Galatiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Addbot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 41 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q26847 (translate me) |
B →top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 4edd ganrif → 4g using AWB |
||
Llinell 11: | Llinell 11: | ||
Ymsefydlasant yng ngorllewin canolbarth [[Asia Leiaf|Anatolia]] ar ôl cael eu gwahodd yno gan y brenin [[Nicomedes I]] o deyrnas [[Bithynia]] i'w gynorthwyo yn erbyn y [[Persia]]id. Ymladdasant sawl gwaith yn erbyn brenhinoedd [[Pergamon]]; dethlir buddugoliaethau'r Pergamoniaid drsotynt mewn cyfres o gerfluniau enwog sydd wedi goroesi fel copïau Rhufeinig. Yn ddiweddarach daeth eu tiriogaeth yn rhan o'r [[Ymerodraeth Rufeinig]], ond dim ond ar ôl brwydr hir i gadw eu hannibyniaeth a barodd o [[189 CC]] pan gollasant frwydr bwysig, hyd at [[25 CC]] pan greodd yr [[Ymerodron Rhufeinig|ymerodr]] [[Augustus]] dalaith [[Galatia]]. |

Ymddengys fod y [[Llythyr Paul at y Galatiaid|llythyr enwog at y Galatiaid]] gan [[Paul|Sant Paul]] yn annerch cymunedau [[Cristnogaeth|Cristnogol]] ifainc mewn rhannau gwledig o Galatia. Ymddengys fod yr iaith Alateg wedi parhau yn y parthau hynny hyd at y [[3edd ganrif|3edd]] neu'r [[ |
Ymddengys fod y [[Llythyr Paul at y Galatiaid|llythyr enwog at y Galatiaid]] gan [[Paul|Sant Paul]] yn annerch cymunedau [[Cristnogaeth|Cristnogol]] ifainc mewn rhannau gwledig o Galatia. Ymddengys fod yr iaith Alateg wedi parhau yn y parthau hynny hyd at y [[3edd ganrif|3edd]] neu'r [[4g]] cyn iddi gael ei disodli gan yr iaith [[Groeg|Roeg]] ac ar ôl hynny [[Tyrceg]]. |
||
==Gweler hefyd== |
==Gweler hefyd== |
Fersiwn yn ôl 15:47, 3 Ionawr 2017
- Gweler hefyd Galatia a Galatia (gwahaniaethu).
Yr oedd y Galatiaid yn bobloedd Celtaidd a fudodd o ardal yng nghanolbarth Ewrop, trwy'r Balcanau, i fyw yn Asia Leiaf tua 278 CC. Mae awduron Clasurol yn dweud eu bod nhw wedi'u rhannu'n dri llwyth mawr - y Tolisto(b)agii, y Trocmi a'r Tectosages - a bod y llwythau hynny yn eu tro wedi'u rhannu'n bedwar is-lwyth yr un (tetrarchau). Roedd eu hiaith, Galateg, yn debyg iawn i'r iaith Aleg a siaredid yng Ngâl.
Ymsefydlasant yng ngorllewin canolbarth Anatolia ar ôl cael eu gwahodd yno gan y brenin Nicomedes I o deyrnas Bithynia i'w gynorthwyo yn erbyn y Persiaid. Ymladdasant sawl gwaith yn erbyn brenhinoedd Pergamon; dethlir buddugoliaethau'r Pergamoniaid drsotynt mewn cyfres o gerfluniau enwog sydd wedi goroesi fel copïau Rhufeinig. Yn ddiweddarach daeth eu tiriogaeth yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig, ond dim ond ar ôl brwydr hir i gadw eu hannibyniaeth a barodd o 189 CC pan gollasant frwydr bwysig, hyd at 25 CC pan greodd yr ymerodr Augustus dalaith Galatia.
Ymddengys fod y llythyr enwog at y Galatiaid gan Sant Paul yn annerch cymunedau Cristnogol ifainc mewn rhannau gwledig o Galatia. Ymddengys fod yr iaith Alateg wedi parhau yn y parthau hynny hyd at y 3edd neu'r 4g cyn iddi gael ei disodli gan yr iaith Roeg ac ar ôl hynny Tyrceg.