Robert Thomas (Ap Vychan): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
B →Gwaith llenyddol: canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif → 19g using AWB |
||
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
==Gwaith llenyddol== |
==Gwaith llenyddol== |
||
Gwnaeth Ap Vychan dipyn o enw iddo'i hun fel bardd, gan ennill dwy [[cadair|gadair]] am ei [[awdl]]au yn [[Eisteddfod]]au'r [[Y Rhyl|Rhyl]] a [[Caer|Chaer]], ond nid oes llawer o werth i'w farddoniaeth. Fe'i cofir yn bennaf fel awdur [[rhyddiaith]] mewn arddull syml, diddorol, a byw ar y pynciau agosaf at ei galon, sef cymdeithas, traddodiadau a chymeriadau Penllyn a Gwynedd. Mae ei [[hunangofiant]] yn ddogfen gymdeithasol bwysig ar fywyd gwerin cefn gwlad gogledd Cymru yn hanner cyntaf y [[ |
Gwnaeth Ap Vychan dipyn o enw iddo'i hun fel bardd, gan ennill dwy [[cadair|gadair]] am ei [[awdl]]au yn [[Eisteddfod]]au'r [[Y Rhyl|Rhyl]] a [[Caer|Chaer]], ond nid oes llawer o werth i'w farddoniaeth. Fe'i cofir yn bennaf fel awdur [[rhyddiaith]] mewn arddull syml, diddorol, a byw ar y pynciau agosaf at ei galon, sef cymdeithas, traddodiadau a chymeriadau Penllyn a Gwynedd. Mae ei [[hunangofiant]] yn ddogfen gymdeithasol bwysig ar fywyd gwerin cefn gwlad gogledd Cymru yn hanner cyntaf y [[19g]]. |
||
==Llyfryddiaeth== |
==Llyfryddiaeth== |
Fersiwn yn ôl 00:00, 3 Ionawr 2017
Llenor a gweinidog Cymreig o ardal Penllyn, Gwynedd, oedd Robert Thomas, enw barddol Ap Vychan neu Ap Fychan (11 Awst 1809 – 23 Ebrill 1880). Roedd yn perthyn i Fychaniaid Caer Gai ac felly'n ddisgynydd pell i Rowland Vaughan, Gwerful Fychan a Tudur Penllyn.
Bywgraffiad
Ganed Ap Vychan (sic gyda 'V') mewn bwthyn wrth waelod Pennant-Lliw ym mhlwyf Llanuwchllyn. Fe'i maged mewn amgylchiadau caled iawn. Gweithiodd englyn i'w fam,
- Llon oedd, llawen o hyd, — eon wenai
- Yn wyneb caledfyd;
- Canai hi heb ofni'r byd
- Yn oedfa gerwin adfyd.
Cafodd ei addysg i gyd gan ei dad, Dafydd Thomas, a ddysgodd iddo ddarllen a sgwennu Cymraeg ac elfennau rhifyddiaeth. Ar ôl gweithio fel gwas yma ac acw, aeth i fod yn brentis yng Nghonwy a phriododd ferch ei feistr, William Jones. Dechreuodd bregethu. Daeth Ap Vychan yn gyfaill i'r Methodus mawr J. R. Jones, Ramoth. Bu'n weinidog yn Ninas Mawddwy a phlwyf Rhiwabon, ymysg lleoedd eraill, a chafodd waith fel golygydd Y Dysgedydd, cylchgrawn yr Annibynwyr. Yn 1873 fe'i benodwyd yn athro diwinyddiaeth yng Ngholeg y Bala a daeth i adnabod Michael D. Jones. Bu farw yn 1880.
Gwaith llenyddol
Gwnaeth Ap Vychan dipyn o enw iddo'i hun fel bardd, gan ennill dwy gadair am ei awdlau yn Eisteddfodau'r Rhyl a Chaer, ond nid oes llawer o werth i'w farddoniaeth. Fe'i cofir yn bennaf fel awdur rhyddiaith mewn arddull syml, diddorol, a byw ar y pynciau agosaf at ei galon, sef cymdeithas, traddodiadau a chymeriadau Penllyn a Gwynedd. Mae ei hunangofiant yn ddogfen gymdeithasol bwysig ar fywyd gwerin cefn gwlad gogledd Cymru yn hanner cyntaf y 19g.
Llyfryddiaeth
- Gwaith Ap Vychan, gol. O. M. Edwards (Cyfres y Fil)
Ceir detholiad da o ryddiaith Ap Vychan yn y gyfrol Hunangofiant ac Ysgrifau Ap Fychan, gol. W. Lliedi Williams (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948). Cyhoeddwyd rhai o'i draethodau yn y cofiant iddo gan Michael D. Jones a D. V. Thomas.