Pepin Fychan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Pépin the younger.jpg|thumb|right|Pepin Fychan]]
[[Delwedd:Pépin the younger.jpg|bawd|dde|Pepin Fychan]]


Roedd '''Pepin Fychan''', weithiau '''Pepin III''', hefyd '''Pippin''', yn frenin y [[Ffranciaid]] o [[751]] hyd [[768]]. Mae'n fwyaf adnabyddus fel tad [[Siarlymaen]].
Roedd '''Pepin Fychan''', weithiau '''Pepin III''', hefyd '''Pippin''', yn frenin y [[Ffranciaid]] o [[751]] hyd [[768]]. Mae'n fwyaf adnabyddus fel tad [[Siarlymaen]].

Fersiwn yn ôl 16:39, 3 Ionawr 2017

Pepin Fychan

Roedd Pepin Fychan, weithiau Pepin III, hefyd Pippin, yn frenin y Ffranciaid o 751 hyd 768. Mae'n fwyaf adnabyddus fel tad Siarlymaen.

Ganed Pepin yn 714 yn Jupille, gerllaw Liège, yn fab i Siarl Martel a Rotrude o Treves). Roedd Siarl Martel wedi uno teyrnasoedd y Ffranciaid, ac fel Maer y Plas, ef oedd y gwir reolwr, nid y brenin. Ar farwolaeth Siarl Martel yn 741, rhannwyd ei diriogaethau rhwng ei ddau fab cyfreithlon; gyda Carloman yn rheoli fel Maer y Plas yn Neustria a Pepin fel Maer y Plas yn Austrasia. Yn 747 ymddiswyddodd Carloman ac aeth i fynachlog, gan adael Pepin yn unig reolwr.

Gyda chydsyniad y Pab, diorseddodd Pepin y brenin Childeric III, yr olaf o linach y Merofingiaid, a chyhoeddodd ei hun yn frenin y Ffranciaid, y brenin Carolingaidd cyntaf. Gorchfygodd y Lombardiaid ac yn 759 cipiodd Narbonne, gan yrru'r Saraseniaid o Gâl. Bu farw yn Saint Denis yn 768.