Ystorya de Carolo Magno: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 13eg ganrif13g, 12fed ganrif12g using AWB
Llinell 1: Llinell 1:
Cadwyn o chwedlau [[Cymraeg Canol]] am [[Siarlymaen]] (''Carolus Magnus'' neu ''Charlemagne'', 747-814), brenin y [[Ffranciaid]], a'i farchogion yw '''Ystorya de Carolo Magno''' ('Hanes Siarlymaen'). Cerddi hir [[Ffrangeg]] a gyfansoddwyd yn y [[12fed ganrif]] oedd y testunau gwreiddiol ond fe'u troswyd mewn [[rhyddiaith Cymraeg Canol]] gan [[cyfarwydd|gyfarwyddiaid]] anhysbys (ond gweler isod yn achos ''[[Cronicl Turpin]]'') o tua dechrau'r [[13eg ganrif]] ymlaen. Cedwir y testunau gorau fel casgliad neilltuol dan y teitl ''Ystorya de Carolo Magno'' yn [[Llyfr Coch Hergest]] (tua 1382-1410).
Cadwyn o chwedlau [[Cymraeg Canol]] am [[Siarlymaen]] (''Carolus Magnus'' neu ''Charlemagne'', 747-814), brenin y [[Ffranciaid]], a'i farchogion yw '''Ystorya de Carolo Magno''' ('Hanes Siarlymaen'). Cerddi hir [[Ffrangeg]] a gyfansoddwyd yn y [[12g]] oedd y testunau gwreiddiol ond fe'u troswyd mewn [[rhyddiaith Cymraeg Canol]] gan [[cyfarwydd|gyfarwyddiaid]] anhysbys (ond gweler isod yn achos ''[[Cronicl Turpin]]'') o tua dechrau'r [[13g]] ymlaen. Cedwir y testunau gorau fel casgliad neilltuol dan y teitl ''Ystorya de Carolo Magno'' yn [[Llyfr Coch Hergest]] (tua 1382-1410).


Mae cefndir y chwedlau yn grefyddol, gan ymdroi o amgylch y rhyfeloedd rhwng Siarlymaen a'i gynghreiriaid a'r [[Mwriaid]] [[Islam]]aidd yn [[Sbaen]] a'i gynghreiriaid hwythau (yn cynnwys y [[Basgiaid]] Cristnogol).
Mae cefndir y chwedlau yn grefyddol, gan ymdroi o amgylch y rhyfeloedd rhwng Siarlymaen a'i gynghreiriaid a'r [[Mwriaid]] [[Islam]]aidd yn [[Sbaen]] a'i gynghreiriaid hwythau (yn cynnwys y [[Basgiaid]] Cristnogol).

Fersiwn yn ôl 09:35, 3 Ionawr 2017

Cadwyn o chwedlau Cymraeg Canol am Siarlymaen (Carolus Magnus neu Charlemagne, 747-814), brenin y Ffranciaid, a'i farchogion yw Ystorya de Carolo Magno ('Hanes Siarlymaen'). Cerddi hir Ffrangeg a gyfansoddwyd yn y 12g oedd y testunau gwreiddiol ond fe'u troswyd mewn rhyddiaith Cymraeg Canol gan gyfarwyddiaid anhysbys (ond gweler isod yn achos Cronicl Turpin) o tua dechrau'r 13g ymlaen. Cedwir y testunau gorau fel casgliad neilltuol dan y teitl Ystorya de Carolo Magno yn Llyfr Coch Hergest (tua 1382-1410).

Mae cefndir y chwedlau yn grefyddol, gan ymdroi o amgylch y rhyfeloedd rhwng Siarlymaen a'i gynghreiriaid a'r Mwriaid Islamaidd yn Sbaen a'i gynghreiriaid hwythau (yn cynnwys y Basgiaid Cristnogol).

Y testunau yw:

Cyfieithwyd neu droswyd y cerddi Ffrangeg i sawl iaith Ewropeaidd, ond mae'r addasiadau Cymraeg yn sefyll allan am eu bod yn rhyddiaith yn hytrach na cherddi. Yn ôl Stephen J. Williams, "Haedda camp cyfieithwyr y chwedlau am Siarlymaen ei chanmol yn fawr. Ceir ynddynt enghreifftiau o ryddiaith Gymraeg y cyfnod canol ar ei disgleiriaf a'i noblaf".[1]

Cyfeiriadau

  1. Stephen J. Williams, 'Rhai Cyfieithiadau', yn Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Oesau Canol (Gwasg Gomer, 1974), tud. 307.

Llyfryddiaeth

  • Stephen J. Williams (gol.), Ystorya de Carolo Magno (Gwasg Prifysgol Cymru, 1930; argraffiad newydd 1968).