Portiwgal: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B Wikidata list updated |
Dim crynodeb golygu |

Llinell 14: | Llinell 14: | ||
ieithoedd_swyddogol = [[Portiwgaleg]] 1 | |
ieithoedd_swyddogol = [[Portiwgaleg]] 1 | |

teitlau_arweinwyr = • [[Arlywyddion Portiwgal|Arlywydd]]
• [[Prif Weinidogion Portiwgal|Prif Weinidog]]

teitlau_arweinwyr = • [[Arlywyddion Portiwgal|Arlywydd]]
• [[Prif Weinidogion Portiwgal|Prif Weinidog]]

enwau_arweinwyr = [[ |
enwau_arweinwyr = [[Marcelo Rebelo de Sousa]]
[[António Costa]]| |

digwyddiad_sefydlu'r_wladwriaeth = [[Ffurfiant]]| |
digwyddiad_sefydlu'r_wladwriaeth = [[Ffurfiant]]| |

digwyddiadau_gwladwriaethol = •Annibyniaeth
•Cydnabuwyd| |
digwyddiadau_gwladwriaethol = •Annibyniaeth
•Cydnabuwyd| |
Fersiwn yn ôl 02:08, 20 Rhagfyr 2016

Arwyddair: dim | |||||
Anthem: A Portuguesa | |||||
Prifddinas | Lisbon | ||||
Dinas fwyaf | Lisbon | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Portiwgaleg 1 | ||||
Llywodraeth | Gweriniaeth | ||||
• Arlywydd • Prif Weinidog |
Marcelo Rebelo de Sousa António Costa | ||||
Ffurfiant •Annibyniaeth •Cydnabuwyd |
868 24 Mehefin 1128 5 Hydref 1143 | ||||
Esgyniad i'r UE | 1 Ionawr 1986 | ||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
92,3915 km² (110fed) 0.5 | ||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2005 - Cyfrifiad 2001 - Dwysedd |
10,148,259 (76fed) 10,495,000 114/km² (87fed) | ||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $203.4 biliwn (41af) $19,335 (37fed) | ||||
Indecs Datblygiad Dynol (2003) | 0.904 (27fed) – uchel | ||||
Arian cyfred | Euro (€) 2 (EUR )

Cylchfa amser - Haf |
WET (UTC) WEST (UTC+1) | ||||
Côd ISO y wlad | .pt | ||||
Côd ffôn | +351

1 Mirandeg cydnabir yn swyddogol ym Miranda do Douro 2cyn i 1999: Escudo Portiwgaidd |
Gwlad a gweriniaeth yn ne-orllewin Ewrop yw'r Weriniaeth Bortiwgalaidd neu Portiwgal (Portiwgaleg: Português). Mae hi'n gorwedd rhwng Sbaen a'r Cefnfor Iwerydd ac mae'r ynysoedd Azores a Madeira hefyd yn rhan o'r wlad. Prifddinas Portiwgal yw Lisbon.
Daearyddiaeth
- Prif: Daearyddiaeth Portiwgal
Hanes
- Prif: Hanes Portiwgal
Mae hanes Portiwgal yn y cyfnod cynnar yn rhan o hanes Penrhyn Iberia yn gyffredinol. Daw'r enw Portiwgal o'r enw Rhufeinig Portus Cale. Yn y cyfnod cyn dyfodiad y Rhufeiniad, poblogid yr ardal sydd yn awr yn ffurfio Portiwgal gan nifer o bobloedd wahanol, yn cynnwyd y Lwsitaniaid a'r Celtiaid. Ymwelodd y Ffeniciaid a'r Carthaginiaid a'r ardal, a bu rhan ohoni dan reolaeth Carthago am gyfnod.
Ymgorfforwyd yr ardal yn yr Ymerodraeth Rufeinig wedi i Cathago gael ei gorchfygu; roedd talaith Rufeinig Lusitania, wedi 45 CC, yn cyfateb yn fras i'r wlad bresennol. Wedi diwedd yr ymerodraeth, meddiannwyd y wlad gan lwythau Almaenig megis y Suevi, Buri a'r Fisigothiaid. Wedi'r goresgyniad Islamaidd ar ddechrau'r 8fed ganrif daeth yn rhan o Al Andalus. Ffurfiwyd tiriogaeth o'r enw Portiwgal yn 868, wedi i'r Cristioniogion ddechrau ad-ennill tir yn y Reconquista. Wedi buddigoliaeth dros y Mwslimiaid yn Ourique yn 1139, ffurfiwyd Teyrnas Portiwgal. Parhaodd yr ymladd yn erbyn y Mwslimiaid, ac yn 1249 cipiwyd yr Algarve gan y Cristionogion, gan sefydlu ffiniau presennol Portiwgal.
Yn niwedd y 14eg ganrif, hawliwyd coron Portiwgal gan frenin Castilla, ond bu gwrthryfel poblogaidd, a gorchfygwyd Castillia ym Mrwydr Aljubarrota gan Ioan o Aviz, a ddath yn Ioan I, brenin Portiwgal. Drod y blynyddoedd nesaf, bu gan Portiwgal ran flaenllaw yn y gwaith o fforio a gwladychu gwledydd tu allan i Ewrop. Yn 1415, meddiannodd Ceuta yng Ngogledd Affrica, ei gwladfa gyntaf; dilynwyd hyn gan feddiannu Madeira a'r Azores. Yn 1500, darganfuwyd Brasil gan Pedro Álvares Cabral, a'i hawliodd i goron Portiwgal, a deng mlynedd wedyn, cipiwyd Goa yn India, Ormuz yng Nghulfor Persia a Malacca yn yr hyn sy'n awr yn Malaysia. Cyrhaeddodd llongwyr Portiwgal cyn belled a Siapan ac efallai Awstralia.
Wedi marwolaeth y brenin Sebastian heb aer mewn brwydr ym Moroco, hawliwyd ei orsedd gan Philip II, brenin Sbaen, a rhwng 1580 a 1640, roedd brenin Sbaen yn frenin Portiwgal hefyd, er ei bod yn parhau i gael ei hystyried fel teyrnas annibynnol. Yn 1640, bu gwrthryfel, a chyhoeddwyd Ioan IV yn frenin Portiwgal.
O ddechrau'r 19eg ganrif, dechreuodd grym Portiwgal edwino; daeth Brasil yn annibynnol yn 1822, er iddi feddiannu rhannau o Affrica yn nes ymlaen yn y ganrif, yn cynnwys y tiriogaethau sy'n awr yn wledydd Cabo Verde, São Tomé a Príncipe, Gini-Bissau, Angola a Mozambique.
Wedi gwrthryfel yn Lisbon, dymchwelwyd y frenhiniaeth a sefydlwyd gweriniaeth ddemocrataidd yn 1910. Yn 1926, bu gwrthryfel milwrol a sefydlwyd llywodraeth filwrol a arweiniodd at unbennaeth António de Oliveira Salazar. Collodd Portiwgal ei meddiannau yn India pan oresgynnwyd hwy gan fyddin India yn 1961. Tua dechrau'r 1960au hefyd y dechreuodd rhyfeloedd annibyniaeth yn Angola a Mozambique. Wedi gwrthryfel a adnabyddir fel y Chwyldro Carnasiwn yn 1974, rhoddwyd diwedd ar undennaeth a daeth Portiwgal yn wlad ddemocrataidd. Yn 1999, dychwelwyd Macau, yr olaf o'i meddiannau tramor, i Tseina.
Gwleidyddiaeth
- Prif: Gwleidyddiaeth Portiwgal
Pobl o Bortiwgal
Rhestr Wicidata:
Dolenni allanol
- (Portiwgaleg) Portal swyddogol y Llywodraeth Portiwgal
- (Portiwgaleg) Gwefan swyddogol y Senedd Portiwgal