Siartiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
ehangu |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[ |
[[Delwedd:William Edward Kilburn - View of the Great Chartist Meeting on Kennington Common - Google Art Project.jpg|dde|bawd|300px|Cyfarfod o'r Siartwyr yn ''Kennington Common'', Llundain yn 1848]] |
||
Mudiad a hawliai wellianau yn amodau byw a hawliau dinesig y gweithiwr cyffredin rhwng 1838 a 1858 oedd '''Siartiaeth''' neu '''Fudiad y Siartwyr'''. Roedd y mudiad yn weithgar yng [[Cymru|Nghymru]] a [[Lloegr]]. Cafodd ei sefydlu gan 'Siarter y Bobl' a gyhoeddwyd ym Mai 1838. |
Mudiad a hawliai wellianau yn amodau byw a hawliau dinesig y gweithiwr cyffredin rhwng 1838 a 1858 oedd '''Siartiaeth''' neu '''Fudiad y Siartwyr'''. Roedd y mudiad yn weithgar yng [[Cymru|Nghymru]] a [[Lloegr]]. Cafodd ei sefydlu gan 'Siarter y Bobl' a gyhoeddwyd ym Mai 1838. |
||
Fersiwn yn ôl 06:10, 3 Ionawr 2017
Mudiad a hawliai wellianau yn amodau byw a hawliau dinesig y gweithiwr cyffredin rhwng 1838 a 1858 oedd Siartiaeth neu Fudiad y Siartwyr. Roedd y mudiad yn weithgar yng Nghymru a Lloegr. Cafodd ei sefydlu gan 'Siarter y Bobl' a gyhoeddwyd ym Mai 1838.
Roedd yn ei anterth yn 1839, 1842, a 1848 a chyflwynwyd deiseb i Dŷ'r Cyffredin yn hawlio newid. Ar y cyfan, defnyddiwyd dulliau cwbwl ddi-drais fel cyfarfodydd a deisebion. Yr ardaloedd mwyaf gweithgar oedd ardaloedd glo De Cymru, Gogledd Lloegr, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Ardal y Crochendai, Stafford a'r Black Country, sef bwrdeisdrefi Dudley, Sandwell a Walsall.
Cymru
Yng Nghymru, maes glo'r de oedd cadarnle'r Siartwyr. Yng Nghaerfyrddin, y Siartydd mwyaf amlwg oedd Hugh Williams, a oedd yn frawd yng nghyfraith i Richard Cobden, y gwleidydd radicalaidd. Yn Llanelli yr oedd David Rees golygydd Y Diwygiwr yn ffigwr amlwg. Ym Merthyr Tudful, roedd Morgan Williams; yr enwog Dr Willliam Price o Lantrisant; a John Frost yn Sir Fynwy. Dedfrydwyd Frost a'i ddilynwyr yn Neuadd y Sir, Trefynwy i'w crogi a'u chwarteru.