Ffrisiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
hanes
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: [[File: → [[Delwedd: (2) using AWB
Llinell 2: Llinell 2:
|enw=Ffrisiaid
|enw=Ffrisiaid
|enw_brodorol=Friezen
|enw_brodorol=Friezen
|delwedd=<div style="white-space:nowrap;"><!--If you swap out an image, change the "x##px" entry for EACH image in the row so that the width of the row lines up with the others-->[[Image:Doutzencrop.jpg|x109px]][[Image:Grutte Pier (Pier Gerlofs Donia), 1622, book illustration.JPG|x109px]][[File:Jacob Cornelisz van Amsterdam.jpg|x109px]]<br>[[File:Meno simonis.jpg|x100px]][[Image:T-mommsen-2.jpg|x100px]][[Image:Mata Hari 2.jpg|x100px]]
|delwedd=<div style="white-space:nowrap;"><!--If you swap out an image, change the "x##px" entry for EACH image in the row so that the width of the row lines up with the others-->[[Image:Doutzencrop.jpg|x109px]][[Image:Grutte Pier (Pier Gerlofs Donia), 1622, book illustration.JPG|x109px]][[Delwedd:Jacob Cornelisz van Amsterdam.jpg|x109px]]<br>[[Delwedd:Meno simonis.jpg|x100px]][[Image:T-mommsen-2.jpg|x100px]][[Image:Mata Hari 2.jpg|x100px]]
|pennawd= <small>[[Doutzen Kroes]] • [[Pier Gerlofs Donia]] • [[Edzard I, Cownt Dwyrain Ffrisia|Edzard Fawr]]<br>[[Menno Simons]] • [[Theodor Mommsen]] • [[Mata Hari]] </small>
|pennawd= <small>[[Doutzen Kroes]] • [[Pier Gerlofs Donia]] • [[Edzard I, Cownt Dwyrain Ffrisia|Edzard Fawr]]<br>[[Menno Simons]] • [[Theodor Mommsen]] • [[Mata Hari]] </small>
|poblogaeth=2.3&nbsp;miliwn<ref name=A90>Bodlore-Penlaez, Mikael. ''Atlas of Stateless Nations in Europe'' (Talybont, Y Lolfa, 2011), t. 90.</ref>
|poblogaeth=2.3&nbsp;miliwn<ref name=A90>Bodlore-Penlaez, Mikael. ''Atlas of Stateless Nations in Europe'' (Talybont, Y Lolfa, 2011), t. 90.</ref>

Fersiwn yn ôl 16:41, 3 Ionawr 2017

Ffrisiaid
Friezen
Cyfanswm poblogaeth
2.3 miliwn[1]
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol
Ffrisia:
Ieithoedd
Ffriseg (Ffriseg Orllewinol, Ffriseg Ogleddol, Ffriseg Ddwyreiniol), Isel Sacsoneg, Almaeneg, Iseldireg, Daneg[1]
Crefydd
Protestaniaeth[1]
Grwpiau ethnig perthynol
Saeson, Iseldirwyr, Almaenwyr[3]

Pobl Germanaidd sy'n byw yn ardal hanesyddol Ffrisia ac sy'n siarad Ffriseg yw'r Ffrisiaid. Heddiw, lleolir Ffrisia yng ngogledd ddwyrain yr Iseldiroedd a gogledd orllewin yr Almaen ar lannau Geneufor yr Almaen.

Gellir ystyried "De âlde Friezen" yn anthem genedlaethol y Ffrisiaid.

Hanes

Roedd y Ffrisiaid cyntaf yn byw ar hyd yr arfordir isel ger Môr y Gogledd rhwng aber yr Afon Rhein yn yr Iseldiroedd a'r Afon Ems yn yr Almaen, ac yn Ynysoedd Ffrisia ger arfordiroedd yr Almaen a Denmarc. Ceir y cofnod cynharaf ohonynt yn y ganrif gyntaf. Roeddent yn bobl forwrol, môr-ladron a masnachwyr, ac yn cadw gwartheg. Adeiladodd aneddiadau ar dwmpathau gwneud (Hen Ffriseg: terp; lluosog: terpen) i warchod rhag llifogydd. O'r 7fed ganrif hyd y 10fed ganrif, chwaraeodd y Ffrisiaid rhan flaenllaw mewn masnach rhwng y Rheindir a gwledydd Môr y Gogledd a'r Môr Baltig.[4]

Gorchfygwyd y Ffrisiaid gan y Ffranciaid yn 734 a chafodd eu troi'n Gatholigion. Roedd Ffrisia yn rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig yn yr Oesoedd Canol ond yn meddu ar rywfaint o ymreolaeth. Yn yr 16eg ganrif ymunodd y Ffrisiaid Gorllewinol â'r Iseldirwyr yn y Gwrthryfel Iseldiraidd yn erbyn Habsbwrgiaid Sbaen, a daethant yn rhan o Weriniaeth yr Iseldiroedd (neu Daleithiau Unedig yr Iseldiroedd). Daeth y Ffrisiaid Dwyreiniol a'r Ffrisiaid Gogleddol dan reolaeth Prwsia yn y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, ac heddiw maent yn rhan o'r Almaen. Cadwodd y Ffrisiaid eu hunaniaeth ar wahân hyd ddiwedd y 19eg ganrif, ond heddiw maent wedi cymhathu'n gryf â'r Iseldirwyr a'r Almaenwyr. Yr iaith Ffriseg yw'r brif nodwedd sy'n parhau i nodi hunaniaeth y Ffrisiaid.[4]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 Bodlore-Penlaez, Mikael. Atlas of Stateless Nations in Europe (Talybont, Y Lolfa, 2011), t. 90.
  2. Bodlore-Penlaez (2011), t. 157.
  3. Minahan, James. One Europe, Many Nations: A Historical Dictionary of European National Groups (Greenwood Publishing, 2000).
  4. 4.0 4.1 Mackenzie, John M. Peoples, Nations and Cultures: An A-Z of the Peoples of the World, Past and Present (Weidenfeld & Nicolson, Llundain, 2005), t. 333.