farn ag ef. Yn dilyn ei marwolaeth hi, mae'n ailbriodi ei gyfnither, sy'n cydymdeimlo ag achos y Crynwyr. Fe'u bradychir i'r awdurdodau gan un o gyn-weision ei fferm a theflir Ellis a'i gyd-grynwyr i'r carchar a'u dedfrydu i farwolaeth. Fe'u rhyddheir ar ôl ymyrraeth uniongyrchol y brenin, a phenderfynant ymfudo i America am fywyd gwell.

Prif Gymeriadau

  • Rowland Ellis
    • Roedd Rowland Ellis yn gymeriad hanesyddol o Fryn Mawr, Dolgellau a oedd wedi cael addysg dda ac a ddaeth yn un o arweinwyr y Crynwyr
  • Hywel Vaughan
  • Marged Owen
  • Ellis Puw
  • Meg Ellis
  • Huw Morris
  • Malan
  • Lisa
  • Sinai Roberts
  • Dorcas
  • Jane Owen
  • Hywel Vaughan
  • Jeremy Mellor
  • Gwallter