Henri de La Tour d’Auvergne, vicomte de Turenne: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B →Cyfeiriadau: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Image:Henri de la Tour d'Auvergne-Bouillon.jpg| |
[[Image:Henri de la Tour d'Auvergne-Bouillon.jpg|bawd|dde|200px|Turenne.]] |
||
Cadfridog Ffrengig yn y [[Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain]] oedd '''Henri de La Tour d'Auvergne, vicomte de Turenne''', a adnabyddir fel rheol fel '''Turenne''' ([[11 Medi]] [[1611]] - [[27 Gorffennaf]] [[1675]]). |
Cadfridog Ffrengig yn y [[Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain]] oedd '''Henri de La Tour d'Auvergne, vicomte de Turenne''', a adnabyddir fel rheol fel '''Turenne''' ([[11 Medi]] [[1611]] - [[27 Gorffennaf]] [[1675]]). |
Fersiwn yn ôl 12:18, 3 Ionawr 2017
Cadfridog Ffrengig yn y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain oedd Henri de La Tour d'Auvergne, vicomte de Turenne, a adnabyddir fel rheol fel Turenne (11 Medi 1611 - 27 Gorffennaf 1675).
Bywgraffiad
Ganed Turenne yn Sedan, Ardennes, yn awr yn nwyrain Ffrainc ond yr adeg honno yn dywysogaeth annibynnol. Roedd yn ail fab i Henri de La Tour d'Auvergne, tywysog Sedan a'i wraig Elisabeth o Nassau. Magwyd ef fel Protestant, ond troes at yr Eglwys Gatholig yn 1668.
Yn 1630, daeth yn filwr dros Ffrainc. Yn fuan roedd wedi codi i safle marechal-de-camp, ac yn 1643 penodwyd ef yn Farsial, yna yn 1660 yn Farsial-cyffredinol Ffrainc, un o ddim ond chwech person i ddal y teil yma erioed.
Roedd Turenne yn un o gadfridogion amlycaf y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain, ac ennillodd nifer o fuddigoliaethau pwysig. Lladdwyd ef bron ar ddechrau Brwydr Salzbach yn 1675.