Gwalchmai ap Gwyar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Legobot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 22 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q831685 (translate me) |
B →top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 14eg ganrif → 14g using AWB |
||
Llinell 7: | Llinell 7: | ||
Mae'n gymeriad pwysig yn ''[[Historia Regum Britanniae]]'' [[Sieffre o Fynwy]], lle mae'n un o farchogion gorau Arthur ac yn etifedd posibl i'r deyrnas nes iddo gael ei ladd gan ŵyr [[Medrawd]]. Mae'r testun anghyflawn diweddarach ''Genedigaeth Arthur'' yn gwneud [[Gwyar]], mam Gwalchmai a chwaer Arthur, yn briod i Emyr Llydaw ac felly'n fam i [[Hywel ab Emyr Llydaw]]. |
Mae'n gymeriad pwysig yn ''[[Historia Regum Britanniae]]'' [[Sieffre o Fynwy]], lle mae'n un o farchogion gorau Arthur ac yn etifedd posibl i'r deyrnas nes iddo gael ei ladd gan ŵyr [[Medrawd]]. Mae'r testun anghyflawn diweddarach ''Genedigaeth Arthur'' yn gwneud [[Gwyar]], mam Gwalchmai a chwaer Arthur, yn briod i Emyr Llydaw ac felly'n fam i [[Hywel ab Emyr Llydaw]]. |
||
Ymddengys Gauvain yng ngwaith [[Chrétien de Troyes]], lle mae'n batrwm o [[sifalri]]. Ef yw arwr y chwedl Saesneg o'r [[ |
Ymddengys Gauvain yng ngwaith [[Chrétien de Troyes]], lle mae'n batrwm o [[sifalri]]. Ef yw arwr y chwedl Saesneg o'r [[14g]], ''[[Sir Gawain and the Green Knight]]''. |
||
[[Categori:Cylch Arthur]] |
[[Categori:Cylch Arthur]] |
Fersiwn yn ôl 09:28, 3 Ionawr 2017
Cymeriad a gysylltir a'r chwedlau am y brenin Arthur yw Gwalchmai ap Gwyar, hefyd Gwalchmei (Lladin: Gualguainus, Ffrangeg: Gauvain, Saesneg: Gawain).
Ymddengys Gwalchmai fel un o ŵyr Arthur yn chwedl Culhwch ac Olwen, lle disgrifir ef fel nai i Arthur. Mae'n un o'r gwŷr a ddewisir gan Arthur i fynd gyda Culhwch i chwilio am Olwen. Yn Llyfr Du Caerfyrddin enwir ei farch fel Ceingaled, a dywedir fod ei fedd ym Mheryddon. Dywed William o Malmesbury yn ei De Rebus Gestis Anglorum iddo deyrnasu mewn rhan o Brydain a eilw yn Walweitha, a dywed fod ei fedd yn Rhos (yn Sir Benfro yn awr). Ceir yr enw Castell Gwalchmai yn y cantref hwnnw.
Mae'n gymeriad pwysig yn Historia Regum Britanniae Sieffre o Fynwy, lle mae'n un o farchogion gorau Arthur ac yn etifedd posibl i'r deyrnas nes iddo gael ei ladd gan ŵyr Medrawd. Mae'r testun anghyflawn diweddarach Genedigaeth Arthur yn gwneud Gwyar, mam Gwalchmai a chwaer Arthur, yn briod i Emyr Llydaw ac felly'n fam i Hywel ab Emyr Llydaw.
Ymddengys Gauvain yng ngwaith Chrétien de Troyes, lle mae'n batrwm o sifalri. Ef yw arwr y chwedl Saesneg o'r 14g, Sir Gawain and the Green Knight.